29 Mehefin 2023

Ofcom yn cael ei chydnabod fel cyflogwr yn 50 uchaf The Times ar gyfer cydraddoldeb rhywiol

Rydym wedi cael ein rhestru fel un o'r 50 Cyflogwr Gorau The Times ar gyfer Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gan gydnabod ein hymrwymiad parhaus i greu diwylliant gweithle cynhwysol i bob menyw.

Er mwyn cyrraedd y rhestr flynyddol, mae'n rhaid i sefydliadau ddangos sut maent yn gweithio i feithrin cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn eu gweithleoedd, gan gyflwyno cais ac astudiaeth achos sy'n arddangos eu hymagwedd at amrywiaeth o faterion y gwyddys eu bod yn effeithio ar gydraddoldeb rhywiol yn y gweithle.

Mae'r rhain yn cynnwys polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd, gweithio hyblyg, camau i fynd i'r afael â thâl anghyfartal, a mwy. Yna caiff ceisiadau eu hasesu a'u meincnodi'n annibynnol gan Busnes yn y Gymuned (BITC).

Pedair blynedd o gyrraedd y rhestr

Mae cael ein cynnwys ar y rhestr yn dystiolaeth o'r gwaith sy'n digwydd ar draws Ofcom i greu diwylliant cynhwysol, un lle mae cydweithwyr yn rhydd i fod nhw eu hunain ac i ffynnu a gwneud cynnydd, gan fod yn ddiogel rhag stigma.

Mae ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad yn cynnwys ymrwymiad i weithio tuag at gydbwysedd rhwng y rhywiau mewn rolau uwch erbyn 2026. Mae nifer o gamau yr ydym yn eu cymryd i helpu i gyflawni hyn.

Rydym yn cymryd camau i wneud Ofcom yn gyrchfan gyrfa i fenywod drwy sicrhau bod ein systemau recriwtio, gyrfa a pherfformiad yn deg.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cynyddu nifer y menywod hŷn 15%, i 45%. At hynny, mae 40% o'n rolau technoleg a data wedi'u llenwi gan fenywod – lefel heb ei hail yn y diwydiant.

Rydym yn cryfhau amrywiaeth o ran rhywedd mewn rolau technoleg drwy feithrin partneriaethau tymor hir gyda rhaglenni allgymorth STEM fel Menywod mewn Data, ac wedi addo gweithredu i greu mwy o gyfleoedd gyrfa i fenywod.

Rydym wedi darparu gwybodaeth a chefnogaeth gyda'r argyfwng costau byw a'i effeithiau posibl ar gydraddoldeb rhywiol.

Rydym wedi gwella ein polisïau a'n harferion yn y maes hwn, gan gyflwyno polisi cymorth cam-drin domestig a chynghreiriaid cam-drin domestig hyfforddedig. Byddwn yn mynd ymhellach eleni trwy ychwanegu polisi a strategaeth menopos.

Rydym wedi lleihau ein bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau ac yn gweithio ar gamau i leihau hyn ymhellach.

Nid yw'r newidiadau hyn o fudd i fenywod yn unig fel camau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, maent hefyd yn helpu i greu'r gweithle cynhwysol a theg yr ydym i gyd ei eisiau yn Ofcom.

Meddai ​Kerri-Ann ONeill, Cyfarwyddwr Pobl a Thrawsnewid Ofcom: “Mae'n fraint cwblhau'r gwaith meincnodi ar gyfer y sefydliad a gweld pa mor eang a dwfn y mae ein gwaith ar gydraddoldeb rhywiol mewn gwirionedd. Ac ar ben hynny mae gweld hyn yn cael ei gydnabod yn annibynnol wedyn yn anhygoel. Mae Amrywiaeth a Chynhwysiad yn rhaglen newid hirdymor ac mae llawer i'w wneud - ond mae cael ein cydnabod pedair blynedd yn olynol yn dangos ein bod ar y trywydd iawn.”

Meddai Prif Swyddog Gweithredu Ofcom a Hyrwyddwr Rhwydwaith Menywod Ofcom (OWN), Melissa Tatton: “Rwyf wrth fy modd i ni gael ein cydnabod fel cyflogwr gorau i fenywod am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Mae hyn yn dystiolaeth o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws Ofcom i greu ein diwylliant cynhwysol, yn enwedig gan OWN sydd wedi gwneud cymaint o ymdrech i gefnogi gwahanol rhywiau a hunaniaethau rhywedd ar draws Ofcom. Rydym bellach ddwy flynedd i mewn i'n strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiad, sy'n disgrifio ein huchelgais i gyflawni cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau erbyn 2026.

Mae Ofcom eisoes yn gam gyrfa gwych i fenywod, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod hyn yn parhau wrth i ni weithio tuag at ein targedau ar gyfer rhywedd yn 2026.”