27 Chwefror 2023

Rheolau Ofcom ynghylch gwleidyddion ar y teledu a’r radio

Mae pobl wedi bod yn gofyn cwestiynau yn ddiweddar am y rheolau ynghylch gwleidyddion yn cyflwyno ac yn ymddangos ar raglenni teledu.

Mae hyn yn dilyn sawl cyhoeddiad diweddar bod gwleidyddion yn cael eu cyflogi i gyflwyno eu rhaglenni teledu eu hunain.

Mae’r rheolau hyn yn gallu ymddangos yn gymhleth, ond maent yn eithriadol o bwysig. Mae’r rheolau wedi’u nodi yn y Cod Darlledu, ac maent yno i ddarlledwyr eu defnyddio wrth wneud rhaglenni.

Mae rheolau arbennig yn berthnasol yn ystod etholiadau neu refferenda. Mewn gwirionedd, mae adran gyfan o’r Cod Darlledu ar gael sy’n berthnasol yn ystod cyfnodau etholiadau a refferenda.

A ydy gwleidyddion yn cael cyflwyno rhaglenni teledu a radio?

Ydy, maen nhw’n cael gwneud hynny – ond mae rhai eithriadau.

Cynnwys newyddion:

Oherwydd bod cynulleidfaoedd yn disgwyl i ddarlledwyr ddefnyddio’r lefel uchaf o ddidueddrwydd dyladwy mewn rhaglenni newyddion (fel bwletinau newyddion), mae ein rheolau’n datgan y canlynol:

“Ni cheir defnyddio unrhyw wleidydd fel darllenydd newyddion, cyfwelydd neu ohebydd mewn unrhyw raglenni newyddion oni bai fod cyfiawnhad golygyddol dros hynny mewn achosion eithriadol. Mewn achos o’r fath, rhaid egluro teyrngarwch gwleidyddol y person hwnnw i’r gynulleidfa.”

Cynnwys heb fod yn newyddion:

Fodd bynnag, y tu allan i raglenni newyddion, nid oes rheol sy’n atal gwleidydd neu ymgeisydd gwleidyddol rhag cyflwyno neu ymddangos ar raglen deledu neu radio – ar yr amod nad yw’n sefyll mewn etholiad sy’n cael ei gynnal, neu sydd ar fin cael ei gynnal.

Mae hyn yn golygu bod gwleidyddion yn cael cyflwyno rhaglenni materion cyfoes, fel rhaglenni lle mae’r gynulleidfa yn ffonio mewn, ond rhaid iddynt sicrhau bod amrywiaeth o safbwyntiau’n cael eu hadlewyrchu yn eu rhaglen.

Yn ystod cyfnodau etholiad a refferendwm

Yn ystod cyfnod etholiad, rhaid i ymgeiswyr gwleidyddol, neu bobl sy’n cynrychioli sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn refferendwm beidio â chyflwyno unrhyw raglen deledu na radio. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni nad ydynt yn trafod gwleidyddiaeth na materion cyfoes.

Caniateir i ymgeiswyr a chynrychiolwyr y refferendwm ymddangos (ond nid cyflwyno) mewn rhaglenni anwleidyddol a gynlluniwyd neu a amserlennwyd cyn cyfnod etholiad neu refferendwm, ond ni ddylid trefnu na darlledu unrhyw ymddangosiadau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Beth yw rheolau Ofcom sy’n berthnasol yn ystod cyfnod etholiad neu refferendwm?

Yn ystod cyfnod etholiad, rhaid rhoi sylw dyladwy i bleidiau gwleidyddol – ac ymgeiswyr annibynnol – mewn unrhyw ddarpariaeth ar y teledu a’r radio.

Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid iddynt gael y lefel briodol o ddarpariaeth ar draws cyfnod etholiad ar sail eu cefnogaeth etholiadol nawr ac yn y gorffennol. Rhaid i ddarlledwyr hefyd ystyried rhoi darpariaeth briodol i bleidiau ac i ymgeiswyr annibynnol sydd â safbwyntiau pwysig. Mae rheolau tebyg yn berthnasol i roi sylw i refferenda.

Os bydd ymgeisydd gwleidyddol yn cymryd rhan mewn rhaglen am yr etholaeth, y rhanbarth neu’r ward y mae’n sefyll drosti, rhaid i’r darlledwr hefyd roi cyfle i ymgeiswyr eraill yn yr ardal etholiadol honno gymryd rhan. Ond os nad yw’r ymgeiswyr eraill eisiau cymryd rhan, neu nad ydynt yn gallu cymryd rhan, ni chânt atal y rhaglen rhag mynd yn ei blaen.

Os bydd ymgeisydd yn cymryd rhan mewn rhaglen ar ôl galw etholiad – hyd yn oed os nad yw’n rhaglen wleidyddol – rhaid iddo beidio â chael cyfle i drafod pwyntiau am yr etholaeth, y rhanbarth neu’r ward y mae’n sefyll drosti, heb i ymgeiswyr eraill gael cyfle tebyg.

Beth sy’n digwydd ar ddiwrnod yr etholiad?

Tra bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor, nid fydd darlledwyr yn cael darparu gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag ymgyrchu neu etholiadau. Ac ni chânt gyhoeddi canlyniadau unrhyw bolau piniwn – dim ond ar ôl i’r cyfnod pleidleisio gau y ceir gwneud hyn.

Related content