11 Ionawr 2023

Mae Ofcom yn cefnogi sefydliadau sy’n hybu sgiliau llythrennedd ar-lein mewn cymunedau lleol

Mae Ofcom yn comisiynu nifer o sefydliadau ledled y DU i helpu i wella sgiliau ym maes ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar-lein, a hynny ymysg grwpiau a chymunedau sydd fwyaf mewn perygl o niwed ar-lein.

Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau ar-lein yw cael y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i gymryd rhan yn y byd ar-lein yn ddiogel. Mae’n grymuso pobl  i wneud penderfyniadau digidol gwybodus ac, yn bwysig iawn, i ganfod a diogelu ein hunain ac eraill rhag cynnwys niweidiol.

Mae gan Ofcom ddyletswydd ffurfiol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, sy’n hanfodol i helpu i greu bywyd mwy diogel ar-lein.

Helpu grwpiau sydd angen help fwyaf

Mae ein hymchwil wedi dangos yn gyson nad oes gan bawb y sgiliau sydd arnynt eu hangen i lywio drwy’r byd ar-lein yn effeithiol ac yn ddiogel. Felly, bydd pob un o’r sefydliadau rydym yn eu comisiynu yn treialu dull arloesol o wella gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol ar-lein pobl leol sydd angen y cymorth mwyaf.

Bydd y grwpiau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • pobl hŷn a rheini sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n ddigidol;
  • phobl anabl;
  • plant 10-14 oed; a
  • chymunedau sy’n wynebu anfantais ariannol.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Dyma fanylion y sefydliadau, eu mentrau arfaethedig a’r grwpiau y byddant yn gweithio gyda nhw.

Full list of organisations

The Guardian Foundation

Byd y rhaglen hon yn gweithio law yn llaw â sefydliadau yn Birmingham i hyfforddi gweithwyr proffesiynol a chynnal gweithdai diddorol ynghylch y ffordd y mae newyddion yn datblygu a sut i adnabod camwybodaeth.

Cymdeithas Frenhinol Mencap Gogledd Iwerddon

Gan weithio â phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu a’u teuluoedd, bydd Mencap Gogledd Iwerddon yn rhoi cymorth i bobl ifanc i gael mynediad at y rhyngrwyd mewn ffordd sy’n cefnogi eu hanghenion a’u diddordebau, ac sy’n eu cadw’n ddiogel.

Salford Foundation

Bydd plant yn cynllunio ac yn cynnal ymgyrch gweithredu cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar broblem benodol mewn perthynas ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ymysg eu cyfoedion.

ProMo-Cymru

Mae sefydliad Glynebwy yn galon i’r gymuned, gan ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau i’r bobl leol. Mae’r bartneriaeth â Chlybiau Bechgyn a Merched a’r cyfleoedd i bobl ifanc iau i ddysgu gan eu cyfoedion hŷn yn ddiddorol iawn.

Praesidio Safeguarding

Bydd Praesidio, asiantaeth sydd wedi’i wreiddio’n gadarn yn yr egwyddor o waith ieuenctid effeithiol, yn cynllunio ac yn rhoi pecyn cymorth ar brawf i weithwyr ieuenctid sy’n rhoi lle diogel i bobl ifanc allu rhannu manteision a heriau bywyd ar-lein.

Coleg Gorllewin Swydd Nottingham

Gan symud y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a chymryd agwedd arloesol iawn at allgymorth, nod Coleg Gorllewin Swydd Nottingham yw gweithio gydag oedolion hŷn mewn hen bentrefi glofaol lle bynnag y maent, gan gynnwys yn y ganolfan siopa leol.

Advice NI

Bydd Advice NI yn defnyddio’r dull arloesol o ddefnyddio hyrwyddwyr digidol i gyflwyno cwrs strwythuredig ar gyfer oedolion hŷn. Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn dysgu am ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, osgoi sgamiau a sut mae adnabod camwybodaeth.

Age UK Dwyrain Llundain

Bydd gweithiwr cynhwysiant digidol AUEL yn cefnogi oedolion hŷn o ran sut gallant ddefnyddio offer ar-lein i helpu i fynd i’r afael ag argyfwng costau byw.

Red Chair Highland Ltd (The Libertie Project) gynt

Mae Red Chair Highland wrth galon eu cymuned yn Inverness, gan ddarparu cefnogaeth wedi’i theilwra a sesiynau galw heibio anffurfiol i oedolion hŷn ar sail eu diddordebau eu hunain e.e. sut i chwarae Bridge ar-lein.

Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Norfolk

Bydd staff llyfrgelloedd Norfolk yn cael eu hyfforddi i gefnogi oedolion hŷn i fyw bywyd ar-lein, gan gynnig sesiynau galw heibio a chefnogaeth barhaus yn lleol.

The Brain Charity

Gan weithio gyda phobl â chyflyrau niwrolegol, bydd The Brain Charity yn darparu cymorth ar draws ystod eang o sgiliau ym maes ymwybyddiaeth o’r cyfryngau , gan gynnwys datblygu adnoddau ar-lein mewn fformat Hawdd ei Ddarllen.

AbilityNet

Dull diddorol sy’n cael ei yrru gan y gymuned ar draws pum pentref preswyl yn Birmingham, gyda hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gyfer staff gofal a rhith-ddigwyddiadau’n cael eu darparu gan wirfoddolwyr.

Mencap

Bydd Mencap yn gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu yn Lerpwl i gynllunio “proses meddwl” sy’n eu helpu i ymgysylltu’n feirniadol â chynnwys ar-lein.

Fe hoffem ni glywed gennych

Fel rhan o’n nod o hyrwyddo gallu pobl i gymryd rhan yn effeithiol a chadw’n ddiogel ar-lein, rydym yn awyddus i ddysgu am arferion, prosiectau a mentrau arloesol sy’n cael eu treialu gan amrywiaeth o sefydliadau ledled y DU i uno ymwybyddiaeth o’r cyfryngau â chymorth iechyd meddwl.

Os ydych chi’n glinigydd, yn gwnselydd, yn elusen neu’n gomisiynydd sy’n gweithio i integreiddio cymorth iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, hoffem glywed gennych chi. Cysylltwch â Jessie Cunnett i gael rhagor o wybodaeth.

Related content