6 Gorffennaf 2023

Rhannu sbectrwm 6 GHz ar gyfer Wi-Fi a symudol

Gallai mwy o gapasiti i ddefnyddwyr rhyngrwyd Wi-Fi a symudol gael ei ddarparu yn y band sbectrwm 6 GHz uchaf, o dan ymagwedd newydd sy'n destun ymchwil gan Ofcom.

Mae'r galw am ddata wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf - gan bobl sy'n defnyddio rhwydweithiau Wi-Fi a symudol ill dau - ac rydym yn disgwyl i hynny barhau. Bydd hyn yn rhoi pwysau ar sbectrwm radio, yr adnodd gwerthfawr a meidraidd y mae radiogyfathrebu yn ei gyfanrwydd yn dibynnu arno.

Ar hyn o bryd mae'r band sbectrwm 6 GHz uchaf yn ffocws o ddiddordeb ar gyfer y diwydiant i gefnogi'r twf parhaus hwn mewn traffig. Mae'r diddordeb hwn wedi'i rannu rhwng defnyddio'r band i gyflwyno defnydd symudol trwyddedig yn unig neu ddefnydd eithriad trwydded pŵer isel, fel Wi-Fi, yn unig.

Fodd bynnag, yn hytrach na dewis rhwng y ddau, credwn fod ymagwedd arall yn bosib. Rydym yn ymchwilio i opsiynau a fyddai'n galluogi'r defnydd o Wi-Fi a symudol ill dau yn y band. 'Rhannu hybrid' yw'r enw a roddwn i hyn. Dyma ddwy enghraifft o sut y gellid cyflawni hyn:

  • Rhaniad rhwng awyr agored a dan do. Mae llwybryddion Wi-Fi yn dueddol o fod dan do - yn cludo traffig band eang o fewn ardal dan do leol; tra bod trosglwyddyddion symudol wedi'u lleoli'n bennaf yn yr awyr agored – gan ddarparu darpariaeth ardal ehangach. Felly, rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o alluogi'r defnydd dan do o Wi-Fi ar yr un pryd â galluogi defnydd symudol awyr agored trwyddedig.
  • Rhannu daearyddol. Mae'r rhan fwyaf o'r traffig data a gludir ar draws rhwydweithiau symudol yn tueddu i gael ei grynhoi ar gyfran gymharol fach o safleoedd. Gallai fod yn bosib galluogi defnydd symudol trwyddedig mewn lleoliadau traffig uchel penodol tra'n caniatáu defnydd Wi-Fi mewn mannau eraill. Gallai hefyd fod yn bosib blaenoriaethu defnydd Wi-Fi mewn ardaloedd penodol o alw mawr ar yr un pryd â chaniatáu defnydd symudol mewn ardaloedd eraill.

Rydym am nodi mecanweithiau rhannu hybrid priodol i hwyluso cydfodoli rhwng symudol a Wi-Fi trwyddedig yn y band hwn. Byddwn hefyd yn galw am gysoni rhannu hybrid yn y band hwn yn rhyngwladol, er mwyn galluogi arbedion maint ar gyfer offer.

Gwahoddwn sylwadau ar yr ymagwedd hon erbyn 15 Medi 2023.

Beth yw sbectrwm?

Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar bob dyfais sy’n cyfathrebu’n ddiwifr – boed hynny’n setiau teledu, allweddi car digyswllt, monitorau babis, meicroffonau diwifr na lloerenni. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Pam mae Ofcom yn rheoli'r defnydd o sbectrwm?

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio rhannau gwahanol o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyriant ar wasanaethau ac nad yw'n amharu ar bobl ac ar fusnesau.

See also...