18 Medi 2023

Ofcom yn nodi i GB News dorri rheolau didueddrwydd dyladwy

Mae ymchwiliad gan Ofcom wedi dod i’r casgliad heddiw bod rhifyn o Saturday Morning with Esther and Phil, a gafodd ei ddarlledu ar GB News ar 11 Mawrth 2023, wedi torri rheolau didueddrwydd dyladwy.

Mae Saturday Morning with Esther and Phil yn rhaglen drafod wythnosol dros ddwy awr a gaiff ei chyflwyno gan Esther McVey a Philip Davies, y ddau yn Aelodau Seneddol o’r Blaid Geidwadol wrth eu gwaith.

Yn y rhaglen arbennig hon, roedd cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw rhwng y ddau gyflwynydd a Changhellor y Trysorlys, Jeremy Hunt AS. Roedd y cyfweliad yn canolbwyntio ar ddull Llywodraeth y DU o fynd i’r afael â pholisïau economaidd a chyllidol cyn Cyllideb y Gwanwyn, a gafodd ei chyhoeddi bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Derbyniom 45 o gwynion gan wylwyr, a gododd bryderon bod y rhaglen wedi methu â chynnal didueddrwydd dyladwy.

Rheolau didueddrwydd dyladwy a rhyddid mynegiant

Mae Ofcom yn cydnabod, yn unol â’r hawl i ryddid mynegiant, bod darlledwyr yn rhydd i benderfynu ar ymagwedd olygyddol eu rhaglenni. Mae hyn yn cynnwys cynnig mathau arloesol o drafod i’w cynulleidfaoedd. Rydym hefyd yn ystyried ei bod yn hanfodol o raglenni materion cyfoes allu trafod a dadansoddi materion dadleuol a mabwysiadu safbwynt ar y materion hynny. Ond wrth wneud hynny, mae’n rhaid i ddarlledwyr lynu wrth y rheolau a nodir yn y Cod Darlledu.

Mae’r Cod yn glir bod y gofynion didueddrwydd dyladwy estynedig yn berthnasol pan fo rhaglenni’n ymdrin â materion gwleidyddol o bwys a pholisi cyhoeddus presennol. Yn benodol, mae Rheolau 5.11 a 5.12 yn ei gwneud yn ofynnol i ystod eang o safbwyntiau sylweddol gael eu cynnwys a chael pwys dyladwy mewn rhaglenni o’r fath, neu mewn rhaglenni amserol sydd â chysylltiad amlwg.

Ymchwiliad Ofcom

Roedd y cyfweliad yn y rhaglen gyda’r Canghellor a’r trafodaethau panel a ddilynodd yn ymwneud ag ymagwedd Llywodraeth y DU at amrywiol faterion polisi’n gysylltiedig â Chyllideb y Gwanwyn – sef digwyddiad gwleidyddol arwyddocaol o bwysigrwydd cenedlaethol. Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd treth bersonol a threth gorfforaeth, benthyca’r Llywodraeth; rôl rhagamcanu economaidd wrth osod cyllidebau; yr argyfwng costau byw; a chynllun HS2. Roedd GB News yn cydnabod bod y rhaglen yn ymdrin â phwnc llosg o ran gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus presennol a bod y rheolau didueddrwydd dyladwy yn berthnasol.

Canfu ein hymchwiliad, fodd bynnag, fod y rhaglen yn adlewyrchu gan amlaf o lawer amrywiol safbwyntiau gwahanol o fewn y Blaid Geidwadol wrth drafod y materion hyn.

Cyfeiriadau cyfyngedig iawn yn unig a gafwyd at safbwyntiau ehangach ar bolisi economaidd a chyllidol y DU yng nghyd-destun y gyllideb a oedd ar y gorwel. Er enghraifft, ni roddwyd unrhyw sylw go iawn yn unman yn y rhaglen i safbwyntiau gwleidyddion, pleidiau gwleidyddol, sefydliadau nac unigolion a oedd, er enghraifft, yn beirniadu, yn gwrthwynebu nac yn cyflwyno dewisiadau polisi amgen i’r safbwyntiau a roddwyd gan y tri gwleidydd Ceidwadol.

At hynny, nid oedd unrhyw gysylltiadau golygyddol clir yn y rhaglen hon at unrhyw gynnwys arall a allai fod wedi cymedroli’r safbwyntiau hyn.

Ein penderfyniad

O ystyried bod y rhaglen hon yn cynnwys dau gyflynwydd sy’n ASau wrth eu gwaith o un blaid wleidyddol yn cyfweld â Changhellor o’r un blaid wleidyddol am fater a oedd yn bwnc llosg o ran gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus presennol rydym ni o’r farn, yn yr amgylchiadau hyn, y dylai GB News fod wedi cymryd camau ychwanegol i sicrhau bod didueddrwydd dyladwy yn cael ei gynnal.

Mae ein hymchwiliad wedi dod i’r casgliad, felly, bod GB News wedi methu â chynrychioli a rhoi pwys dyladwy ar amrywiaeth briodol o eang o safbwyntiau ar fater a oedd yn bwnc llosg o ran gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus presennol yn y rhaglen hon, gan dorri Rheolau 5.11 a 5.12.

Wedi ystyried cynnwys a ffurf y rhaglen yn ofalus, penderfynodd ein hymchwiliad yr oedd tri bwletin newyddion a oedd ar wahân ac yn annibynnol ar ei gilydd, wedi’u cyflwyno gan brif gyflwynydd newyddion. Roedd y cynnwys a gyflwynwyd ar y diwrnod hwn gan Ms McVey a Mr Davies yn gyfystyr â materion cyfoes. Roeddem o’r farn, felly, nad oedd Rheol 5.3 o’r Cod, sy’n ymwneud â gwleidyddion yn cyflwyno rhaglenni newyddion, yn berthnasol yn yr achos penodol hwn.

Cydymffurfiaeth â rheolau darlledu

Dyma’r trydydd tro i achos o dorri ein rheolau darlledu gael ei gofnodi yn erbyn GB News ers iddo gael ei lansio ym mis Mehefin 2021.

Mae chwe ymchwiliad pellach ar agor gennym i gydymffurfiaeth y sianel â’n rheolau didueddrwydd dyladwy:

Rhaglen sy’n destun ymchwiliad a'r Rheolau perthnasol

Rydym yn gweithio i ddod â’r ymchwiliadau hyn i’w terfyn mor fuan â phosib yn unol â’r gweithdrefnau a gyhoeddwyd gennym.

Rydym hefyd wedi agor dau ymchwiliad i gydymffurfiaeth sianeli eraill â'n rheolau didueddrydd dyladwy (Talk TV a Greatest Hits Radio).

Rydym hefyd yn cynnal ymchwil ansoddol newydd i fesur agweddau cynulleidfaoedd ar hyn o bryd tuag at raglenni lle mae cynnwys gwleidyddion yn gyflwynwyr. Mae hyn yn cael ei wneud gan asiantaeth ymchwil arbenigol ac rydym yn disgwyl cyhoeddi’r canfyddiadau yn y misoedd nesaf.