Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith

Cyhoeddwyd: 6 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd diwethaf: 24 Ebrill 2025

Mae Ofcom wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ers i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ddod yn gyfraith

Mae’r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gwmnïau sydd ag ystod eang o wasanaethau ar-lein i gadw pobl, yn enwedig plant, yn ddiogel ar-lein. Mae gan y cwmnïau hyn ddyletswyddau newydd i ddiogelu defnyddwyr yn y DU drwy asesu risgiau o niwed a chymryd camau i fynd i’r afael â nhw. Mae’r rheolau newydd yn berthnasol i’r holl wasanaethau sydd o fewn y cwmpas ac sydd â nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU neu sy’n targedu marchnad y DU, waeth lle maen nhw wedi'u lleoli. 

Mae angen i wasanaethau weithredu i gydymffurfio â'u dyletswyddau

Rydym wedi cyhoeddi Codau Ymarfer a chanllawiau ar sut y gall cwmnïau cydymffurfio â'u dyletswyddau. Os ydych chi'n darparu gwasanaeth ar-lein, mae camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd pan ddaw dyletswyddau i rym. Mae'r dudalen 'dyddiadau pwysig ar gyfer cydymffurfio â diogelwch ar-lein' yn esbonio'r cerrig milltir bwysig. 

Cam un: niwed anghyfreithlon

Ym mis Rhagfyr 2024, gwnaethom gyhoeddi ein datganiad niwed anghyfreithlon a oedd yn nodi dyletswyddau cynnwys anghyfreithlon y mae'n rhaid i wasanaethau gydymffurfio â nhw.

Rhaid i bob darparwr gwasanaethau yng nghwmpas y Ddeddf gwblhau asesiad risg cynnwys anghyfreithlon erbyn 16 Mawrth 2025. Mae ein canllaw cyflym i asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon yn cynnwys mwy o wybodaeth am sut i gwblhau asesiad risg. Mae ein canllaw cyflym i'r codau ymarfer cynnwys anghyfreithlon yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y Codau terfynol.

Rydym hefyd yn bwriadu lansio ymgynghoriad pellach sy'n adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y Codau cyntaf yng ngwanwyn 2025.

Cam dau: diogelwch plant, pornograffi, ac amddiffyn menywod a merched

Ym mis Ionawr 2025, gwnaethom gyhoeddi ein canllawiau sicrwydd oedran terfynol ar gyfer cyhoeddwyr cynnwys pornograffig. Daeth y dyletswyddau hyn sy'n berthnasol i ddarparwyr rhan 5 yn orfodol tua'r un pryd ac rydym yn monitro cydymffurfiaeth.

Cyhoeddwyd ein canllawiau asesiadau mynediad plant terfynol ym mis Ionawr 2025. Mae gan ddarparwyr gwasanaeth dri mis i gwblhau'r broses asesu mynediad plant. Rhaid i wasanaethau sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant wedyn gynnal asesiad risg plant o fewn tri mis i ni gyhoeddi ein Codau Amddiffyn Plant a’n canllawiau asesu risg ym mis Ebrill 2025. Dylai’r gwasanaethau hynny baratoi i gwblhau eu hasesiadau risg plant erbyn mis Gorffennaf 2025. Rydym yn disgwyl y bydd modd gorfodi’r dyletswyddau diogelwch amddiffyn plant tua mis Gorffennaf 2025.

Ym mis Chwefror 2025, gwnaethom gyhoeddi ein canllawiau drafft ar amddiffyn menywod a merched, yn cynnwys cyngor ar gynnwys a gweithgarwch sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched, ac ar asesu a lleihau'r risg o niwed iddynt. Rydym yn disgwyl i'r canllawiau terfynol gael eu cyhoeddi ddiwedd y flwyddyn.

Cam tri: categoreiddio a dyletswyddau ychwanegol i wasanaethau wedi’u categoreiddio

Bydd cyfran fach o wasanaethau wedi’u rheoleiddio yn cael eu dynodi’n wasanaethau Categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth. Mae ein cam gweithredu terfynol yn canolbwyntio ar ofynion ychwanegol sydd ond yn berthnasol i’r gwasanaethau hyn sydd wedi’u categoreiddio.

Bydd yn ofynnol i'r gwasanaethau wedi'u categoreiddio hyn gydymffurfio ag ystod o ofynion ychwanegol, yn dibynnu ar ba gategori maen nhw ynddo, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddod â lefel uwch o ddiogelwch, tryloywder ac atebolrwydd i'r byd ar-lein.

Y cam nesaf yw i’r Llywodraeth Brydeinig gadarnhau’r trothwyon ar gyfer categoreiddio mewn is-ddeddfwriaeth, a disgwyliwn i hyn ddigwydd erbyn diwedd 2024. Rydym wedi ailflaenoriaethu ein gwaith ar y dyletswyddau ar wasanaethau wedi’u categoreiddio i sicrhau ein bod yn cyflawni’n gyflymaf yn y meysydd rydym yn disgwyl y byddant yn arbennig o fuddiol o ran diogelu defnyddwyr ar ôl i’r trothwyon gael eu cadarnhau. Rydym yn disgwyl:

  • cyhoeddi’r gofrestr o wasanaethau wedi’u categoreiddio yn ystod haf 2025,
  • cyhoeddi hysbysiadau tryloywder drafft o fewn ychydig wythnosau i gyhoeddi’r gofrestr, a chyhoeddi hysbysiadau tryloywder terfynol yn fuan wedyn,
  • cyhoeddi cynigion drafft am y dyletswyddau ychwanegol ar wasanaethau sy’n cael eu categoreiddio erbyn dechrau 2026 fan bellaf.

Darllen y diweddariad llawn

Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: diweddariad cynnydd

Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith

Map gwreiddiol (2023)

Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith

Diweddariad – beth sydd wedi newid ers cyhoeddi ein map (15 Mehefin 2023)

Gwnaethom gyhoeddi diweddariad  ar sut mae Ofcom yn paratoi i reoleiddio diogelwch ar-lein, gan gynnwys amserlenni disgwyliedig a'r hyn sydd wedi newid ers i ni gyhoeddi ein map.

Map gwreiddiol (6 Gorffennaf 2022)

Rate this page

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig