4 Gorffennaf 2023

'Yr ochr arall' – cynnal cyfanrwydd newyddion a materion cyfoes, mewn tirwedd gyfryngau sy'n newid yn barhaus

Yn gynharach yr wythnos hon, lansiodd Ofcom ddau ymchwiliad darlledu newydd i GB News and Talk TV. Dyma Brif Weithredwr Ofcom, Y Fonesig Melanie Dawes, yn esbonio sut mae cynnal safonau didueddrwydd dyladwy a chywirdeb yn hollbwysig o ran cadw cyfanrwydd newyddion a materion cyfoes mewn tirwedd gyfryngau sy'n newid yn barhaus.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan The Telegraph ar 4 Gorffennaf 2023.

“Mewn achos o anghydweld, peidiwch byth â barnu nes i chi glywed yr ochr arall.”

Er yn perthyn i bron i ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, mae cyngor Euripides o blaid trafodaeth gyhoeddus wybodus yn cyfeirio un o'r egwyddorion craidd sy'n sail i waith Ofcom o reoleiddio'r newyddion a materion cyfoes a ddarlledir heddiw – presenoldeb a grym y farn amgen.

Yn yr 20 mlynedd y mae Ofcom wedi bodoli, rydym wedi gweld llawer o newidiadau arloesol mewn tirwedd gyfryngau sy'n newid yn gyflym. Erbyn hyn rydym yn trwyddedu dros 2,000 o wasanaethau teledu a radio, gan ddod â chronfa ehangach fyth o straeon, lleisiau a barn i wylwyr a gwrandawyr.

Ym maes newyddion, mae awydd y cyhoedd am amrywiaeth eang o safbwyntiau wedi ysgogi dyfodiad sianeli teledu newydd yn ddiweddar sy'n ceisio rhoi eu stamp golygyddol eu hunain ar dirwedd newyddion y DU. Mae allfeydd newyddion traddodiadol wedi arallgyfeirio eu cynnig ar-lein.  Ochr yn ochr â gwasanaethau mwy newydd fel Tortoise, Bellingcat a Medium, mae hyn yn golygu diet newyddion amrywiol i'r un o bob saith oedolyn yn y DU sydd bellach ond yn cyrchu newyddion ar-lein.

Gall llwyfannau cyfryngau cymdeithasol hefyd weithredu fel porthorion newyddion, gan helpu pobl i ddarganfod straeon sy'n torri ac ar yr un pryd darparu fforwm ar gyfer trafodaeth gynyddol stranciog ac wedi'i bolareiddio. Yn wir, gall yr ystod enfawr o ffynonellau newyddion sydd ar gael i gynulleidfaoedd modern fod yn llethol, gyda chynnwys newyddion dibynadwy yn gorfod ymladd am ein sylw ochr yn ochr â dolenni annibynadwy.

Ond drwy gydol yr holl newid a thrawsnewid hwn, mae rôl hollbwysig Ofcom o sicrhau cywirdeb rhaglenni newyddion a materion cyfoes a ddarlledir – trwy gynnal safonau didueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy - wedi aros yn ddiysgog.

Mae'r ddwy golofn hon o'n Cod Darlledu - sy'n adlewyrchu'r dyletswyddau a bennwyd ar gyfer Ofcom gan Senedd y DU - wedi'u dylunio i ddiogelu cynulleidfaoedd rhag niwed, ac i sicrhau gwrthbwys i ffynonellau newyddion eraill sy'n fwy bratiog. Maent yn rhoi hyder i gynulleidfaoedd newyddion teledu a radio y gallant ddibynnu ar y ffeithiau tra hefyd yn "clywed yr ochr arall" trwy ystod o safbwyntiau amgen, fel y gallant farnu drostynt eu hunain.

Yn bwysig, mae ein rheolau didueddrwydd dyladwy yn parchu rhyddid darlledwyr i wneud dewisiadau golygyddol a chreadigol, a hawliau gwylwyr a gwrandawyr i dderbyn ystod o wybodaeth a syniadau.  Mae hyn yn cynnwys safbwyntiau dadleuol sy'n herio'r prif ffrwd neu'r status quo.  Mae ein rheolau'n cefnogi newyddiaduraeth drylwyr a heriol sy'n dwyn y rhai mewn grym i gyfrif ac sydd wedi ennill enw da heb ei ail i'n darlledwyr teledu a radio ledled y byd. Mae'r egwyddor o ryddid mynegiant wedi'i werthfawrogi'n fawr gan gynulleidfaoedd ac yn hynod bwysig i'n democratiaeth.

Ond er gwaethaf eu pwysigrwydd, mae ein rheolau didueddrwydd dyladwy weithiau'n cael eu camddeall. Camsyniad cyffredin yw bod didueddrwydd dyladwy yn golygu "niwtraliaeth”. Neu ei fod yn gystrawen fathemategol sy'n mynnu amser cyfartal ar yr awyr i bob ochr o ddadl. Ddim felly. Mae'r gair bach hwnnw 'dyladwy' yn hynod o bwysig. Ei ystyr yw 'digonol neu briodol i'r pwnc a natur y rhaglen’. Felly pan fyddwn yn cymhwyso ein rheolau rydym yn ystyried nifer o ffactorau cyd-destunol, gan gynnwys natur y pwnc, y math o raglen a sianel, a disgwyliad tebygol y gynulleidfa.

Y tu hwnt i raglenni newyddion, mae ein rheolau bob amser wedi caniatáu i gyflwynwyr roi eu barn eu hunain ar faterion gwleidyddol dadleuol ar yr awyr, cyn belled â bod safbwyntiau eraill yn cael eu hadlewyrchu. Fodd bynnag, un maes sydd wedi sbarduno trafodaeth egnïol yn ddiweddar - ac y mae rhai'n dadlau ei fod yn ymestyn yr egwyddor o ddidueddrwydd dyladwy i'w therfynau - yw'r cynnydd yn nifer y gwleidyddion sy'n cyflwyno rhaglenni.

Heddiw, nid yw'n anghyffredin gweld ffigurau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn cyflwyno rhaglenni ffonio i mewn ar y radio, neu sioeau panel a chyfweld ar y teledu. Ond mae ein rheolau'n sicrhau mesurau diogelu llym.

Mae'r Cod Darlledu yn glir na all gwleidydd etholedig fod yn ddarllenydd newyddion, yn gyfwelydd nac yn ohebydd mewn unrhyw raglen newyddion, oni bai bod cyfiawnhad golygyddol eithriadol dros hynny. Ac yn yr achosion eithriadol hynny, mae'n rhaid i'w teyrngarwch gwleidyddol gael ei egluro i'r gynulleidfa. Fel arfer, bydd rhaglenni newyddion yn cynnwys darllenwyr newyddion sy'n cyflwyno'n uniongyrchol i'r gynulleidfa, a gallant gynnwys pecynnau gohebyddion neu adroddiadau byw, gyda chymysgedd o eitemau fideo a gohebydd.

Y tu hwnt i raglenni newyddion - megis fformatau materion cyfoes sydd fel arfer yn cynnwys trafodaeth, dadansoddi, cyfweliadau ac adroddiadau fideo ffurf hir manylach - nid oes rheol gan Ofcom sy'n atal gwleidydd etholedig neu ymgeisydd gwleidyddol rhag cyflwyno - ar yr amod nad ydynt yn sefyll mewn etholiad cyfredol, neu sydd ar fin digwydd. Yn ystod cyfnodau etholiad, er enghraifft, rydym yn glir na all ymgeiswyr gyflwyno unrhyw raglenni o gwbl. Mae rhaglenni materion cyfoes fel arfer yn cynnwys fformat mwy manwl, gyda thrafodaethau, dadansoddi, cyfweliadau – weithiau'n fyw - gyda gwesteion, ac adroddiadau fideo ffurf hir.

Pan fydd gennym reswm dros gwestiynu cydymffurfiaeth darlledwyr â'n rheolau rydym yn camu i'r adwy i ymchwilio - fel y gwnaethom yr wythnos hon gyda dwy raglen, un ar GB News ac un ar Talk TV.

Mae'n ddyletswydd arnom hefyd i sicrhau bod ein rheolau yn parhau i fod yn effeithiol ac rydym yn cynnal adolygiadau o'n Cod pan fydd angen. Fel bob amser, mae ein hymagwedd yn seiliedig ar dystiolaeth. Yn allweddol, mae hynny'n golygu siarad yn uniongyrchol â gwylwyr a gwrandawyr yn rheolaidd i ddeall eu harferion, dymuniadau a goddefgarwch presennol o lygad y ffynnon.

O ystyried y cynnydd yn nifer y rhaglenni materion cyfoes a gyflwynir gan wleidyddion, a diddordeb cyhoeddus diweddar yn y mater hwn, rydym wedi lansio ymchwil newydd i adeiladu darlun cynhwysfawr o agweddau cynulleidfaoedd tuag at y rhaglenni hyn. Cadwch lygad allan am ein canfyddiadau yn nes ymlaen eleni.

Related content