1 Medi 2023

Ofcom yn penodi Simon Bucks i’w Fwrdd Cynnwys

Bydd Simon Bucks yn ymuno â Bwrdd Cynnwys Ofcom am dymor o dair blynedd, yn dechrau ar 1 Medi 2023.

Mae Bwrdd Cynnwys Ofcom yn bwyllgor sy’n rhan o Brif Fwrdd Ofcom. Mae ganddo gyfrifoldeb i ddarparu cyngor ar ystod eang o bynciau cynnwys, gan gynnwys rheoleiddio ansawdd a safonau teledu, radio a fideo-ar-alw.

Mae’r Bwrdd Cynnwys yn darparu profiad golygyddol a chynnwys ar lefel uwch i Ofcom. Mae’n cynnwys arbenigwyr o ystod o gefndiroedd masnachol, cyfryngau, telathrebu a darlledu.

Dywedodd Maggie Carver, Cadeirydd y Bwrdd Cynnwys: “Hoffwn estyn croeso i Simon i’r Bwrdd Cynnwys lle rwy’n gwybod y bydd ei brofiad hir ar lefel uwch mewn rolau golygyddol ym maes newyddion a materion cyfoes yn arbennig o fuddiol. Hoffwn hefyd ddiolch i Jonathan Baker, rhagflaenydd Simon, am ei chwe blynedd o wasanaeth rhagorol."

Cefndir Simon

Mae Simon Bucks wedi cael gyrfa hir ar lefel uwch ym maes darlledu a’r cyfryngau digidol. Mae ganddo brofiad fel newyddiadurwr ac fel swyddog gweithredol golygyddol, ac mae wedi gweithio i Sky News, London News Network ac ITN.

Mae Simon yn Gymrawd gyda Chymdeithas y Golygyddion ac yn flaenorol bu’n gyfarwyddwr ac yn Llywydd ar y Gymdeithas. Ef yw Ysgrifennydd Anrhydeddus y Gymdeithas Deledu Frenhinol ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr gyda’r Gymdeithas.

Yn fwyaf diweddar, Simon oedd Prif Weithredwr BFBS, y sefydliad nid-er-elw a sefydlwyd i ddiddanu a darparu gwybodaeth i Luoedd Arfog Prydain o amgylch y byd.

Nodiadau i olygyddion

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom sefydlu a chynnal Bwrdd Cynnwys. Mae gan y Bwrdd Cynnwys ddylanwad sylweddol dros benderfyniadau sy’n ymwneud â materion cynnwys ac sy’n golygu ystyried buddiannau gwahanol rannau o’r DU.

Caiff aelodau’r Bwrdd Cynnwys eu dethol o blith unigolion o gefndiroedd amrywiol o bob rhan o’r DU. Caiff pedwar aelod eu penodi i gynrychioli buddiannau a safbwyntiau pobl sy’n byw yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Rhanbarthau Lloegr.

Related content