Sut mae gwirio a ydych chi mewn contract neu allan o gontract

13 Chwefror 2020

Gallwch wirio statws eich contract drwy ofyn i’ch darparwr – dros y ffôn neu wasanaeth sgwrsio byw - neu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.

Mae’n bosibl y gallwch chi ddod o hyd i ddyddiad gorffen eich contract hefyd: drwy ap eich darparwr (os ydych chi wedi’i lawrlwytho), drwy edrych ar fil neu ar ohebiaeth gyda’ch darparwr.

Gwirio statws eich contract BT

Ffoniwch BT ar 0800 800 150, neu:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif BT.
  2. Dewiswch ‘Your bills and usage’. Os yw cyfnod eich contract cychwynnol wedi gorffen neu os yw’n gorffen cyn bo hir, dylai’r dudalen hon ddweud hynny.

Gwirio statws eich contract EE

Ffoniwch EE ar 0800 956 6000, neu:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif EE.
  2. Dewiswch ‘My Plan’.
  3. Dewiswch ‘My Plan details’.

Gwirio statws eich contract O2

Ffoniwch O2 ar 0344 809 0202, neu, os ydych chi wedi prynu dyfais gyda’ch contract:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif O2.
  2. Dewiswch ‘Menu'
  3. Dewiswch 'More'
  4. Dewiswch 'Tariff and Payments'. Bydd hyn yn dangos hyd eich contract a'r dyddiad adnewyddu, hyd yn oed os ydyw wedi mynd heibio.

Neu os ydych chi wedi prynu dyfais gyda'ch contract:

  1. Dewiswch 'Ready for a new phone’. Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut i dalu am eich cynllun dyfais yn llawn, pryd gallwch chi uwchraddio os ydych chi eisiau parhau i dalu eich taliadau presennol.
  2. Dewiswch ‘Upgrade now’. Bydd y dudalen hon yn dangos gwybodaeth am eich taliadau a'ch defnydd o'ch dyfais.

Gwirio statws eich contract Plusnet

Ffoniwch Plusnet ar 0800 432 0200.

Gwirio statws eich contract Sky

Ffoniwch Sky ar 0333 7591 018, neu:

  1. Mewngofnodwch i’ch Canolfan Negeseuon Sky.
  2. Edrychwch drwy eich negeseuon am un o’r enw ‘Confirming your Sky offer’. Dylai’r neges hon ddweud wrthych chi beth yw dyddiad cychwyn a hyd eich contract.

Gwirio statws eich contract TalkTalk

Ffoniwch TalkTalk ar 0345 172 0088, neu:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif TalkTalk.
  2. Dewiswch ‘My Account’.
  3. Dewiswch ‘My Package’. Caiff dyddiad gorffen eich contract ei ddangos yn yr adran ‘Package overview’.

Gwirio statws eich contract Tesco Mobile

Ffoniwch Tesco Mobile ar 0345 301 4455, neu:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Tesco Mobile. Efallai byddant yn anfon neges atoch chi gyda PIN untro fel rhan o broses ddilysu trydydd parti.
  2. Dewiswch ‘Manage tariff and bundles’. Dylech weld eich tariff a statws eich contract, gan gynnwys ei ddyddiad cychwyn a’i hyd, ar frig y rhestr.

Gwirio statws eich contract Three

Ffoniwch Three ar 0333 338 1001, neu:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Three.
  2. Dewiswch ‘Upgrades and offers’.
  3. Dewiswch ‘Check if you can upgrade’.
  4. Fe welwch ddyddiad eich contract o dan ‘Minimum term’.

Gwirio statws eich contract Virgin Media

Ffoniwch Virgin Media ar 0345 454 1111, neu:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Virgin Media.
  2. Dewiswch ‘My Account’.
  3. Dewiswch ‘Check your contract details’. Mae eich dyddiad gorffen wedi’i nodi yma.

Gwirio statws eich contract Vodafone

Ffoniwch Vodafone ar 0333 304 0191, neu:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Vodafone.
  2. Dewiswch ‘Upgrade or Change plan’. Mae’r dudalen hon yn dangos pa fath o gynllun sydd gennych chi, faint rydych chi’n ei dalu a phryd mae eich contract yn gorffen neu wedi gorffen.
Ddim yn gwybod sut i drafod telerau contract? Darllenwch ein hawgrymiadau ynghylch beth i ofyn i'ch darparwr.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?