Tariffau cymdeithasol: Pecynnau band eang a ffôn rhatach


Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill. Mae rhai darparwyr yn eu galw'n fand eang 'essential' neu 'basic'.

Maen nhw'n cael eu darparu yn yr un ffordd â phecynnau arferol, dim ond am bris is. Gyda chostau byw ar gynnydd, mae Ofcom yn annog cwmnïau i gynnig tariffau cymdeithasol i helpu cwsmeriaid sydd ar incwm isel.

Bwrw golwg ar ein rhestr o'r tariffau sydd ar gael

Sut y gallai tariff cymdeithasol eich helpu chi

  • Mae ar gael i'r rhai sydd ar amrywiaeth o fudd-daliadau. Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallech newid i unrhyw un o'r tariffau sydd ar gael.
  • Mae'n rhatach na phecyn rheolaidd. Mae'r prisiau presennol yn amrywio o £10 i £20.
  • Band eang cyflym, diderfyn. Mae'r rhan fwyaf o dariffau yn cynnig band eang cyflym iawn ar gyflymder dros 30 Mbit yr eiliad - yn ddigon cyflym i chi gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ffrydio ffilmiau HD neu siopa ar-lein.
  • Byddwch chi'n talu bron i ddim byd mewn costau gosod. Os oes rhaid i chi dalu unrhyw gostau gosod, dylai'r rhain fod yn fach iawn. Dylai eich darparwr ddweud wrthych cyn cofrestru.
  • Fe allai gostio dim byd i newid. Os yw eich darparwr yn cynnig tariff cymdeithasol, gallwch newid iddo unrhyw bryd, yn rhad ac am ddim.
  • Ni fydd y pris yn mynd i fyny yng nghanol y contract. Fyddwch chi ddim yn talu mwy na'r hyn rydych chi'n cytuno ar ddechrau'r contract.
  • Nid yw'n costio dim i'w adael. Ni fyddwch yn talu ffi i adael y tariff cyn diwedd eich contract.

Mae rhai darparwyr yn cynnig pecynnau band eang rhatach sydd ond ar gael i gwsmeriaid ar fudd-daliadau penodol. Mae BT a KCOM hefyd yn darparu tariffau llinell dir rhatach i aelwydydd cymwys. Mae manylion y rhain yn y dolenni BT a KCOM isod.

Pwy allai fod yn gymwys

Os ydych chi, neu rywun yn eich cartref, yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallech chi newid i unrhyw un o’r tariffau sydd ar gael. Mae pob prif ddarparwr hefyd yn cynnwys pobl ar Gredyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith a Chymhorthdal Incwm a gallai rhai darparwyr gynnwys budd-daliadau ychwanegol fel y Taliad Annibyniaeth Personol a Lwfans Gweini. Bydd angen i’r sawl sy’n derbyn y budd-dal fod y prif berson ar y contract.

Sut i wneud cais

Yn gyntaf, gwiriwch a yw eich darparwr presennol yn cynnig tariff cymdeithasol. Mae ein tabl isod yn rhestru'r holl dariffau sydd ar gael nawr. Gallwch wneud cais am y rhan fwyaf o dariffau ar-lein, neu ffonio'ch darparwr a gofyn am newid.

Os nad yw eich darparwr yn cynnig tariff cymdeithasol, gallwch newid i ddarparwr sy'n darparu nhw Efallai y bydd eich darparwr yn caniatáu i chi adael eich contract presennol heb dalu ffi gosb. Darllenwch ein canllaw i newid band eang am ragor o wybodaeth.

Rhestr lawn o dariffau band eang a ffôn cymdeithasol

0 o ganlyniadau wedi'u dangos

PecynPris Cyflymder cyfartalog Ble mae ar gael*
4th Utility Social Tariff £13.99 y mis 30 Mbit yr eiliad Lloegr
BT Home Essentials £15 y mis Tua 36 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
BT Home Essentials 2 £20 y mis Tua 67 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
Community Fibre Essential £12.50 y mis 20 Mbit yr eiliad Lloegr (Llundain)
Connect Fibre Basic Essentials £20 y mis 50 Mbit yr eiliad Lloegr (Swydd Caergrawnt, Essex, Swydd Nottingham, Swydd Efrog a Swydd Derby)
Connect Fibre Essentials £25 y mis 150 Mbit yr eiliad Lloegr (Swydd Caergrawnt, Essex, Swydd Nottingham, Swydd Efrog a Swydd Derby)
Country Connect Social Tariff £15 y mis 50 Mbit yr eiliad Cymru (Casnewydd)
County Broadband Essential Broadband Tariff £15 y mis 15 Mbit yr eiliad Dwyrain Lloegr
EE Basics £12 y mis Hyd at 25 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
G.Network Essential Fibre Broadband £15 y mis 50 Mbit yr eiliad Lloegr (Llundain)
Grayshott Gigabit Connect £20 y mis 100 Mbit yr eiliad Lloegr
Hey!Broadband Everyday Fibre £16 y mis 100 Mbit yr eiliad Lloegr (De-ddwyrain Lloegr)
Hyperoptic Fair Fibre 50 £15 y mis 50 Mbit yr eiliad Cymru, Lloegr a’r Alban
Hyperoptic Fair Fibre 150 £20 y mis 150 Mbit yr eiliad Cymru, Lloegr a’r Alban
KCOM Full Fibre Flex £14.99 y mis 30 Mbit yr eiliad Lloegr (Hull)
Lightning Fibre Social Tariff £15 y mis 50 Mbit yr eiliad Lloegr (Dwyrain Sussex a Swydd Caint)
Lothian Broadband Social Tariff £19.99 y mis 100 Mbit yr eiliad Yr Alban (Lothian)
NOW Broadband Basics £20 y mis 36 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig Shell Essentials Fast Broadband
Quickline Social Tariff £16.50 y mis 100 Mbit yr eillad Lloegr (Swydd Efrog a Swydd Lincoln)
RunFibre social tariff £20 y mis 100 Mbit yr eiliad Lloegr (De Swydd Gaerloyw)
Shell Essentials Fast Broadband £15 y mis 11 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
Shell Essentials Fibre Broadband £20 y mis 38 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
Sky Broadband Basics £20 y mis 36 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
SMARTY Social Tariff £12 y mis 5G lle bo ar gael Y Deyrnas Unedig
Truespeed Basic £20 y mis 30 Mbit yr eiliad Lloegr (De Orllewin)
Virgin Media Essential Broadband £12.50 y mis 15 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
Virgin Media Essential Broadband Plus £20 y mis 54 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
Vodafone Fibre 1 Essentials £12 y mis 38 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
Vodafone Fibre 2 Essentials £20 y mis 73 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig
VOXI For Now £10 y mis 5G lle bo ar gael Y Deyrnas Unedig
Wildanet Helping Hand Social Tariff** £20 y mis 30-100 MB yr eiliad Lloegr (Cernyw a Dyfnaint)
WightFibre Essential Broadband £16.50 y mis 100 Mbit yr eiliad Lloegr (Ynys Wyth)
YouFibre social tariff £15 y mis 50 Mbit yr eiliad Y Deyrnas Unedig

* Efallai na fydd darparwyr yn gwasanaethu pob eiddo yn y rhanbarthau a restrir. Ewch i wefan y darparwr i gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth, neu defnyddiwch wiriwr darpariaeth band eang Ofcom.

**Mae tariff cymdeithasol Wildanet ar gael i ddechrau i’r rheini sy’n cael Credyd Cynhwysol; maent yn ystyried cynnwys budd-daliadau ychwanegol.

Efallai y bydd cymorth arall ar gael i gwsmeriaid sydd yn methu mynd ar-lein. Os ydych yn cael trafferth talu eich bil ffôn symudol neu fand eang, siaradwch â'ch darparwr cyn gynted â phosib i weld sut y gallent eich helpu.

Awgrymiadau i dorri eich costau

Mae llawer o bobl yn poeni am y cynnydd mewn costau byw ac yn chwilio am ffyrdd o arbed arian ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio bob dydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu.

Bwrw golwg ar ein hawgrymiadau i weld a allent eich helpu.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?