6 Mawrth 2023

Ofcom yn dyfarnu bod rhaglen Mark Steyn wedi torri rheolau darlledu

Heddiw, mae Ofcom wedi dyfarnu y bu i raglen Mark Steyn, a ddarlledwyd ar GB News ar 21 Ebrill 2022, dorri ein rheolau darlledu.

Rydym wedi bod yn glir yn gyson fod darlledwyr, o dan ein rheolau, yn rhydd i drawsyrru rhaglenni a allai gael eu hystyried yn ddadleuol ac yn heriol, neu sy'n cwestiynu ystadegau neu dystiolaeth arall a gynhyrchir gan lywodraethau neu ffynonellau swyddogol eraill. Mae'n amlwg y gall fod er budd y cyhoedd i wneud hynny. Fodd bynnag, gyda'r rhyddid golygyddol hwn daw rhwymedigaeth i sicrhau, wrth gyflwyno materion ffeithiol, nad yw cynulleidfaoedd yn cael eu camarwain yn faterol.

Yn yr achos hwn, canfu ein hymchwiliad fod pennod o raglen Mark Steyn wedi methu â chyrraedd y safonau hyn - nid am iddi arfer ei rhyddid golygyddol i herio naratifau prif ffrwd ynglŷn â'r brechiad Covid-19 - ond oherwydd, wrth wneud hynny, y cyflwynodd ddehongliad materol gamarweiniol o ddata swyddogol heb ddigon o her neu wrthddadl, gan beri risg o niwed i wylwyr.

Yn benodol, honnodd y rhaglen yn anghywir i ddata swyddogol UKHSA ddarparu tystiolaeth ddiffiniol o gyswllt achosol rhwng derbyn trydydd brechlyn Covid-19 a chyfraddau heintio, ysbyteiddio a marwolaeth uwch.

Roedd hyn yn faterol gamarweiniol gan nad oedd y ffordd y cyflwynwyd y data i wylwyr yn ystod y rhaglen yn ystyried y gwahaniaethau sylweddol mewn oedran neu iechyd pobl yn y grwpiau wedi'u brechu a heb eu brechu a fu'n rhan o'r astudiaeth. Gwnaethom hefyd ystyried y ffordd ddiffiniol y cyflwynwyd y dehongliad camarweiniol o'r data, ac absenoldeb gwrthddadl ddigonol neu her go iawn. Methodd y rhaglen hefyd ag adlewyrchu bod adroddiadau'r UKHSA yn egluro na ddylid defnyddio'r data crai sydd ynddynt i ddod i gasgliadau ynghylch effeithiolrwydd y brechlyn.

O ystyried y darlledwyd yr honiadau camarweiniol hyn fel rhan o raglen ffeithiol ar wasanaeth newyddion a materion cyfoes ac y gallent fod wedi peri i wylwyr wneud penderfyniadau pwysig am eu hiechyd eu hunain, daethom i'r casgliad fod y rhaglen o bosib yn niweidiol ac yn faterol gamarweiniol, yn groes i Reol 2.2 y Cod Darlledu.

Gallwch ddarllen y Penderfyniad yn llawn yma.

Covid, cydymffurfiaeth a rhyddid mynegiant

Ers mis Mawrth 2020, mae Ofcom wedi derbyn dros 26,000 o gwynion am sylw ar y teledu a'r radio mewn perthynas â'r pandemig Covid-19. Gan adlewyrchu'r pwysau rydym yn eu rhoi ar yr hawl i ryddid mynegiant, ni chododd y mwyafrif llethol o'r cwynion hyn faterion o dan ein rheolau.

Rydym wedi agor 11 ymchwiliad ffurfiol lle roedd y cynnwys yn codi pryderon difrifol. O'r achosion hyn, rydym wedi dyfarnu y bu wyth rhaglen yn groes, ac un raglen heb fod yn groes, i'n rheolau, ac mae dau ymchwiliad yn parhau. Mae mwy o wybodaeth yma.

Dyma'r achos cyntaf o weithredu'n groes i'n rheolau darlledu a gofnodwyd yn erbyn GB News ers iddo lansio ym mis Mehefin 2021. Hyd yma cafwyd cyfanswm o 3,432 o gwynion am y sianel, gan gynrychioli 3% o'r holl gwynion darlledu a wnaed i ni yn ystod y cyfnod hwn. O'r rhain roedd 1,665 yn ymwneud â'r pandemig Covid-19.

Ar ôl eu hasesu'n ofalus, nid ydym wedi mynd ar drywydd y mwyafrif helaeth o gwynion a wnaed yn erbyn GB News. Heblaw am y penderfyniad heddiw, daeth ein hymchwiliad cynharach i Talking Pints gyda Nigel Farage (23 Awst 2021) - yn ymwneud ag iaith dramgwyddus - i'r casgliad na fu i'r rhaglen dorri ein rheolau. Mae ymchwiliad ychwanegol i bennod o Mark Steyn, a ddarlledwyd ar 4 Hydref 2022, yn parhau.

Related content