Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Sut mae Galwadau’r Deyrnas Unedig yn effeithio ar fusnesau?


Os yw eich sefydliad yn defnyddio rhif gwasanaeth 'nad yw’n ddaearyddol' i bobl gysylltu â chi - sef un yn dechrau gyda 08, 09 neu 118 - mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r newidiadau a wnaed yn 2015 o ran sut y codir tâl am alw'r rhifau hyn.

Mae'n rhaid i'r gost i'r defnyddiwr alw rhif gwasanaeth (sy’n dechrau gyda 084, 087, 09 neu 118) fod yn ddwy ran glir yn awr:

  1. tâl mynediad. Mae hwn yn mynd i gwmni ffôn y galwr, a chodir tâl ar gyfradd o geiniogau’r funud.
  2. tâl gwasanaeth. Dyma'r gweddill; mae'n cynnwys unrhyw refeniw sy'n mynd i'r darparwr gwasanaeth (hynny yw, y chi, y sawl sy'n derbyn yr alwad), yn ogystal â refeniw sy'n mynd i 'ddarparwr yr alwad derfynol' (neu TCP: y cwmni sy'n rhoi'r rhif i chi).

Beth mae angen i chi ei wneud

Adolygwch eich holl ddeunyddiau a’ch hysbysebion. Os cysylltir â'ch busnes neu eich sefydliad ar rif sy'n dechrau gyda 084, 087, 09 neu 118, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich tâl gwasanaeth wedi ei arddangos yn eglur lle bynnag y byddwch chi’n hysbysebu neu hyrwyddo'r rhif hwnnw. Dylai'r tâl gwasanaeth fod yn amlwg ac yn agos at y rhif ei hunan. Y math o eiriad a argymhellir yw:

“Bydd galwadau'n costio xc [neu xc y funud], a ffi mynediad eich cwmni ffôn.”

Mae hyn yn debygol o olygu y dylid darparu eich tâl gwasanaeth ochr yn ochr â'r rhif cysylltiedig ym mhob gohebiaeth a gyfeirir at ddefnyddwyr presennol neu ddarpar ddefnyddwyr y gwasanaeth, lle caiff defnyddio'r rhif ei hyrwyddo neu ei hysbysebu. Mae'r gohebiaethau hyn yn debygol o gynnwys o leiaf:

  • Unrhyw hysbyseb a ddarlledir ar y teledu neu'r radio;
  • Unrhyw hysbysebu yn y wasg;
  • Unrhyw hysbysebu ar-lein gan gynnwys rhestrau chwilio y talwyd amdanyn nhw;
  • Ar gyfryngau cymdeithasol;
  • Byrddau a phosteri hysbysebu;
  • Hysbysiadau cyhoeddus, datganiadau i'r wasg a deunydd cysylltiadau cyhoeddus eraill sy'n hyrwyddo mynediad at y gwasanaeth a gynigir ar y rhifau, neu sy'n hyrwyddo cysylltu â'r sefydliad gan ddefnyddio'r rhif;
  • Arddangosfeydd pwynt gwerthu a dulliau hysbysebu sefydlog eraill;
  • Pecynnau, lapiau, labeli. tocynnau a rhestr prisiau;
  • Arddangosfeydd pwynt gwerthu a dulliau hysbysebu sefydlog eraill;
  • Pecynnau, lapiau, labeli, tocynnau, amserlenni a rhestrau prisiau;
  • Cyfeiriaduron gwasanaethau; a
  • Gwefannau cwmnïau

Cwestiynau cyffredin

Pa rifau sy'n codi tâl fel hyn?

Y rhifau lle bydd taliadau mynediad a gwasanaeth yn gymwys yw’r rhai sy'n dechrau gyda 0843, 0844, 0845, 0870, 0871, 0872, 0873, 09, ac 118.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn cynnwys yr wybodaeth hon ar bob darn o ddeunydd sy'n hyrwyddo fy rhif cyswllt? Pwy fydd yn gorfodi hyn?

Rhaid cadw at yr holl reolau. Mae gan Ofcom gyfrifoldeb cyffredinol dros reoleiddio rhifau gwasanaeth nad ydyn nhw’n rhai daearyddol.

Penodwyd yr Awdurdod Gwasanaethau Ffôn Talu (PSA) gan Ofcom i gynnal gweithrediadau o ddydd i ddydd ar gyfer gwasanaethau cyfradd premiwm, sy'n cynnwys yr ystodau rhifau 09 a 118, yn ogystal ag unrhyw rif 087 sydd â thâl gwasanaeth o 7c y funud (Neu ffi sefydlog o 7c fesul galwad) neu uwch (mae'r ffigurau i gyd yn cynnwys TAW). Ceir rhagor o wybodaeth am y PSA yn www.psauthority.org.uk

Ar wahân, mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yn gyfrifol am reoleiddio hysbysebion "y telir amdanynt", cynnwys hysbysebion teledu a radio, a honiadau a wneir gan gwmnïau ar eu gwefannau eu hunain ac ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol dan eu rheolaeth. Mae'r Awdurdod yn gorfodi rheolau gan gynnwys gwaharddiad ar hysbysebu camarweiniol, sy'n cynnwys darparu gwybodaeth ddigonol am gost galwadau. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Saesneg allanol yr awdurdod (hefyd gwefan chwaer-gorff yr Awdurdod, y Pwyllgor Arferion Hysbysebu).