20 Ionawr 2023

Codi prisiau telegyfathrebiadau – beth yw eich hawliau?

Bydd llawer o gwsmeriaid telegyfathrebiadau yn wynebu costau uwch am eu gwasanaethau ffôn cartref, ffôn symudol a band eang yn ystod y misoedd nesaf, wrth i rai darparwyr godi eu prisiau.

Mae rhai cwmnïau telegyfathrebiadau wedi cynnwys cynnydd mewn prisiau yng nghontractau eu cwsmeriaid. Mae hyn yn golygu, ym mis Mawrth / Ebrill, wrth i ni symud o un flwyddyn ariannol i’r nesaf, eu bod yn gallu codi eu prisiau’n unol â thelerau eu contract.

Mae’r mathau hyn o gynnydd mewn prisiau fel arfer yn gysylltiedig â chwyddiant – a’r chwyddiant uchel ar hyn o bryd yw’r prif reswm mae cwsmeriaid yn wynebu cynnydd sylweddol posibl yn y prisiau maent yn eu talu am eu gwasanaethau telegyfathrebiadau.

Mae darparwyr eraill yn dweud y gallai prisiau godi yn ystod y contract, ond nid ydynt yn pennu ymlaen llaw beth fydd y cynnydd hwn.

Beth all darparwyr ei wneud

Os nad yw eich darparwr yn nodi codiad pris yn eich contract (naill ai swm penodol neu un sy’n gysylltiedig â chwyddiant) – ac wedyn mae’n codi prisiau – mae gennych chi hawl i adael y contract hwnnw a symud i ddarparwr arall heb gosb. Dylai roi gwybod i chi am gynnydd mewn prisiau, neu unrhyw newid arall, 30 diwrnod cyn iddo ddigwydd.

Rhaid i ddarparwyr sy’n cynnwys cynnydd mewn prisiau yng nghontractau cwsmeriaid egluro hyn i chi cyn i chi lofnodi’r cytundeb.

Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i weld a yw darparwyr wedi bod yn nodi’r codiadau hyn mewn prisiau’n ddigon clir cyn i gwsmeriaid lofnodi eu contract.

Os nad ydych chi’n meddwl bod eich darparwr wedi gwneud hyn, dylech chi gwyno wrtho. Os nad ydych chi’n fodlon ar sut mae’n delio â’ch cwyn, gallwch fynd â’r gŵyn at yr ombwdsmon a fydd yn gwneud dyfarniad annibynnol ar eich achos.

Rydym yn poeni hefyd am dryloywder codiadau sy’n gysylltiedig â chwyddiant mewn contractau, ac i ba raddau mae’r rhain yn cael eu deall. Rydym yn edrych ar y mater hwn i sicrhau bod buddiannau cwsmeriaid yn cael eu diogelu.

Pam mae’r prisiau hyn yn codi?

Nid Ofcom sy’n pennu prisiau manwerthu telegyfathrebiadau. Rydym yn cefnogi cystadleuaeth yn y sector telegyfathrebiadau, gan fod hyn yn rhoi dewis o amrywiaeth o ddarparwyr, gwasanaethau a phecynnau i gwsmeriaid. Mae’r gystadleuaeth hon yn golygu bod darparwyr yn cynnig disgowntiau i ddenu cwsmeriaid newydd.

Mae hi hefyd yn bwysig cofio er bod gwariant cyfartalog cartrefi ar wasanaethau telegyfathrebiadau wedi bod yn weddol wastad mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf, ar yr un pryd mae cwsmeriaid wedi elwa o wasanaethau gwell a chyflymach ac maent yn defnyddio mwy o ddata nag erioed o’r blaen.

Ac wrth i’r galw am ddata barhau i gyflymu, mae seilwaith band eang a symudol y DU yn cael ei uwchraddio, sydd wir ei angen. Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol gan gwmnïau telegyfathrebiadau, sydd hefyd yn cynyddu capasiti eu rhwydweithiau er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio mwy o ddata.

Rydym yn rheoleiddio prisiau telegyfathrebiadau cyfanwerthol mewn ffordd sy’n gosod yr amodau iawn i gwmnïau allu adeiladu'r rhwydwaith cyflymach a mwy dibynadwy hwn. Gyda’i gilydd, mae band eang cyfradd gigabit nawr ar gael i 70% o’r DU – bron i 21 miliwn o gartrefi – ac mae tua saith eiddo o bob deg yn y DU mewn ardaloedd lle mae 5G ar gael gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol.

Beth arall allwch chi ei wneud?

Os nad ydych chi mewn contract gallwch chi newid darparwr, sy’n rhoi’r cyfle i chi gael bargen well yn rhywle arall.

Os ydych chi’n cael rhai budd-daliadau penodol, efallai eich bod yn gymwys i gael tariff cymdeithasol – mae’r rhain yn becynnau rhatach i gwsmeriaid sydd efallai’n ei chael hi’n anodd talu am eu gwasanaethau ffôn neu fand eang.

Rydym hefyd wedi llunio awgrymiadau i leihau eich costau ffôn, band eang a theledu drwy dalu. Tarwch olwg i weld os byddai’r rhain yn gallu eich helpu chi.

Related content