18 Rhagfyr 2023

Ofcom yn canfod The Live Desk yn groes i'n rheolau ar ddidueddrwydd dyladwy

Mae ymchwiliad gan Ofcom heddiw yn canfod bod pennod o The Live Desk, a ddarlledwyd ar GB News ar 7 Gorffennaf 2023, wedi torri rheolau darlledu ar ddidueddrwydd dyladwy.

Roedd y rhaglen yn hyrwyddo ymgyrch â brand GB News arni, “Don't Kill Cash”. Galwodd yr ymgyrch ar wylwyr i lofnodi deiseb i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu statws arian parod fel tendr cyfreithiol ac fel dull talu a dderbynnir yn gyffredinol yn y DU tan o leiaf 2050.

Cawsom nifer o gwynion am yr ymgyrch ac yn gynharach eleni gwnaethom agor chwe ymchwiliad i raglenni amrywiol ar GB News mewn perthynas â'r cynnwys hwn. Yr achos heddiw yw'r cyntaf o'r ymchwiliadau hyn i ddod i ben.

Rheolau Didueddrwydd Dyladwy ynghylch safbwyntiau neu farn darlledwyr

Yn unol â’r hawl i ryddid mynegiant, mae darlledwyr yn rhydd i archwilio unrhyw fater, gan gynnwys y defnydd o arian parod mewn cymdeithas, yn eu rhaglenni ac i annog gwylwyr i gefnogi ymgyrchoedd penodol. Ond, wrth wneud hynny, rhaid iddynt gydymffurfio â'r gofynion didueddrwydd dyladwy yn Adran Pump o'r Cod Darlledu.

Mae'r Cod yn adlewyrchu gofynion statudol llym a osodwyd gan Senedd y DU. Gyda rhai eithriadau cyfyngedig, mae Rheol 5.4 o'r Cod Darlledu'n ei gwneud yn ofynnol i raglenni'r holl ddarlledwyr - beth bynnag fo'u genre - wahardd pob mynegiad o safbwyntiau a barn y person sy'n darparu'r gwasanaeth ar bynciau gwleidyddol a diwydiannol llosg neu bolisi cyhoeddus cyfredol.

Diben y cyfyngiad pwysig hwn yw diogelu rhag darlledwyr trwyddedig yn defnyddio eu sianeli a’u gorsafoedd i hyrwyddo eu barn eu hunain ar faterion sy’n bynciau gwleidyddol llosg neu bolisi cyhoeddus cyfredol.

Mae’n ofynnol hefyd  o dan Reol 5.5 i ddarlledwyr gynnal didueddrwydd dyladwy ar faterion sy’n bynciau gwleidyddol neu ddiwydiannol llosg a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol.

Ein hymchwiliad a phenderfyniad

Ceisiodd ein hymchwiliad benderfynu a oedd GB News wedi cydymffurfio â'r rheolau hyn. Ni cheisiodd gwestiynu rhinweddau'r ymgyrch ei hun.

Ein canfyddiad oedd, ar adeg y darllediad, bod cadw mynediad at arian parod - gan gynnwys a ddylid mandadu ei dderbyn - yn bwnc gwleidyddol llosg ac yn fater o bolisi cyhoeddus cyfredol.

Gwnaethom gymryd i ystyriaeth, ymhlith pethau eraill, fod y mater hwn yn destun dadl wleidyddol wrth i’r Bil Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd basio drwy Senedd y DU, cyn derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 29 Mehefin 2023 – pedwar diwrnod cyn i GB News lansio ei ymgyrch. Nod datganedig ymgyrch a deiseb GB News oedd galw am newid deddfwriaethol, gan gynrychioli ymgais i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU.

Canfu ein hymchwiliad hefyd, trwy hyrwyddo'r ymgyrch â brand GB News arni, y mynegwyd safbwyntiau a barn GB News Ltd - y person sy'n darparu'r gwasanaeth - ynghylch a ddylid mandadu derbyn arian parod.

Roedd y ffactorau a ystyriwyd gennym yn cynnwys y canlynol: roedd GB News yn amlwg yn cymeradwyo'r ymgyrch; roedd y cod QR a'r negeseuon a ddangoswyd ar y sgrin yn annog gwylwyr i lofnodi deiseb GB News yn galw am newid deddfwriaethol; a hyrwyddwyd yr ymgyrch ar draws rhaglenni GB News.

Gwnaethom ganfod hefyd fod y rhaglen wedi methu â chynnal didueddrwydd dyladwy yn y sylw a roddwyd i’r mater hwn, gyda chyfeiriadau cyfyngedig yn unig at wahanol safbwyntiau.

O ganlyniad, rydym wedi cofnodi achos o dorri Rheolau 5.4 a 5.5 o'r Cod Darlledu yn erbyn GB News.

Disgwyliwn i GB News roi ystyriaeth ofalus i'r penderfyniad hwn yn ei raglenni yn y dyfodol.

Byddwn yn cyhoeddi canlyniad ein hymchwiliadau i bum rhaglen GB News arall yn ymwneud â'r ymgyrch hon maes o law.

Related content