26 Hydref 2023

Ofcom yn diwygio’i ganllawiau ar niwtraliaeth y rhyngrwyd

Heddiw, mae Ofcom wedi diwygio’i ganllawiau ar sut y dylai rheolau ‘niwtraliaeth y rhyngrwyd’ fod yn berthnasol yn y DU.

Mae Ofcom yn gyfrifol am fonitro a sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau niwtraliaeth y rhyngrwyd a darparu canllawiau ynghylch sut y dylai darparwyr band eang a symudol eu dilyn. Mae’r rheolau eu hunain wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, a byddai unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn fater i Lywodraeth a Senedd y DU.

Egwyddor niwtraliaeth y rhyngrwyd yw bod gan ddefnyddwyr y rhyngrwyd – nid eu darparwr band eang na’u darparwr symudol – reolaeth dros yr hyn maen nhw’n ei wneud ar-lein. Mae niwtraliaeth y rhyngrwyd wedi chwarae rôl hollbwysig wrth ganiatáu i bobl gyrchu’r cynnwys a’r gwasanaethau maen nhw am eu cyrchu, ac i berchnogion cynnwys ac apiau gyrraedd cwsmeriaid ar-lein.

Ers i’r rheolau presennol gael eu rhoi ar waith yn 2016, mae datblygiadau sylweddol wedi bod yn y byd ar-lein – gan gynnwys ymchwydd yn y galw am gapasiti, sawl darparwr cynnwys mawr yn dod i’r amlwg, fel Netflix ac Amazon Prime, a thechnoleg yn esblygu gan gynnwys cyflwyno 5G. Felly, mae Ofcom wedi cynnal adolygiad i sicrhau bod niwtraliaeth y rhyngrwyd yn parhau i fodloni buddion pawb.

Dywed Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom:

“Mae rheolau niwtraliaeth y rhyngrwyd wedi’u dylunio i gyfyngu ar weithgareddau darparwyr band eang a symudol, fodd bynnag, gallent hefyd fod yn cyfyngu ar eu gallu i ddatblygu gwasanaethau newydd a rheoli eu rhwydweithiau’n effeithlon.

Rydyn ni am sicrhau eu bod yn gallu arloesi, ochr yn ochr â’r cynnwys a’r gwasanaethau newydd hynny, a diogelu eu rhwydweithiau pan allai lefelau traffig wthio rhwydweithiau i’w terfynau. Credwn y bydd defnyddwyr yn elwa os bydd pob darparwr ar draws y rhyngrwyd yn arloesi ac yn darparu gwasanaethau sy’n ateb eu hanghenion yn well.”

Er bod niwtraliaeth y rhyngrwyd yn parhau’n bwysig i gefnogi dewis defnyddwyr, rydym wedi darparu rhagor o eglurder yn ein canllawiau fel y gall darparwyr band eang a symudol:

  • gynnig pecynnau manwerthu band eang neu symudol o ansawdd premiwm; er enghraifft, sy’n cefnogi cymwysiadau gemau y mae angen cyfraddau oedi isel arnynt (er mwyn anfon data a derbyn ymateb yn gyflym iawn);
  • datblygu ‘gwasanaethau arbenigol’ newydd, a allai gefnogi cymwysiadau fel llawdriniaeth o bell a cheir di-yrrwr;
  • defnyddio camau ‘rheoli traffig’ i osgoi tagfeydd dros eu rhwydweithiau ar adegau brig; a
  • chynnig pecynnau ‘cyfradd sero’ yn y rhan fwyaf o amgylchiadau — sy’n golygu peidio â chodi tâl ar ddefnyddwyr am gyrchu cynnwys neu wasanaethau penodol, a allai gynnwys cyngor iechyd y cyhoedd ar-lein a ddarperir gan y GIG.

Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu canllawiau i sicrhau y gall darparwyr band eang a symudol ddiogelu eu cwsmeriaid a darparu buddion i’r cyhoedd drwy flaenoriaethu a phennu mynediad cyfradd sero i wasanaethau brys, cynnig camau rheoli i rieni, ac atal mynediad i sgamiau a chynnwys niweidiol arall.

Nodwyd ein safbwynt ar y posibilrwydd o ganiatáu i ddarparwyr band eang a symudol godi tâl ar ddarparwyr cynnwys am gludo’u traffig. Nid ydym wedi gweld tystiolaeth bod angen hyn, er y byddai hyn yn golygu newid i’r rheolau a byddai felly’n fater i Lywodraeth a Senedd y DU.

Related content