9 Tachwedd 2023

Mae rheoleiddio diogelwch ar-lein yma, mae Ofcom yn barod, a byddwn yn gwneud gwahaniaeth

Darn barn gan y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom, i nodi ein camau mawr cyntaf tuag at fywyd mwy diogel ar-lein.

Os ydych yn blentyn ym Mhrydain heddiw, gallwch ddisgwyl gweld troad yr 22ain ganrif. Bydd y blynyddoedd o'ch blaenau'n cael eu siapio gan ddeallusrwydd artiffisial, sy'n addo chwyldroadau mewn gwyddoniaeth a diwydiant. Bydd eich bywyd ar-lein yn asio’n ddi-dor â’r byd ffisegol o’ch cwmpas, wedi’i symbylu gan newidiadau cyson a dwys mewn technoleg.

Os ydych chi'n rhiant, fel fi, efallai y bydd hyn yn teimlo'n gyffrous ac yn anesmwyth. Wedi'r cyfan, anaml y daw cyfleoedd newydd heb risg. Tasg ein cenhedlaeth ni yw cydnabod y risgiau hynny wrth iddynt ddod i’r amlwg, a chymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael â nhw. I Ofcom, cymerodd y gwaith hwnnw gam mawr ymlaen heddiw.

Ni yw’r rheoleiddiwr diogelwch ar-lein newydd, gyda chylch gwaith dros y gwasanaethau digidol sydd wedi cysylltu a difyrru pawb yn fwy nag erioed o’r blaen. Weithiau, mae'r gwefannau a'r apiau hynny'n cyflwyno cynnwys sy'n niweidiol i feddyliau ifanc. Mae rhannau ohono'n anghyfreithlon, ac ni ddylid ei gyflwyno i blant nac oedolion.

Felly wrth i ni gydio yn ein pwerau i ddwyn cwmnïau technoleg i gyfrif, ni allwn wastraffu eiliad. Heddiw, ar y cyfle cynharaf, rydym yn disgrifio sut yr ydym yn disgwyl amddiffyn pobl rhag niwed anghyfreithlon ar-lein.

Plant yw ein blaenoriaeth gyntaf, ac mae'r risg y maent yn ei hwynebu yn un go iawn. Dengys ffigurau pryderus newydd gan Ofcom fod y rhan fwyaf o ddisgyblion ysgol uwchradd (60%) wedi derbyn cysylltiad ar-lein mewn ffordd a oedd yn gwneud iddynt deimlo’n anesmwyth. Mae tua 30% wedi derbyn cais ymgyfeillio neu ddilyn digroeso. Ac mae tuag un o bob chwech naill ai wedi cael lluniau noeth neu hanner noeth, neu gofynnwyd iddynt rannu lluniau o'u hunain.

Petai’r cysylltiadau digroeso hyn yn digwydd mor aml yn y byd allanol, go brin byddai’r rhan fwyaf o rieni am i’w plant adael y tŷ. Ond eto i gyd, rhywsut, yn y gofod ar-lein, maen nhw wedi troi’n rhywbeth cyffredin. All hynny ddim parhau.

60%

canran y plant ysgol uwchradd sydd wedi cael cyswllt mewn ffordd a wnaeth iddynt deimlo'n anesmwyth

O dan ein cynlluniau, bydd angen i gwmnïau technoleg gymryd camau pendant i amddiffyn pobl rhag niwed anghyfreithlon. Mae hynny'n dechrau gyda mesurau i amddiffyn plant dan oed rhag rhyngweithio niweidiol, megis eu tynnu oddi ar restrau ffrindiau a awgrymir ac atal negeseuon gan ddieithriaid.

Rydym hefyd am weld deunydd cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei ganfod a'i ddileu'n awtomatig i raddau helaethaf, a mesurau llawer cryfach i atal plant rhag cyrchu pornograffi. Ac rydym yn disgwyl i wasanaethau ar-lein gymryd camau cadarn i atal pobl ifanc rhag cael eu hamlygu i gynnwys peryglus sy'n annog hunanladdiad a hunan-niweidio.

Ar gyfer defnyddwyr o bob oed, byddwn yn canolbwyntio ar atal twyll ar-lein, yn ogystal â chamau i fynd i'r afael â chynnwys terfysgol.

Mae'n bwysig nodi nad sensor yw Ofcom. Ni fydd gennym bwerau i ddileu cynnwys. Yn hytrach, ein gwaith ni yw mynd i'r afael ag achosion sylfaenol niwed drwy osod safonau newydd a’i gwneud yn ofynnol i gwmnïau ddylunio eu gwasanaethau gyda diogelwch mewn golwg. Byddwn yn sicrhau bod ein rheolau'n ymarferol ac yn rhoi ystyriaeth lawn i breifatrwydd pobl – yn ogystal â rhyddid mynegiant, enaid byw trafodaeth ar-lein.

Mae hon yn dasg fawr. Ni fydd yn gyflym nac yn hawdd ei chyflawni. Rhaid i'r manylion technegol fod yn gywir; mae ein rheoliadau drafft heddiw yn cynnwys 1,000 o dudalennau. Ac ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Bydd amddiffyn pobl rhag risg ar-lein yn gofyn am gynghrair eang o bobl y mae hyn o bwys iddynt.

"Byddwn yn sicrhau bod ein rheolau'n ymarferol ac yn rhoi ystyriaeth lawn i breifatrwydd pobl – yn ogystal â rhyddid mynegiant"

Felly heddiw rydym yn ymgynghori ag arbenigwyr, diwydiant a'r cyhoedd ar y dull yr ydym yn bwriadu ei ddefnyddio. Rydym yn nodi sut yr ydym yn asesu risg ar-lein, sut y dylai cwmnïau ei mesur a'i lleihau, a sut y byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy'n methu â chyrraedd y nod. Bydd Senedd y DU wedyn yn adolygu ein Codau Ymarfer i’r diwydiant y flwyddyn nesaf, cyn iddynt ddod i rym.

Nid ydym wedi'n brawychu gan raddfa'r her, ac rydym wedi ein hysbrydoli gan yr angen dwys amdani. Mae Ofcom wedi treulio tair blynedd yn paratoi ar gyfer ein rôl newydd. Rydym wedi hyfforddi a chyflogi timau arbenigol sydd â phrofiad ar draws y sector ar-lein – felly bydd ein gwaith rheoleiddio yn ddichonol ac yn gallu addasu i newid.

Wrth gwrs, ni allwn ddatrys pob problem ar y rhyngrwyd. Mae perygl yn rhan o fywyd dynol. Ni allwn warchod pobl ifanc rhag pob ffynhonnell o risg, ac ni ddylem geisio. Ond ni ddylem ychwaith oddef lefel o risg ar-lein i'n plant na fyddem byth yn ei derbyn yn eu bywydau ffisegol. Mae rheoleiddio yma, ac mae Ofcom yn barod i wneud gwahaniaeth.

Related content