Gwella eich darpariaeth symudol dan do


Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cael signal symudol cryf dan do, gallech chi fod yn colli cyfleoedd i gadw mewn cysylltiad.

Efallai hefyd eu bod yn ei chael hi’n anodd prynu nwyddau a gwasanaethau ar-lein os nad ydynt yn gallu derbyn negeseuon testun yn rhwydd, oherwydd mae rhai banciau a chwmnïau cardiau debyd neu gredyd yn defnyddio’r cam hwn i dynhau eu mesurau diogelwch.

Mae'r ddarpariaeth anghyson mewn rhai ardaloedd yn golygu bod pobl yn cael trafferth gwneud galwadau ffôn symudol neu fynd ar-lein ar eu ffonau symudol. Hefyd, mae'r deunyddiau sy'n cael eu defnyddio wrth adeiladu rhai cartrefi a busnesau'n gallu effeithio ar y signal dan do, er enghraifft toeon llechi a waliau trwchus traddodiadol yn ogystal â gwydr ffenestri modern a deunyddiau inswleiddio.

Gwiriwch pa ddarparwr sy’n rhoi'r signal gorau yn eich ardal chi

Mae’n bosib y byddai gwahanol ddarparwyr symudol yn gallu cynnig signal cryfach yn eich ardal chi, a thrwy hynny ddarparu gwell signal dan do.

Mae gwiriwr darpariaeth Ofcom sydd ar gael yn Gymraeg yn cynnig gwybodaeth am wasanaethau band eang a’r ddarpariaeth ddisgwyliedig gan ddarparwyr symudol mewn lleoliadau gwahanol. Mae hefyd yn eich galluogi i weld argaeledd band eang a chylfymderau mewn unrhyw gyfeiriad yn y DU.

Datrys y broblem

Weithiau, efallai byddwch yn gallu cael signal symudol da allan yn yr awyr agored ond nid o dan do. Yn ffodus, mae gwahanol ffyrdd o ddatrys hyn fel y gwelir isod

Mae rhai atebion yn gallu bod yn syml. Er enghraifft, os ydych chi'n cael trafferth derbyn negeseuon testun i gwblhau trafodion ar-lein, efallai y gallech dderbyn galwad ar eich ffôn cartref neu ddefnyddio ap ar eich ffôn clyfar. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan UK Finance.

Defnyddiwch ffonio drwy Wi-fi i wneud galwadau heb signal symudol digonol

Mae rhai darparwyr symudol yn cynnig galw drwy wi-fi. Mae hyn yn eich galluogi i gysylltu i'ch band eang i wneud galwadau a gwneud galwadau dros y rhwydwaith symudol. Mae modd ffonio drwy wi-fi mewn llefydd sydd yn cynnig cyswllt wi-fi cyhoeddus.

Mae ffonio drwy wi-fi yn bosibl ar gyfer llawer o ffonau clyfar ac mae'n eich galluogi i ddefnyddio'ch ffôn heb orfod llwytho unrhyw apiau ychwanegol i lawr. Efallai bydd angen i chi gysylltu gyda'ch darparwr symudol i roi'r gwasanaeth hwn ar waith.

Fel arfer, mae’r galwadau wedi’u cynnwys fel rhan o’ch lwfans munudau arferol. Bydd unrhyw alwadau y tu hwnt i’ch tariff yn cael eu bilio ar y gyfradd safonol.

Mae rhai cyfyngiadau gyda galwadau drwy wi-fi. Nid oes gan bawb ffôn neu becyn sy'n caniatáu iddynt wneud hyn, neu efallai bydd rhai yn cael trafferth cysylltu â rhwydweithiau cyhoeddus. Mae gorfod rhoi cyfrinair hefyd yn rhwystr i rai. Hefyd, gofynnwch i’ch darparwr a yw’n bosib anfon a derbyn negeseuon SMS drwy ddefnyddio signal wi-fi.

Defnyddiwch ffemtogell os oes gennych gysylltiad band eang da

Mae rhai darparwyr symudol yn cynnig dyfeisiau o'r enw ffemtogell ( femtocells) i gwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd cael signal dan do da.

Mae ffemtogell yn ddarn bach o cit sy'n cysylltu â rhwydwaith eich darparwr symudol drwy eich cysylltiad band eang. Yn aml mae angen ei blygio i soced pŵer a'i gysylltu â'ch llwybrydd band eang drwy gebl.

Gall ffemtogellau fod yn ddatrysiad os oes gennych gysylltiad band eang da ond signal dan do gwael. Gofynnwch i'ch darparwr symudol a ydyn nhw'n eu cynnig i gwsmeriaid, ond byddwch yn ymwybodol bod rhai darparwyr yn codi tâl amdanyn nhw.

Defnyddiwch droswr os oes gennych signal da tu allan 

Mae rhai darparwyr yn cynnig cyfarpar cryfhau signal symudol i gwsmeriaid sy'n cael trafferth derbyn signal cryf dan do.

Mae troswr yn chwyddo'r signal o'r tu allan i adeilad ac yn ei ddefnyddio i wella'r signal dan do. Mae fel arfer yn fwy na femtocell, ac nid oes angen cysylltiad band eang arno yn yr un ffordd ag y mae femtocell yn ei wneud.


Mae troswr yn gweithio orau pan fydd signal awyr agored da y gellir ei hybu dan do.

Mae Ofcom wedi cyflwyno rheolau sy'n caniatáu i bobl osod a defnyddio mathau penodol o droswyr eu hunain.

Cewch gyngor am droswyr ar ein gwefan.