26 Mehefin 2023

Ofcom yn bwriadu cadw’r cap diogelu ar brisiau stampiau ar gyfer llythyrau ail ddosbarth

  • Byddai cynigion yn sicrhau bod opsiynau fforddiadwy ar gyfer anfon llythyrau a chardiau ar gael i bawb
  • Ni fyddai pris stampiau ail ddosbarth ar gyfartaledd yn codi mwy na chwyddiant bob blwyddyn
  • Mae aelwyd gyfartalog yn gwario llai na £1 yr wythnos ar yr holl bost – dim ond 0.19% o’r holl wariant
  • Ond mae ymchwil newydd yn cadarnhau bod anfon post yn dal yn bwysig i bobl yn yr oes ddigidol

Bydd y pris i anfon llythyrau ail ddosbarth yn cael ei sefydlogi ar chwyddiant tan o leiaf 2029 er mwyn i’r gwasanaethau post barhau i fod yn fforddiadwy, o dan gynigion newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.

Fel y darparwr gwasanaeth post cyffredinol, rhaid i’r Post Brenhinol ddanfon llythyrau chwe diwrnod yr wythnos, a pharseli bum niwrnod yr wythnos, i bob cyfeiriad yn y DU, am bris fforddiadwy ac unffurf.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth cyffredinol yn dal yn fforddiadwy – a bod y Post Brenhinol yn gallu adennill ei gostau – mae Ofcom yn mynd ati o bryd i’w gilydd i adolygu a ddylid capio prisiau stampiau. Fe wnaethom osod ein cap diwethaf yn 2019 am bum mlynedd, ac rydym wrthi’n adolygu’r prisiau ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2029.

Mae’r Post Brenhinol yn parhau i fod yr unig ddarparwr danfon llythyrau o’r dechrau i’r diwedd ar raddfa genedlaethol yn y DU. Mae hyn yn golygu na allwn ddibynnu ar gystadleuaeth i sicrhau bod prisiau’n aros yn fforddiadwy.

Felly heddiw, rydym wedi cynnig cadw cap diogelu ar lythyrau ail ddosbarth, ac ar gyfartaledd ni ddylai’r prisiau hyn godi mwy na chwyddiant (CPI) o brisiau heddiw.[1]

Beth sydd yn y post?

Mae ymchwil diweddaraf Ofcom wedi canfod bod defnydd pobl o wasanaethau post yn parhau i newid. Erbyn hyn, mae’n well gan saith o bob deg (68%) anfon negeseuon e-bost yn hytrach na llythyrau lle bynnag y bo modd. Ac mae llawer o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn anfon llai o lythyrau personol (-21%), cardiau cyfarch, gwahoddiadau a chardiau post (-20%) a llythyrau ffurfiol (-19%) o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl.[2]

Er hynny, roedd dwy ran o dair o bobl yn dal i bostio llythyr bob mis, a dywedodd y rheini a gymerodd ran yn ein cyfweliadau manwl wrthym pa mor bwysig oedd anfon a derbyn cardiau pen-blwydd a Nadolig gwirioneddol, i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau – yn enwedig y rheini sy’n llai hyderus yn ddigidol.[3]

Gwario ar anfon

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd yr aelwyd gyfartalog wedi gwario 90c yr wythnos ar yr holl wasanaethau post yn 2020/21, sef 0.19% o gyfanswm y gwariant wythnosol. Mae hyn yn cynnwys costau danfon ar gyfer eitemau sy’n cael eu prynu ar-lein, felly bydd y swm cyfartalog mae pobl yn ei wario ar anfon llythyrau yn llai fyth na hyn.

Er bod ein harolwg rheolaidd o ddefnyddwyr post wedi dangos cynnydd y llynedd mewn pryderon am fforddiadwyedd, mae ein cyfweliadau manwl newydd yn datgelu ei bod yn ymddangos bod hyn yn cael ei yrru gan heriau ariannol ehangach y mae llawer o ddefnyddwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn hytrach na gan brisiau post yn benodol. Yn wir, ychydig iawn o bobl yn ein hymchwil newydd a ddywedodd wrthym fod anfon llythyrau neu gardiau yn anfforddiadwy i’r graddau na allent eu hanfon.

Dywedodd Marina Gibbs, Cyfarwyddwr Post Ofcom: “Efallai nad ydym yn anfon cymaint o lythyrau ag yr oeddem yn arfer eu hanfon; ond pan fyddwn ni’n gwneud hynny, mae’n gallu bod yn ffordd bwysig i deulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad.

“Felly rydym yn cynnig mai dim ond yn ôl chwyddiant y dylai prisiau stampiau ar gyfer llythyrau ail ddosbarth godi, a dim mwy, i wneud yn siŵr bod opsiwn fforddiadwy ar gael i bawb bob amser.”

Cynaliadwyedd ariannol y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol

Yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau post yn dal yn fforddiadwy, rhaid i Ofcom hefyd ystyried yr angen i’r gwasanaeth cyffredinol fod yn gynaliadwy yn ariannol.

Felly, wrth osod y cap diogelu hwn, rydym wedi ceisio lleihau ei effaith ar gynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth cyffredinol, ac wedi ystyried cost darparu’r gwasanaethau hyn.

Cystadleuaeth parseli

Yn wahanol i lythyrau, mae cystadleuaeth yn y farchnad parseli wedi tyfu ers ein hadolygiad yn 2019, ac rydym yn disgwyl y bydd yn parhau i dyfu. Mae cystadleuaeth yn y farchnad hon yn cyfyngu ar allu’r Post Brenhinol i godi prisiau, ac mewn gwirionedd mae wedi arwain at ostwng ei brisiau mewn termau real.

O ganlyniad i hyn, ein barn ar hyn o bryd yw na ddylai gwasanaethau parseli’r Post Brenhinol fod yn destun cap diogelu mwyach. Fodd bynnag, bydd yn dal yn ofynnol i’r Post Brenhinol osod un pris ar gyfer y gwasanaethau hyn ledled y DU.

Bydd y gwasanaethau parseli hyn hefyd yn dal yn rhwym wrth y gofyniad cyffredinol i wasanaethau cyffredinol fod yn fforddiadwy. Os bydd gennym bryderon sylweddol ynghylch fforddiadwyedd yn ystod y cyfnod hwn o bum mlynedd, gallwn gamu i mewn i ddiogelu defnyddwyr.

Y camau nesaf

Rydym yn ymgynghori ar ein cynigion tan 1 Medi 2023, ac yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol yn nes ymlaen eleni.

Nodiadau i olygyddion

  1. Bydd y Post Brenhinol yn cael rhywfaint o hyblygrwydd i osod prisiau ar gyfer cynnyrch ail ddosbarth unigol, sy’n amrywio o ran maint, ond ni ddylai’r pris cyfartalog pwysedig cyffredinol ar gyfer y set o gynnyrch yn y ‘fasged’ godi uwchlaw chwyddiant. Ar sail niferoedd 2022/23, byddai llythyrau safonol yn cyfrif am gyfran uchel o’r fasged. Yn naturiol, mae hyn yn cyfyngu’n fwy llym ar y cynnydd mewn prisiau ar y llythyrau safonol sy’n cael eu defnyddio amlaf nag ar lythyrau mawr, oherwydd byddai newid yn eu prisiau nhw yn cael effaith lawer mwy ar y cyfartaledd cyffredinol na’r newid mewn prisiau eraill.
  2. Arolwg traciwr post preswyl Ofcom, Ionawr 2022 – Rhagfyr 2022, 3,870 o oedolion yn y DU wedi ateb. Gofynnwyd a oedd yr ymatebwyr wedi anfon mwy neu lai o wahanol fathau o bost o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl. Mae’r ffigurau a ddyfynnir yn cynrychioli’r gyfran net a oedd yn dweud eu bod yn anfon llai o bob math o bost.
  3. Ymchwil ansoddol Jigsaw. Cynhaliwyd 44 o gyfweliadau manwl naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein ym mis Ebrill a mis Mai 2023. Roedd yr holl gyfranogwyr wedi dweud naill ai eu bod wedi lleihau eu gwariant cyffredinol (e.e. wedi torri i lawr ar hanfodion) a/neu wedi bod yn cael trafferth ariannol (e.e. wedi cael trafferth talu eu biliau rheolaidd) ac wedi lleihau eu gwariant a/neu eu defnydd o lythyrau a chardiau yn ystod y tri mis diwethaf.

Related content