20 Mehefin 2023

Ysgogi defnyddwyr i roi gwybod am gynnwys a allai fod yn niweidiol

Er gwaethaf y manteision niferus o fod ar-lein, mae'r rhan fwyaf ohonom yn dod ar draws deunydd a allai fod yn niweidiol. Canfu ymchwil Ofcom i chwech o bob 10 defnyddiwr ddweud eu bod wedi dod ar draws o leiaf un darn o gynnwys niweidiol ar-lein yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn unig. Mewn rhai achosion, mae'r deunydd yn anghyfreithlon a dylid ei ddileu. Ond mewn sefyllfaoedd eraill, fel achosion o fwlio ac aflonyddu, neu hyrwyddo hunan-niweidio, mae'r cynnwys yn gyfreithlon ond gall achosi niwed, ac efallai y bydd defnyddwyr am osgoi ei weld.

Rhoi gwybod am gynnwys a allai fod yn niweidiol

Mae pobl yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth nodi cynnwys a allai fod yn niweidiol, a all wedyn gael ei gymedroli a'i labelu'n sensitif - yn enwedig pan fydd yn amwys ac yn anodd i systemau awtomataidd ei synhwyro. Ond er gwaetha'r ffaith y deuir o hyd i gynnwys a allai fod yn niweidiol yn aml, dim ond dau berson o bob 10 sy'n dweud eu bod wedi rhoi gwybod am y darn olaf o gynnwys a allai fod yn niweidiol y daethant ar ei draws.

Mae'r rhesymau'n gymhleth. Weithiau mae wedi'i achosi gan ddiffyg ymwybyddiaeth neu wybodaeth am sut i roi gwybod. Dyna pam y lansiodd Ofcom ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc. Hefyd, ceir teimlad nad yw rhoi gwybod yn gwneud unrhyw wahaniaeth, neu mai cyfrifoldeb rhywun arall ydyw. Ond ffactor arall, twyllodrus o syml, yw'r awgrymiadau ac ysgogiadau i roi gwybod am gynnwys y mae defnyddwyr yn dod ar ei draws wrth iddynt bori. Mae ymchwil ymddygiadol wedi hen sefydlu y gall hyd yn oed newidiadau bach i'r amgylchedd yr ydym yn gwneud penderfyniadau ynddo (y bensaernïaeth dewis) gael effeithiau rhyfeddol o fawr.  Aethom ati i fesur y gwahaniaeth y gallant ei wneud i roi gwybod am gynnwys niweidiol.

Yr arbrawf

Gwnaethon ni greu fersiwn ffug o lwyfan rhannu fideos (VSP) a recriwtio sampl gynrychioliadol o oedolion sy'n defnyddio VSP. Fe'u rhoddwyd mewn grwpiau ar hap a gofynnwyd iddynt bori chwe chlip fideo, hanner â chynnwys niwtral a hanner â chynnwys a allai fod yn niweidiol. Defnyddiwyd mesurau diogelu i warchod cyfranogwyr. Roedd gan bob grŵp yr un profiad defnyddiwr ar wahân i un newid bach i'r opsiynau ar gyfer rhoi gwybod:

Rheolydd: lleolwyd yr opsiwn rhoi gwybod y tu ôl i'r elipsis (...) ar y prif far swyddogaethau. Dyma nodwedd o'r dyluniad a ddefnyddir yn gyffredinol gan VSPs.

Amlygrwydd: Symudwyd yr opsiwn rhoi gwybod o'r tu ôl i'r elipsis i faner ar y prif far opsiynau.  Tynnir ein sylw at yr hyn sy'n amlwg. Gallai cynyddu amlygrwydd annog mwy o bobl i roi gwybod.

Amlygrwydd plws ysgogiad gweithredol: ysgogiad ychwanegol pan fu i gyfranogwr wneud sylw ar y cynnwys neu ei 'anhoffi'. Y theori yma yw efallai y bydd cyfran o'r defnyddwyr sy'n gweld cynnwys yn dramgwyddus yn anhoffi neu'n gwneud sylwadau yn lle rhoi gwybod. Gallai ysgogiad bach eu hannog i gyflwyno adroddiad.

Ffigur 1: Amlygrwydd: Y llwyfan VSP ffug gyda'r faner adrodd wedi'i hychwanegu

Rhyngwyneb defnyddiwr gyda dyn ar drên tiwb yn chwarae fideo. Mae’r swyddogaeth rhoi gwybod wedi’i dangos fel eicon fflag ar y lefel uwch o swyddogaethau.

Ffigur 2: ‘Ysgogiad gweithredol' i'r rhai yn y grŵp amlygrwydd plws ysgogiad gweithredol sy'n clicio 'anhoffi’.  Rhoddwyd ysgogiad tebyg i'r rhai a wnaeth sylwadau.

Hysbysiad naid yn dweud ‘Rydyn ni’n gweld eich bod wedi anhoffi’r postiad hwn. Ydych chi’n credu y gallai’r cynnwys hwn achosi niwed?

Ein canfyddiadau: llawer o ymgysylltu, dim llawer o roi gwybod

Y peth cyntaf wnaeth sefyll allan oedd - er eu bod yn pori ar lwyfan artiffisial - y bu'r cyfranogwyr yn brysur. Cliciodd hyd at 30% 'hoffi' ar gyfer fideos niwtral a chliciodd hyd at 27% 'anhoffi' am y fideos a allai fod yn niweidiol. Mae hyn yn galonogol am ei fod yn dangos yr oedd cyfranogwyr yn ymgysylltu ac yn rhyngweithio.

Yr ail ganfyddiad nodedig oedd i 98% o'r cyfranogwyr beidio â rhoi gwybod o gwbl pan oedd y swyddogaeth rhoi gwybod y tu ôl i elipsis. Efallai yr oeddent yn brysur yn rhyngweithio, ond nid oeddent yn brysur yn rhoi gwybod.

Ac mae hyn yn gwneud effaith yr ysgogiadau'n drawiadol. Yn syml, bu i fewnosod baner adrodd yn y prif far opsiynau beri i deirgwaith yn fwy o gyfranogwyr roi gwybod - o 2% i fyny i 6%.  Achosodd newid bach mewn amlygrwydd gynnydd gwerth chweil mewn gweithgarwch.

Ond mae'r effaith honno'n fach o'i gymharu ag effaith yr ysgogiad gweithredol, a drawsnewidiodd nifer y cyfranogwyr fu'n adrodd o 2% i 22%.

Mae'r ysgogiad yn defnyddio nifer o dechnegau mewnwelediad ymddygiadol – mae wedi'i dargedu (mae'n ymddangos dim ond ar gyfer y rhai sy'n gwneud sylwadau neu'n anhoffi, y maent yn fwy tebygol o fod yn fwy agored i roi gwybod); ac mae'n amserol (yn wahanol i ymgyrchoedd i annog rhoi gwybod, mae'n cyrraedd pobl ar y foment y maent yn gwneud penderfyniad). Serch hynny, mae graddfa'r effaith yn uwch nag yr oeddem wedi'i disgwyl. Ond yn ddiddorol, ni welsom ostyngiad yng nghywirdeb adroddiadau - felly ni fu'r cynnydd mewn adrodd ar draul pethau fel rhoi gwybod am ddeunydd niwtral.

Ffigur 3: Siart bar yn dangos canran y fideos â chynnwys a allai fod yn niweidiol y rhoddwyd gwybod amdanynt

Siart bar yn dangos y ganran o fideos a allai fod yn niweidiol y rhoddwyd gwybod amdanynt yn yr arbrawf. Gwnaeth 2% roi gwybod yn y rheolydd (heb fflag rhoi gwybod). Cododd rhoi gwybod yn y categori Amlygrwydd (gan ychwanegu fflag at y bensaernïaeth dewis) i 6%. Cododd rhoi gwybod yn y categori Amlygrwydd plws Ysgogiad Gweithredol (gan ychwanegu fflag ac ysgogiad ar y sgrîn at y bensaernïaeth dewis) i 22%.

Arbrawf vs byd go iawn

Mae'n bwysig nodi y gallai gogwydd dymunoldeb cymdeithasol ddylanwadu ar raddfa'r effaith - gallai cyfranogwyr gyflawni'r weithred sy'n gymdeithasol ddymunol (sef rhoi gwybod yn yr achos hwn) oherwydd ymdeimlad mai dyna'r hyn y dylent ei wneud wrth gymryd rhan mewn arbrawf.

At hynny, nid yw'r arbrawf yn profi effaith yr ysgogiadau hyn dros amser. Gallai gweld yr ysgogiad dro ar ôl tro ymwreiddio ymddygiad adrodd newydd ymysg cyfranogwyr, ond bydd hefyd yn lleihau ei amlygrwydd ac o bosib ei effaith.  Mae hyn yn bwysig am fod cymaint o ymddygiad ar VSPs yn digwydd mwy nag unwaith. Mae'n aml yn cael ei ailadrodd nifer o weithiau bob dydd.

Tarfu neu beidio â tharfu?

Er ei bod yn annoeth allosod effaith tymor hwy o'r canlyniadau hyn, mae'r treial yn rhoi cipolwg pwysig i ni ar ymddygiad tymor byrrach. Gall newidiadau dylunio bach fel cynyddu amlygrwydd yr opsiwn adrodd gael effaith arwyddocaol ar yr adroddiadau a wneir, a hynny, yn bwysig, heb fawr o darfu ar brofiad y defnyddiwr. Nid yw ychwanegu baner yn tynnu sylw defnyddwyr yn weithredol rhag pori, ond mae'r cynnydd mewn amlygrwydd yn sbarduno rhoi gwybod ychwanegol.

Mae'r ysgogiad gweithredol, er yn fwy effeithiol, heb os yn fwy mewnwthiol. Ceir tystiolaeth helaeth o'r gorddefnydd o negeseuon naid, ac maent yn torri ar draws profiad y defnyddiwr. Er hynny, maent eisoes yn cael eu defnyddio gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i wella diogelwch ar-lein - fel ysgogiad Twitter i ailystyried ymatebion trydar sy'n cynnwys iaith niweidiol . Ac mae dylunio deallus yn golygu nad yw'r holl ddefnyddwyr yn gweld nhw, dim ond y rhai y maent fwyaf perthnasol ar eu cyfer - yn yr achos hwn y rhai sy'n anhoffi neu'n gwneud sylwadau.

Mae defnydd gormodol o ysgogiadau gweithredol yn debygol o leihau eu hamlygrwydd a'u heffaith. Ond mae'r ymchwil hon yn awgrymu y gallant fod yn offeryn effeithiol. Efallai mai'r ffordd orau o ddefnyddio'r pŵer hwn yw targedu eu defnydd at rannau o'r byd ar-lein sydd â chynnwys mwy peryglus, er enghraifft, neu'r rhai a ddefnyddir gan ddefnyddwyr mwy agored i niwed, fel pobl ifanc dan 18 oed.

Pwy i ysgogi, pryd i ysgogi

Efallai bod yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu'n galonogol. Awgryma ein harbrofion y gellir newid cyfraddau adrodd isel iawn hyd yn oed gyda newidiadau bach i'r bensaernïaeth dewis. Ac mae ysgogiadau gweithredol wedi'u targedu yn llwybr addawol ar gyfer mesurau diogelwch a all annog ymddygiadau dymunol - heb fomio pawb.

Ysgrifennwyd y darn hwn gan Rupert Gill, yn seiliedig ar ymchwil gan Jonathan Porter, Alex Jenkins, John Ivory a Rupert Gill

Ymwadiad: Ni ddylid dehongli'r dadansoddiadau, y safbwyntiau a'r canfyddiadau yn yr erthygl hon fel safbwynt swyddogol Ofcom. Mae blogiau Mewnwelediad Ymddygiadol Ofcom wedi'u hysgrifennu fel pwyntiau o ddiddordeb. Ni fwriedir iddynt fod yn ddatganiad swyddogol o bolisi neu syniadau Ofcom.

Related content