Gwella eich cyflymder band eang yn y cartref

04 Mawrth 2024

Mae llawer o bobl yn dibynnu ar wasanaeth band eang dibynadwy a chyflym. Ond weithiau gallai eich gwasanaeth fethu cynnig y cyflymder sydd eu hangen arnoch, neu a addawyd i chi pan wnaethoch lofnodi’r cytundeb.

Yn gyntaf, meddyliwch am y cyflymder sydd eu hangen arnoch, ar sail eich anghenion, gan ddefnyddio ein teclyn gwirio band eang.

Beth gallwch chi wneud gyda gwahanol fathau o fand eang

Os ydy eich cyflymder yn gostwng yn is na’r lefel cafodd ei addo gan eich darparwr, yna mae ganddynt fis i wella perfformiad neu bydd yn rhaid iddyn nhw dderbyn eich bod yn gallu gadael heb gosb.

Ond mae yna gamau ymarferol eraill gallwch chi eu cymryd i wella cyflymder a pherfformiad eich gwasanaeth.

Mae nifer o bethau’n gallu effeithio ar eich cysylltiad band eang.

Mae pellter eich cartref o'r gyfnewidfa ffôn, ar ba amser o'r dydd rydych chi'n mynd ar-lein a faint o bobl sy'n eich cartref sy'n defnyddio'r rhyngrwyd ar yr un pryd -gall pob un o'r rhain arafu eich cysylltiad chi. Neu, efallai bod problem gyda’ch cysylltiad neu nad yw eich dyfais wedi'i gosod yn gywir.

Gallai’r awgrymiadau canlynol helpu i wella’ch cyflymder.

Profwch gyflymder eich llinell

Bydd hyn yn dangos pa gyflymder rydych chi'n ei gael mewn gwirionedd. Gallwch redeg prawf cyflymder gan ddefnyddio ddefnyddio gwefan cymharu prisiau a achredir gan Ofcom fel Broadband.co.ukbroadbandchoices.co.ukSimplifydigital. Gwnewch brofion dros gyfnod o ddiwrnodau a gwiriwch ar wahanol adegau o’r dydd.

Siaradwch â’ch darparwr band eang

Os oes gennych chi broblem â’ch cysylltiad, cysylltwch â’ch darparwr yn gyntaf. Dylai allu eich helpu i ddatrys beth sy’n achosi hyn a sut gallech chi ei drwsio.

Gall rhai dyfeisiau ymyrryd â’ch llwybrydd

Gall bylbiau halogen, switshys pylu, uwchseinyddion stereo neu gyfrifiadur, goleuadau Nadolig, setiau teledu a monitorau i gyd effeithio ar lwybryddion. Cadwch eich llwybrydd yn ddigon pell o ddyfeisiau eraill yn ogystal â'r rhai sy’n gweithredu’n ddiwfir, fel ffonau diwifr neu offer monitro babanod. Rhowch y llwybrydd ar fwrdd neu silff yn hytrach nag ar y llawr a chadwch e ymlaen.

Uwchraddiwch eich llwybrydd

Os oes gennych hen lwybrydd neu os yw eich linell yn datgsysylltu'n rheolaidd, efallai bydd o fudd i chi uwchraddio. Cysylltwch gyda'ch darparwr i drafod ymhellach.

Rhowch gynnig ar gysylltiad cebl yn lle diwifr

Defnyddiwch gebl Ethernet i gysylltu eich cyfrifiadur â’ch llwybrydd yn syth yn hytrach na defnyddio Wi-Fi. Cebl rhwydweithio cyfrifiadurol yw cebl Ethernet a ddylai roi cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy i chi.

Ewch i'r afael ag ymyriant llinell ffôn

Gallai unrhyw ymyriant ar eich llinell ffôn arafu eich band eang. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r prif soced ffôn diweddaraf ar gyfer eich cartref a phlwgiwch ficrohidlyddion ym mhob soced ffôn yn eich cartref. Maent yn edrych fel blychau bach gwyn ac yn gwahanu'r signalau ffôn a band eang fel nad ydynt yn effeithio ar ei gilydd.

Plwgiwch eich llwybrydd yn syth i soced eich prif ffôn

Ceisiwch beidio â defnyddio ceblau estyniad ffôn - gall ceblau achosi ymyriant a allai arafu eich cyflymder. Os oes yn rhaid i chi ddefnyddio cebl estyn, defnyddiwch gebl newydd o ansawdd uchel sydd â’r hyd lleiaf posib. Gall ceblau sydd wedi'u torchi neu eu clymu effeithio ar gyflymder hefyd.