5 Hydref 2023

Ofcom yn cyfeirio marchnad gwmwl y DU at y CMA ar gyfer ymchwiliad

  • Amazon (AWS) a Microsoft yw'r prif ddarparwyr gwasanaethau seilwaith cwmwl yn y DU
  • Astudiaeth Ofcom i’r farchnad yn datgelu nodweddion a allai gyfyngu ar gystadleuaeth
  • Mae ffioedd uchel am drosglwyddo data allan, gostyngiadau gwariant ymrwymedig a chyfyngiadau technegol yn ei gwneud hi'n anodd i gwsmeriaid busnes newid darparwr cwmwl neu ddefnyddio nifer o ddarparwyr
  • Heb wirio hyn, gallai cystadleuaeth ddirywio mewn marchnad ddigidol hanfodol i economi'r DU

Yn dilyn ei ymchwiliad i wasanaethau cwmwl y DU, mae Ofcom wedi cyfeirio'r (PDF, 114.5 KB) farchnad gwasanaethau seilwaith cwmwl cyhoeddus at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i ymchwilio ymhellach.

Mae ein hastudiaeth i’r farchnad wedi nodi nodweddion sy'n ei gwneud hi'n anoddach i fusnesau yn y DU newid a defnyddio nifer o gyflenwyr cwmwl. Rydym yn pryderu’n arbennig am safle arweinwyr y farchnad, Amazon a Microsoft.

Mae cyfrifiadura cwmwl wedi dod yn hanfodol i lawer o fusnesau ar draws economi'r DU - gan gynnwys cwmnïau telathrebu, darlledwyr a sefydliadau sector cyhoeddus - ac mae wedi trawsnewid y ffordd maent yn darparu gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd. Mae'n defnyddio canolfannau data o amgylch y byd i ddarparu mynediad o bell i fusnesau’r DU i wasanaethau fel meddalwedd, storio a rhwydweithio.

Ym mis Hydref 2022, lansiom astudiaeth o dan Ddeddf Menter 2002 i wasanaethau cwmwl yn y DU i asesu pa mor dda mae'r farchnad hon yn gweithio, a chyhoeddwyd ein canfyddiadau interim ym mis Ebrill 2023. Rydym wedi archwilio cryfder cystadleuaeth ac unrhyw nodweddion a allai gyfyngu ar arloesedd a thwf yn y sector hwn trwy ei gwneud hi'n anodd i ddarparwyr cwmwl eraill fynd i mewn i'r farchnad neu i gwmnïau llai ehangu.[1]

Am fod y sector cwmwl yn dal i esblygu, rydym wedi edrych ar y ffordd mae'r farchnad yn gweithio heddiw a sut rydym yn disgwyl iddi ddatblygu yn y dyfodol - gan anelu at nodi unrhyw bryderon posibl am gystadleuaeth yn gynnar er mwyn eu hatal rhag ymwreiddio wrth i'r farchnad aeddfedu.

"Y cwmwl yw sylfaen ein heconomi ddigidol ac mae wedi trawsnewid y ffordd mae cwmnïau'n rhedeg ac yn tyfu eu busnesau. O gynhyrchu teledu a rhwydweithiau telathrebu i arloesiadau ym maes AI – mae'r holl bethau hyn yn dibynnu ar bŵer cyfrifiadurol o bell nad oes neb yn ei weld.

Mae rhai busnesau yn y DU wedi dweud wrthym eu bod yn poeni ei bod yn rhy anodd newid neu gymysgu a chyfateb darparwr cwmwl, ac nid yw'n glir bod cystadleuaeth yn gweithio'n dda. Felly, rydym yn cyfeirio'r farchnad at y CMA am waith craffu pellach, er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid busnes yn parhau i gael buddion gwasanaethau cwmwl."

Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Ofcom sy'n gyfrifol am yr Astudiaeth o'r Farchnad

Yr hyn y ddaethom o hyd iddo

Mae dau ddarparwr blaenllaw o wasanaethau seilwaith cwmwl yn y DU: Amazon Web Services (AWS) a Microsoft, a oedd â chyfran gyfunol o'r farchnad o 70-80% yn 2022. Google yw eu cystadleuydd agosaf gyda chyfran o 5-10%. Gyda'i gilydd, gelwir y cwmnïau hyn yn 'hyperscalers' ac mae'r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid cwmwl yn defnyddio eu gwasanaethau ar ryw ffurf.[2]

Leading providers of cloud infrastructure services in the UK

Er bod grymoedd cystadleuol y farchnad yn darparu buddion i gwsmeriaid - yn enwedig lle mae darparwyr yn cystadlu i ddenu cwsmeriaid newydd – ar ffurf cynhyrchion arloesol a gostyngiadau, y nodweddion rydym yn poeni fwyaf amdanynt yw:

  • Ffioedd symud allan. Dyma'r taliadau mae cwsmeriaid yn eu talu i drosglwyddo eu data allan o gwmwl ac mae'r ‘hyperscalers’ yn eu gosod ar gyfraddau sylweddol uwch na darparwyr eraill. Gall cost ffioedd symud allan annog cwsmeriaid i beidio â defnyddio gwasanaethau gan fwy nag un darparwr cwmwl neu newid i ddarparwr amgen.
  • Rhwystrau technegol i ryngweithredu a hygludedd. Gall y rhain arwain at sefyllfa lle mae angen i gwsmeriaid wneud ymdrech ychwanegol i ail-ffurfweddu eu data a'u cymwysiadau fel y gallant weithio ar wahanol gymylau. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach cyfuno gwahanol wasanaethau ar draws darparwyr cwmwl neu newid darparwr.
  • Gostyngiadau gwariant ymrwymedig. Gall y rhain fod o fudd i gwsmeriaid trwy leihau eu costau, ond gall y ffordd y caiff y gostyngiadau hyn eu strwythuro gymell cwsmeriaid i ddefnyddio un ‘hyperscaler’ ar gyfer eu holl anghenion cwmwl neu'r rhan fwyaf ohonynt, hyd yn oed pan fydd dewisiadau amgen o ansawdd gwell ar gael.

Gall y nodweddion hyn o’r farchnad ei gwneud hi'n anodd i rai cwsmeriaid newid neu ddefnyddio nifer o ddarparwyr cwmwl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd bargeinio am fargen dda gyda'u darparwr, neu gymysgu a chyfateb y gwasanaethau o'r ansawdd gorau ar draws gwahanol ddarparwyr. Mae lefelau uchel o broffidioldeb i arweinwyr y farchnad AWS a Microsoft yn arwydd bod cyfyngiadau o ran lefel gyffredinol y gystadleuaeth.

Wrth edrych ymlaen, os yw cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd newid a defnyddio nifer o ddarparwyr, gallai ei gwneud hi'n anoddach i gystadleuwyr fagu graddfa a herio AWS a Microsoft yn effeithiol. Yn y senario hon, rydym yn pryderu y bydd y bygythiad bod cwsmeriaid yn symud i ffwrdd o arweinwyr y farchnad yn lleihau, gan leihau’r gystadleuaeth ymhellach ar gyfer cwsmeriaid newydd a phresennol.

Cyfeirio am ymchwiliad i'r farchnad

Rydym wedi cyfeirio marchnad gwasanaethau seilwaith cwmwl cyhoeddus y DU at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i gynnal ymchwiliad i'r farchnad. Bydd y CMA nawr yn cynnal ymchwiliad annibynnol i benderfynu a oes effaith andwyol ar gystadleuaeth, ac os felly, a ddylai weithredu neu argymell eraill i weithredu.

Mae cyfeirio am ymchwiliad i'r farchnad yn gam pwysig i Ofcom ei gymryd. Mae cyfeirio yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfrifiadura cwmwl i ddefnyddwyr a busnesau'r DU a'r pryderon sylweddol sydd gennym am y farchnad seilwaith cwmwl.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Ystyr astudiaethau i'r farchnad yw archwiliadau i achosion i ganfod pam nad yw marchnadoedd penodol o bosibl yn gweithio'n dda er budd defnyddwyr. Cynhaliom yr astudiaeth hon i'r farchnad gwmwl gan ddefnyddio ein pwerau fel awdurdod cystadleuaeth o dan Ddeddf Menter 2002.
  2. Cyfrannau’r farchnad yn 2022 o’r cyflenwad yn ôl refeniw ym marchnad gwasanaethau seilwaith cwmwl cyhoeddus y DU (ffynhonnell: Dadansoddiad Ofcom o'r data a ddarparwyd mewn ymateb i'n ceisiadau am wybodaeth a data gan Synergy ac IDC).

Related content