Beth yw rhifau 03?


Smiling_phoneMae'n debyg eich bod wedi gweld rhifau 03 o gwmpas, ond faint mae'n ei gostio i'w defnyddio? 

Cyflwynodd Ofcom rifau ledled y DU sy'n dechrau gyda 03 fel ffurf amgen ar gyfer rhifau 08 fel 0870.

Mae'r rhifau newydd yma'n galluogi sefydliadau i gael un pwynt cyswllt heb orfodi defnyddwyr i dalu mwy i'w galw.

Rhannu refeniw

Nid yw galwadau i rifau 03 yn costio mwy na galwad cyfradd cenedlaethol i rif 01 neu 02. Yn ogystal mae'n rhaid iddyn nhw gyfrif tuag at unrhyw funudau cynhwysol yn yr un ffordd y mae galwadau 01 ac 02 yn gweithredu.

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i alwadau o unrhyw fathau o linellau yn cynnwys symudol, BT ac unrhyw linell sefydlog neu ffôn gyhoeddus.

Rhannu refeniw -lle mae'r sawl sy'n derbyn yr alwad ffôn yn gallu derbyn rhan o beth mae'r defnyddiwr yn ei dalu i wneud yr alwad. Nid oes hawl gwneud hyn ar alwadau i rifau 03.

Darllenwch ganllaw Ofcom i gostau galwadau yn Saesneg

Rhifau Ofcom

Yn Ofcom mae gennym amrywiaeth o rifau 03 y gallwch eu galw os ydych chi'n dymuno cysylltu.


Rhifau 03 Ofcom 03

Canolfan Drwyddedu Ofcom l0300 123 1000
Switsfwrdd Ofcom 0300 123 3000
Adran Gynghori Ofcom 0300 123 3333
Llinell iaith Gymraeg Ofcom 0300 123 2023
Ffôn testun Ofcom0300 123 2024