28 Mehefin 2023

Ofcom yn lansio ymchwiliad i BT gan ddilyn amhariad ar 999

Heddiw mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i BT gan ddilyn amhariad ar wasanaethau galwadau brys ar draws y DU ar 25 Mehefin 2023.

Mae ein rheolau'n mynnu bod BT a darparwyr eraill yn cymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau mynediad di-dor i sefydliadau brys fel rhan o unrhyw wasanaethau galwadau a gynigir. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gymryd yr holl fesurau sy'n angenrheidiol i sicrhau'r argaeledd mwyaf posib o alwadau a'r rhyngrwyd os bydd chwalfa drychinebus yn y rhwydwaith neu mewn achosion o force majeure.

Ar wahân i hynny, mae'n ofynnol i ddarparwyr roi mesurau priodol a chymesur ar waith i nodi a lleihau risgiau, a pharatoi ar gyfer unrhyw beth a allai gyfaddawdu argaeledd, perfformiad neu weithrediad eu rhwydwaith neu wasanaeth. Mae'n ofynnol hefyd i ddarparwyr roi mesurau priodol a chymesur ar waith i atal effeithiau andwyol sy'n deillio o unrhyw gyfaddawd o'r fath. Pan geir effaith andwyol ar y rhwydwaith neu'r gwasanaeth, mae'n rhaid i'r darparwr roi mesurau priodol a chymesur ar waith i unioni neu liniaru'r effaith honno.

Bydd ein hymchwiliad yn ceisio dod o hyd i'r ffeithiau am y digwyddiad ac yn archwilio a oes sail resymol dros gredu bod BT wedi methu â chydymffurfio â'i rwymedigaethau rheoleiddiol.