24 Tachwedd 2023

Ymchwiliad gan Ofcom yn helpu dyfarnu dyn yn euog o ymyriant â radio amatur

Mae ymchwiliadau a gynhaliwyd gan arbenigwyr sbectrwm Ofcom wedi helpu i sicrhau euogfarn dyn a oedd yn achosi ymyriant niweidiol yn fwriadol i ddefnyddwyr radio amatur yn Hull a'r cyffiniau.

Ym mis Chwefror 2021, cawsom gwynion gan amaturiaid radio yn yr ardal, a ddywedodd wrthym yr ymyrrwyd yn fwriadol â’u darllediadau, a hefyd eu bod yn derbyn negeseuon sarhaus. Roedd y troseddwr wedi bod yn defnyddio bandiau radio'n anghyfreithlon i wneud hyn, gan nad oedd ganddo drwydded ar gyfer y defnydd ohonynt.

Roedd yn ofynnol i ni ymyrryd yn yr achos hwn oherwydd bod y gweithgarwch anghyfreithlon yn sylweddol ac wedi'i dargedu, a'r amheuaeth oedd bod y troseddwr yn rhywun a oedd wedi'i ddyfarnu'n euog o weithgarwch tebyg yn flaenorol.

Roed yr ymchwiliad yn yr ardal yn cynnwys defnyddio offer monitro awtomatig, a gweithiodd ein peirianyddion yn y fan a'r lle i fonitro unrhyw drosglwyddiadau'n fyw. Darparodd hyn ddarlun o effaith y trosglwyddiadau anghyfreithlon ar y gymuned radio lleol. Gwnaed yr holl waith hwn mewn cydweithrediad agos â'r heddlu lleol.

Trwy'r gwaith ymchwilio hwn, cadarnhawyd bod un cyfeiriad penodol yn ffynhonnell yr ymyriant, gan alluogi ni i weithredu gwarant chwilio yn y cyfeiriad. Atafaelwyd yr offer radio a ddefnyddiwyd i dderbyn a throsglwyddo ar yr amleddau a dargedwyd gyda'r ymyriant niweidiol.

Methodd y diffynnydd â chydweithredu â'n hymchwiliad, ac ni roddodd gyfrif o'r hyn a oedd wedi digwydd yn yr achos hwn, er iddo gael cyfle i wneud hynny.

Aeth yr achos i'r llys, ac yn gynharach y mis hwn cafwyd y diffynnydd yn euog o ddefnydd di-drwydded o offer radio, meddu ar offer radio yn anghyfreithlon, ac achosi ymyriant fwriadol i delegraffiaeth ddi-wifr – sydd i gyd yn droseddau o dan y Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr.

Mewn gwrandawiad dedfrydu'n ddiweddarach, fe'i dedfrydwyd i 6 mis o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis.

Nid oes unrhyw achosion pellach o ymyriant, rhwystro / allweddu drosodd na sarhad wedi digwydd ar yr amleddau radio amatur ers dechrau mis Medi 2021.

Meddai llefarydd ar ran Ofcom: “Roedd defnyddwyr y gymuned radio amatur yn ardal Hull yn wynebu aflonyddwch sylweddol ar ôl i’w darllediadau gael eu targedu’n fwriadol. Rydym yn falch gyda’r canlyniad hwn, a ddylai roi rhywfaint o ryddhad sydd i’w groesawu i’r gymuned radio leol, yn ogystal ag anfon signal cryf iawn i’r rhai sy’n camddefnyddio'r tonnau awyr.”

Pam y gwnaeth Ofcom ymchwilio i’r achos hwn?

Fel y rheoleiddiwr cyfathrebu,un o swyddogaethau Ofcom yw rheoli sbectrwm radio yn effeithiol, y mae ei drwyddedu’n arf allweddol wrth sicrhau bod gan ddefnyddwyr awdurdodiad priodol a’u bod yn cael eu diogelu rhag ymyriant niweidiol. Gwneir hyn yn bennaf drwy drwyddedu defnyddwyr a dyrannu amleddau.

Mae gosod a defnyddio offer radio yn ddi-drwydded, neu heb eithriad trwydded, yn drosedd o dan y Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr, sydd hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i ymyrryd yn fwriadol ag offer radio arall.

Defnyddir radio amatur gan hobïwyr sy'n defnyddio offer ar amleddau wedi'u neilltuo'n benodol i gyfathrebu â'i gilydd - weithiau ar draws y byd. Mae angen trwydded sydd wedi'i rhoi gan Ofcom i amaturiaid radio yn y DU i ddarlledu a derbyn ar yr amleddau a ddyrannwyd iddynt.  Ar y cyfan, mae amaturiaid radio yn glynu wrth delerau ac amodau eu trwyddedau.

Mae camddefnyddio offer radio a bandiau amatur fel arfer yn cael ei wneud yn fwriadol er mwyn tarfu ar ddefnyddwyr eraill. Mae'r ymyriant hwn yn rhwystro'r sianel i ddefnyddwyr eraill yn yr ardal, ac mewn rhai achosion gall gynnwys iaith sarhaus neu fygythiol i darfu ar ddefnyddwyr cyfreithlon, eu gorfodi oddi ar yr awyr, a'u hatal rhag mwynhau eu hobi. Mae'r rhan fwyaf o'r troseddwyr hefyd yn ddi-drwydded.

Mae'r achos penodol hwn yn enghraifft o'r ymyrraeth fwriadol hon ac fe ddigwyddodd ar draws nifer o fandiau radio amatur.

Er bod Ofcom yn asesu pob adroddiad o ddiffyg cydymffurfio ynglŷn â sbectrwm, nid yw pob un o'r rhain yn arwain at ymchwiliad. Roedd yr achos hwn yn un eithafol a oedd yn mynnu ein cyfranogiad.

Cael gwybod mwy am ein hymagwedd at achosion cydymffurfio a gorfodi ynglŷn â sbectrwm.

Related content