12 Mehefin 2023

Datganiad Ofcom ar ymosodiad seiber MOVEit

Mae Ofcom yn un o nifer o sefydliadau a effeithiwyd gan ymosodiad seiber MOVEit.

Lawrlwythwyd maint cyfyngedig o wybodaeth am rai cwmnïau yr ydym yn eu rheoleiddio – rhywfaint ohono'n gyfrinachol – ynghyd â data personol 412 o weithwyr Ofcom, yn ystod yr ymosodiad.

Mae diogelwch gwybodaeth bersonol sy'n fasnachol gyfrinachol a sensitif a ddarperir i Ofcom yn fater o'r difri pennaf i ni.

Gwnaethom gymryd camau ar unwaith i atal defnydd pellach o'r gwasanaeth MOVEit ac i weithredu'r mesurau diogelwch a argymhellwyd. Hefyd fe wnaethom hysbysu'r holl gwmnïau a reoleiddir gan Ofcom yr effeithiwyd arnynt yn gyflym, ac rydym yn parhau i gynnig cefnogaeth a chymorth i'n cydweithwyr.

Nid oedd unrhyw un o systemau Ofcom wedi'u cyfaddawdu yn ystod yr ymosodiad.