11 Gorffennaf 2023

Paratoi i reoleiddio Diogelwch Ar-lein: Categoreiddio gwasanaethau wedi'u rheoleiddio

Heddiw mae Ofcom yn ceisio tystiolaeth ar yr ymchwil y bydd angen i ni ei wneud i baratoi ein cyngor ar gyfer Llywodraeth y DU ar gategoreiddio gwasanaethau wedi'u rheoleiddio o dan gyfreithiau Diogelwch Ar-lein newydd.

Bydd y Bil Diogelwch Ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i rai gwasanaethau ar-lein fel gwefannau cyfryngau cymdeithasol, apiau negeseua a pheiriannau chwilio nodi risgiau i bobl a rhoi mesurau ar waith i'w diogelu rhag mathau penodol o niwed ar-lein. Bydd Ofcom yn darparu arweiniad a chodau ymarfer ar sut y gall cwmnïau gydymffurfio â'u dyletswyddau.

Bydd yn rhaid i wefannau ac apiau sydd o fewn cwmpas ddiogelu eu holl ddefnyddwyr yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon a, lle bo'n berthnasol, amddiffyn plant rhag mathau penodol o niwed ar-lein. Bydd rhai gwasanaethau'n cael eu categoreiddio'n 1, 2A neu 2B os byddant yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth sydd i'w gwneud gan Lywodraeth y DU. Bydd gofyn i'r gwasanaethau wedi'u categoreiddio hyn gydymffurfio â gofynion ychwanegol, gan gynnwys cynhyrchu adroddiadau tryloywder.

Ar ôl i'r deddfau newydd gael eu deddfu, bydd yn ofynnol i Ofcom gynnal ymchwil i helpu rhoi cyngor i Lywodraeth y DU ynghylch y trothwyon y mae'n eu pennu mewn is-ddeddfwriaeth. Yna, bydd Ofcom yn llunio rhestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio yn seiliedig ar y trothwyon hyn.

Bydd trothwyon Categori 1 a 2B yn cael eu pennu gan gyfeirio at niferoedd a swyddogaethau defnyddwyr. Yn yr un modd, bydd trothwyon Categori 2A yn cynnwys niferoedd defnyddwyr.

Mae'r cais am dystiolaeth heddiw yn rhoi cyfle i unrhyw bartïon sydd â diddordeb roi gwybodaeth a thystiolaeth i ni y gallwn eu hystyried wrth wneud ein hymchwil. Byddwn yn cyhoeddi cais arall am dystiolaeth yn ddiweddarach eleni ar y dyletswyddau a fydd yn berthnasol i wasanaethau wedi'u categoreiddio.

Yn benodol, rydym yn ceisio mewnbwn gan ddiwydiant ar sut mae cwmnïau'n mesur niferoedd defnyddwyr ar y rhannau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr perthnasol o'u gwasanaethau. Rydym yn cydnabod bod pob gwasanaeth yn wahanol ac y gallai'r hyn sy'n cyfrif fel defnyddiwr fod yn wahanol ar gyfer gwahanol wasanaethau. Mae'n bwysig i ni fel rheoleiddiwr i sicrhau bod ein hymagwedd at gategoreiddio'n gweddu i hyn. Rydym yn ymgysylltu'n agored â diwydiant a rhanddeiliaid eraill ar y cam cynnar hwn i sicrhau ein bod yn ei gael e'n gywir a'u bod yn cael y cyfle i rannu eu safbwyntiau.

Rydym yn gwahodd sylwadau erbyn 5pm ar 12 Medi 2023.

Related content