3 Awst 2023

Y tueddiadau pennaf o'n hymchwil Cyfryngau'r Genedl ddiweddaraf

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil diweddaraf sy'n bwrw golwg ar arferion a hoffterau pobl o ran y cyfryngau ar draws y DU.

Mae'r prif ganfyddiadau'n dangos newid cyflym o ran sut mae gwylwyr a gwrandawyr y DU yn defnyddio teledu, fideo ar-lein, radio a sain. Ond ceir canfyddiadau pellach sy’n taflu goleuni ar sut mae pobl ar draws y wlad yn cyrchu ac yn mwynhau ystod o gynnwys ar draws set gynyddol amrywiol o gyfryngau a llwyfannau.

Mae'r canfyddiadau llawn i’w gweld yn ein Hadroddiad Cyfryngau'r Genedl (Adroddiad y DU, yn Saesneg), ond dyma nifer o'r uchafbwyntiau.

Momentau cenedlaethol mawrion oedd yr hyn y gwnaethom eu gwylio fwyaf ar y teledu

Er i ni nodi gostyngiad yn nifer y rhaglenni â chynulleidfaoedd torfol, gyda’r rhai sy'n denu mwy na phedair miliwn o wylwyr teledu wedi haneru dros yr wyth mlynedd diwethaf, daeth momentau mawr o ddiddordeb cenedlaethol â ni at ein gilydd o flaen ein sgriniau teledu. Dominyddwyd y rhestr o'r rhaglenni a wyliwyd fwyaf yn 2022 gan ddigwyddiadau chwaraeon a brenhinol – gêm gogynderfynol Lloegr yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan y Byd FIFA oedd ar frig y tabl gydag 16.1 miliwn o wylwyr ar gyfartaledd.

Gwyliodd 13.2 miliwn o wylwyr yr ail ran o ddarllediad BBC One o angladd gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II  ar gyfartaledd, a bu i nifer ychydig yn llai wylio Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Y deg rhaglen a wyliwyd fwyaf yn y DU, 2022 (pennod â'r mwyaf o wylwyr fesul teitl)

  1. Rownd Gogynderfynol Cwpan y Byd FIFA: Lloegr yn erbyn Ffrainc, ITV1, 10 Rhagfyr 2022. Cyfran o 68.4%. Cynulleidfa gyfartalog: 16.1 miliwn.
  2. Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II (rhan 2), BBC One, 19/09/2022. Cyfran o 61.1%. Cynulleidfa gyfartalog: 13.2 miliwn.
  3. Jiwbilî Platinwm y Frenhines,BBC One, 04/06/2022. Cyfran o 66.2%. Cynulleidfa gyfartalog: 13.2 miliwn.
  4. I'm A Celebrity... Get Me Out of Here!,ITV1, 06/11/2022. Cyfran o 52.9%. Cynulleidfa gyfartalog: 12.5 miliwn.
  5. The Tourist,BBC One, 01/01/2022. Cyfran o 42.1%. Cynulleidfa gyfartalog: 11.4 miliwn.
  6. Happy New Year Live!,BBC One, 31/12/2022. Cyfran o 55.8% Cynulleidfa gyfartalog: 11.3 miliwn.
  7. Rownd Derfynol Gemau Ewropeaidd y Merched 2022: Lloegr yn erbyn Yr Almaen,BBC One, 31/07/2022, Cynulleidfa gyfartalog: 11.2 miliwn.
  8. Trigger Point,ITV1, 23/01/2022. Cyfran o 43.8%. Cynulleidfa gyfartalog: 10.9 miliwn.
  9. Strictly Come Dancing,BBC One, 17/12/2022. Cyfran o 55.0% Cynulleidfa gyfartalog: 10.7 miliwn.
  10. The Thief, His Wife and The Canoe,ITV1, 17/04/2022. Cyfran o 41.9%. Cynulleidfa gyfartalog: 10.1 miliwn.

Radio yn parhau i ffynnu er gwaethaf y cynnydd mewn ffrydio cerddoriaeth

Mae radio byw yn parhau i gyrraedd yn eang, a hynny wedi’i ysgogi’n rhannol gan i rai cynulleidfaoedd symud i wrando ar-lein. Radio byw yw'r ffurf sain fwyaf poblogaidd o hyd, gyda 88% o oedolion yn gwrando am 20 awr yr wythnos ar gyfartaledd. A gyda gwrando ar y radio’n parhau i symud ar-lein, mae seinyddion clyfar bellach yn cyfrif am un rhan o bump o'r gwrando ar y radio gartref.

Arferion ar ôl y cyfnodau clo wedi arwain at ostyngiad mewn gwylio teledu a fideo

Yr amser cyfartalog a dreuliwyd yn gwylio cynnwys teledu a fideo ar draws pob dyfais yn 2022 oedd 4 awr 28 munud y person bob dydd.

Rydym yn amcangyfrif bod hyn tua 12% yn is nag yn 2021, pan fu i’r cyfyngiadau Covid-19 olygu bod pobl yn treulio mwy o amser gartref yn gwylio cynnwys.

Gostyngiad mewn cofrestru ar gyfer gwasanaethau ffrydio o ganlyniad i gystadleuaeth ac ymchwydd mewn costau

Bu gostyngiad yn nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifiad – fel Netflix, Amazon Prime Video a Disney – yng nghanol pwysau economaidd ar aelwydydd, cystadleuaeth gynyddol yn y sector, ac ymchwydd yn y prisiau a godir gan lwyfannau. Wedi i fwy o bobl gofrestru ar gyfer y gwasanaethau hyn yn ystod y pandemig, pan oedd hyd at 68% o aelwydydd y DU yn tanysgrifio i o leiaf un gwasanaeth, mae’r ffigur hwnnw wedi gostwng ychydig ers hynny a sefydlogi ar oddeutu 66%, neu 19 miliwn o aelwydydd.

Fideos newyddion a chynnwys ‘sut mae gwneud’ yw’r fideos ffurf-fer mwyaf poblogaidd

Mae mwy na thraean o oedolion ar-lein yn gwylio fideo ffurf-fer (fideos sy’n fyrrach na deng munud) bob dydd, gyda chynulleidfaoedd ifainc yn fwy tebygol o wneud hyn. YouTube yw'r cyfrwng cymdeithasol mwyaf poblogaidd ar gyfer llwyfannau fideo ffurf-fer, wedi'i ddilyn gan Facebook ac Instagram.

Ymhlith oedolion a fu'n gwylio cynnwys ffurf-fer o leiaf unwaith y mis, y genre mwyaf poblogaidd oedd fideos 'sut mae gwneud' (64%), wedi'i ddilyn gan newyddion (63%) a fideos a uwchlwythwyd gan y cyhoedd (59%).

Gwariant ar gerddoriaeth wedi'i recordio'n parhau i godi

Gwariodd pobl yn y DU bron i £2bn ar gerddoriaeth wedi’i recordio yn 2022, gyda thanysgrifiadau i wasanaethau cerddoriaeth ar-lein fel Spotify ac Apple Music yn cyfrif am 83% o’r cyfanswm hwnnw. Bu gostyngiad o 4% mewn gwariant ar fformatau ffisegol o flwyddyn i flwyddyn gan nad oedd y twf parhaus mewn finyl (11%) yn ddigon i wrthbwyso'r gostyngiad o 17% yn nifer y cryno-ddisgiau a brynwyd. Hefyd, bu cynnydd parhaus yn nifer y casetiau a brynwyd, gan dyfu 5% i gyfanswm o 195,000 o unedau (sy'n cyfrif am 1.1% o gyfanswm y gwerthiannau albymau ffisegol).

Gwariodd pobl yn y DU bron i

£2bn

ar gerddoriaeth wedi'i recordio yn 2022

Spotify yn parhau fel y llwyfan fwyaf poblogaidd ar gyfer ffrydio cerddoriaeth

Er bod ffrydio cerddoriaeth yn cyfrif am un o bob pump yn unig o oedolion sy'n gwrando ar sain, mae hyn yn codi i hanner y bobl ifanc sy'n gwrando ar sain. Spotify yw'r gwasanaeth mwyaf poblogaidd o hyd ar gyfer ffrydio cerddoriaeth, ond mae YouTube ac Amazon hefyd wedi ymestyn eu cyrhaeddiad i bedwar o bob deg a thraean o ffrydwyr cerddoriaeth yn y drefn honno.

Spotify, YouTube a BBC Sounds yw’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd ar gyfer podlediadau, y maent oll yn cyrraedd ychydig dros ddau draean o’r gwrandawyr hyn bob wythnos. BBC Sounds a welodd y twf mwyaf o flwyddyn i flwyddyn, gan fynd o gyrraedd ychydig dros un o bob pump defnyddiwr radio ar-lein yn 2022 (21%) i fwy na thraean (35%) ohonynt yn 2023.

Chwaraeon a drama yn elwa o fuddsoddiad cynyddol

Cyfrannodd nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawrion, gan gynnwys y rhai a gyrhaeddodd y deg rhaglen a wyliwyd fwyaf, at y maint mwyaf o raglennu chwaraeon gwreiddiol sydd wedi'i gynhyrchu gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (PSB) mewn deng mlynedd. Roedd hyn yn cyfrif am 10% o gynnwys gwreiddiol ar sianeli PSB. Ar ben hynny, cyrhaeddodd y maint o raglennu drama gwreiddiol ar sianeli PSB ei lefel uchaf ers 2016. Cafwyd y buddsoddiad hwn er gwaethaf y ffaith y gwelodd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol a’r aml-sianeli digidol ostyngiad mewn refeniw hysbysebu, a hynny wedi’i ysgogi’n rhannol gan y dirywiad yn economi’r DU yn ail hanner 2022.

Related content