Diddymu’r drefn VSP: yr hyn y mae angen i chi ei wybod

03 Mai 2023

Mae’r dudalen hon yn esbonio diddymu’r drefn llwyfannau rhannu fideos (VSP) a beth mae’n ei olygu i ddarparwyr.

Ym mis Tachwedd 2020, cyflwynodd Llywodraeth y DU reolau ar gyfer VSPs sydd wedi'u sefydlu yn y DU. Cyfeiriwn weithiau at y rheolau hyn fel y 'drefn VSP'.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn a olygwn wrth y drefn VSP a'n dull o reoleiddio VSPs yn Adran rheoleiddio VSP ein gwefan.

Ar 26 Hydref 2023, derbyniodd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('y Ddeddf DA') Gydsyniad Brenhinol. Mae'r Ddeddf DA yn disgrifio'r broses ar gyfer diddymu'r gyfundrefn VSP.

Gallwch ddarllen testun y Ddeddf DA a nodiadau esboniadol ar wefan legislation.gov.uk.

  • Mae Atodlen 17 yn nodi sut y bydd VSPs yn symud o gael eu rheoleiddio o dan y drefn VSP i gael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf DA.
  • Mae Atodlen 3, Rhan 3 yn nodi manylion yr amseriadau ar gyfer pryd y bydd angen i ddarparwyr VSPs ddechrau cynnal yr asesiadau risg a fydd yn ofynnol o dan y Ddeddf DA.

Isod rydym yn crynhoi'r darpariaethau diddymu a'r camau nesaf ar gyfer darparwyr VSP. Noder mai Llywodraeth y DU fydd penderfynu pryd yn union y bydd y diddymiad yn digwydd, felly gallai’r wybodaeth hon newid dros y misoedd i ddod.

Mae VSPs sydd wedi'u sefydlu yn y DU bellach mewn cyfnod pontio

Ar 10 Ionawr 2024, aeth pob VSP a oedd wedi’u sefydlu’n barod yn y DU (mewn geiriau eraill, llwyfannau sy’n bodloni’r meini prawf cwmpas ac awdurdodaeth o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003) i mewn i gyfnod pontio.

Os oedd eich llwyfan yn bodloni’r meini prawf hysbysu yn syth cyn i’r cyfnod pontio ddechrau, rydych bellach wedi’ch rheoleiddio o dan y drefn VSP a’r Ddeddf DA – ond ni fydd angen i chi fodloni’r rhan fwyaf o ddyletswyddau’r Ddeddf DA tan ddiwedd y cyfnod pontio. Mae gennych rai dyletswyddau o hyd o dan y Ddeddf DA, megis:

  • cydymffurfio â cheisiadau am wybodaeth a gyhoeddir gan Ofcom; a
  • hysbysu ar gyfer ffioedd.

Dylech sicrhau eich bod yn hysbysu Ofcom am eich gwasanaeth, os nad ydych eisoes wedi’i wneud.

Os mai ar neu ar ôl 10 Ionawr 2024 y gwnaethoch ddechrau darparu eich gwasanaeth, dim ond o dan y Ddeddf DA y cewch eich rheoleiddio (a bydd hynny’n berthnasol yn llawn). Nid yw’r drefn VSP yn berthnasol i chi, ac nid oes angen i chi hysbysu Ofcom am eich gwasanaeth.

Yn ystod y cyfnod pontio, bydd Ofcom yn parhau i reoleiddio VSPs sydd wedi’u sefydlu yn y DU

Bydd gennym bwerau o hyd i reoleiddio VSPs presennol sydd wedi’u sefydlu yn y DU o dan y rheolau presennol. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw ddarparwr sy'n methu â hysbysu.

Os yw VSP yn adran y gellir ei datgysylltu (mewn geiriau eraill, rhan wahanadwy) o wasanaeth mwy, y mae rhan arall ohono'n gymwys fel gwasanaeth wedi'i reoleiddio o dan y Ddeddf DA, dim ond i'r rhan VSP o'r gwasanaeth y bydd yr eithriad yn berthnasol. Yn ystod y cyfnod pontio, bydd y rhan o'r gwasanaeth nad yw'n VSP yn cael ei thrin fel unrhyw wasanaeth wedi'i reoleiddio arall sydd o fewn cwmpas y Ddeddf DA. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein harweiniad Pwy sydd angen hysbysu Ofcom?.

Pan ddaw'r cyfnod pontio i ben, bydd y Ddeddf DA yn disodli'r drefn VSP yn llawn

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg yn penderfynu ar y dyddiad pan ddaw’r cyfnod pontio i ben a bydd rheolau VSP yn cael eu diddymu’n derfynol. Byddant yn nodi'r dyddiad mewn is-ddeddfwriaeth.

Ar ôl y dyddiad hwn, bydd VSPs sydd eisoes yn bodoli ac sydd wedi'u sefydlu yn y DU yn cael eu rheoleiddio yn y DU o dan y Ddeddf DA - bydd eu holl ddyletswyddau diogelwch ar-lein newydd yn berthnasol. Ond bydd gan Ofcom y pŵer o hyd i barhau ag unrhyw achosion gorfodi sy'n mynd rhagddynt gyda VSPs ar y dyddiad diddymu.

Rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol roi o leiaf chwe mis o rybudd i lwyfannau o'r dyddiad diddymu. Blaenoriaeth Llywodraeth y DU yw cynnal mesurau amddiffyn, tra hefyd yn lleihau'r baich ar lwyfannau wedi'u rheoleiddio ac ar Ofcom. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cefnogi pan fyddant yn symud rhwng y trefnau.

Bydd tâl yn cael ei godi ar wasanaethau wedi'u rheoleiddio o 2025-26 neu'n hwyrach

Ar 19 Ebrill 2023, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig. Gwnaeth hwn esbonio fod disgwyl i dâl gael ei godi ar wasanaethau wedi'u rheoleiddio â refeniw ar neu uwchlaw trothwy penodol o flwyddyn ariannol 2025-26 neu’n hwyrach – cyn belled nad ydynt fel arall wedi’u heithrio.

Yn ystod y cyfnod pontio, ni fydd yn rhaid i ddarparwyr VSP-yn-unig presennol, a darparwyr y mae’r VSP yn rhan wahanadwy o’u gwasanaeth, dalu ffioedd mewn perthynas â gwasanaethau VSP yn unig, neu’r rhannau gwahanadwy o’u gwasanaethau sy’n VSP, fel y bo'n berthnasol.

Rhaid i ddarparwyr gynnal asesiadau risg ond mae'r terfynau amser eto i'w cadarnhau

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i nodi’r amseriad ar gyfer pryd y bydd angen i ddarparwyr VSP gynnal asesiadau risg a’r asesiad mynediad plant. Mae ein dull o weithredu'r Ddeddf DA yn esbonio'r asesiadau hyn yn fanylach.

Bydd gan VSPs o leiaf dri mis i gynnal pob asesiad, sef yr un peth â gwasanaethau wedi'u rheoleiddio eraill. Bydd yr union amseriad ar gyfer pryd y bydd yn rhaid iddynt wneud hyn yn dibynnu ar y dyddiad dechrau asesiadau sydd wedi'i nodi yn yr is-ddeddfwriaeth, ac a yw Ofcom wedi cyhoeddi’r asesiad risg neu arweiniad asesiad mynediad plant perthnasol erbyn y dyddiad a bennwyd ai beidio. Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth pan fydd yr amseriadau tebygol yn gliriach.

Os yw’r VSP yn adran wahanadwy o wasanaeth mwy, y mae rhan arall ohono’n gymwys fel gwasanaeth wedi'i reoleiddio o dan y Ddeddf DA, bydd yn rhaid cynnal yr asesiadau risg a’r asesiad mynediad plant ar gyfer y rhan nad yw’n VSP ar yr un pryd ag ar gyfer unrhyw wasanaeth arall wedi'i reoleiddio sydd o fewn cwmpas y drefn diogelwch ar-lein.

Bydd Ofcom yn helpu darparwyr VSP i gyflawni eu dyletswyddau diogelwch ar-lein

Byddwn yn cydweithio’n agos â darparwyr i’w helpu i ddeall:

  • pryd y bydd y cyfnod pontio a'r diddymiad yn digwydd; a
  • beth fydd eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf DA.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?