Newid darparwr band eang

Cyhoeddwyd: 4 Awst 2010
Diweddarwyd diwethaf: 12 Medi 2024

Ydych chi’n cael problemau â'ch pecyn band eang? Ddim yn cael y cyflymder a gafodd ei addo i chi, neu ydych chi wedi dod o hyd i well bargen drwy wefan cymharu prisiau?

Mae newid eich band eang yn haws nag erioed. Y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw cysylltu â’r darparwr rydych chi am newid iddo. Byddan nhw’n gallu egluro’r camau y mae angen i chi eu dilyn a byddan nhw’n trefnu’r newid ar eich rhan.

Mae rheolau Ofcom yn golygu y gallwch chi adael eich darparwr heb gael cosb os nad ydych chi’n derbyn y cyflymder band eang a gafodd ei addo i chi pan wnaethoch chi ymrwymo i’r contract.

Ni ddylech chi golli mwy nag un diwrnod gwaith o wasanaeth wrth newid darparwr, a dylai darparwyr eich digolledu os bydd pethau’n mynd o le.

Newid Un Cam

O fis Medi 2024 ymlaen, bydd proses newydd o newid ar gyfer yr holl wasanaethau band eang a llinell dir o’r enw ‘Newid Un Cam’ yn cael ei defnyddio. Bydd y broses hon yn haws, yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy i gwsmeriaid.

O dan y broses hon, does dim rhaid i chi siarad â’ch darparwr presennol. Yn lle hynny, gall eich darparwr newydd drefnu’r trosglwyddiad ar eich rhan. Yn syml, bydd angen i chi roi ychydig o fanylion iddynt gan gynnwys eich cyfeiriad ac enw eich darparwr presennol.

Bydd y manylion hyn yn cael eu cyfateb â chofnodion eich darparwr presennol, a byddant yn anfon gwybodaeth bwysig atoch chi ar unwaith i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r newid. Gall hyn gynnwys ffioedd terfynu cynnar neu effaith y newid ar unrhyw wasanaethau eraill rydych chi’n eu cael ar hyn o bryd. Os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen â’r newid, bydd y darparwr newydd yn trefnu hyn ar gyfer y dyddiad newid rydych chi’n ei ffafrio lle bo hynny’n bosibl yn dechnegol.

one-touch-switch-overview-cym

Ar ddiwrnod y newid, ar ôl cadarnhau bod eich gwasanaeth newydd yn gweithio’n iawn, bydd eich darparwr newydd yn rhoi gwybod i’ch hen ddarparwr i roi’r gorau i’ch gwasanaeth presennol ac ni ddylech chi orfod talu am unrhyw daliadau cyfnod rhybudd y tu hwnt i’r dyddiad hwn. Ni ddylai unrhyw wasanaeth gael ei golli am fwy nag un diwrnod gwaith yn ystod newid.

O dan ein rheolau newydd, bydd yn rhaid i ddarparwyr hefyd eich digolledu mewn ffordd hawdd ac amserol os bydd pethau’n mynd o chwith, er enghraifft, os na fydd gennych chi wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith, neu os byddant yn colli unrhyw apwyntiadau gwasanaeth neu osod. Rhaid i ddarparwyr dalu iawndal o’r fath o fewn 30 diwrnod i gwblhau newid hwyr, neu ddyddiad unrhyw apwyntiad a fethwyd.

Os ydych chi'n newid eich meddwl, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch darparwr newydd i ganslo’ch cais i newid.

Newid bwndel

Os ydych chi’n defnyddio bwndel o wasanaethau gan ddarparwr, er enghraifft ffôn cartref a band eang, byddwch chi’n dilyn y broses a ddisgrifir uchod fel rheol.

Ond, efallai y bydd angen i chi roi gwybod i’ch hen ddarparwr er mwyn canslo gwasanaethau eraill rydych chi hefyd yn eu newid fel rhan o fwndel - yn enwedig os yw'r newid yn golygu canslo gwasanaeth teledu. Bydd eich hen ddarparwr yn rhoi gwybodaeth i chi am eich opsiynau o ran y gwasanaethau hyn yn y wybodaeth y byddant yn ei hanfon atoch ynglŷn â’r newid.

Ffioedd terfynu cynnar a’r cyfnod newid meddwl

Os ydych chi eisiau newid darparwr cyn i gyfnod eich contract sylfaenol ddod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd terfynu’n gynnar (oni bai nad ydych chi’n cael y cyflymder a addawyd i chi).  Os ydych chi’n defnyddio proses newid un cam, bydd eich darparwr presennol yn rhoi gwybod i chi’n awtomatig am unrhyw ffioedd terfynu.

A chofiwch, mae gennych chi’r hawl i ganslo eich archeb o fewn 14 diwrnod calendr (y cyfnod ‘newid meddwl’). Fodd bynnag, os yw eich gwasanaeth eisoes wedi dechrau, efallai y codir tâl arnoch chi am gyfran o’r gwasanaeth rydych chi eisoes wedi’i ddefnyddio pan fyddwch chi’n canslo a/neu unrhyw gostau gosod.

Rheoli eich newid dros eich hun

Efallai y byddwch chi’n dewis peidio â gofyn i’ch darparwr newydd reoli’r newid ar eich rhan, er enghraifft os byddai’n well gennych chi gael cyfnod o orgyffwrdd rhwng y gosodiad newydd a chanslo eich hen wasanaeth. Yn yr achos hwn, byddai angen i chi archebu’r gwasanaeth gyda’ch darparwr newydd a chysylltu ar wahân â’ch hen ddarparwr i ganslo’ch contract presennol ar yr adeg briodol. Fodd bynnag, cofiwch na fyddai’r mesurau diogelu ar gyfer newid darparwr yn berthnasol yn yr achos hwn. Er enghraifft, ni fyddwch chi’n cael gwybodaeth am y newid gan eich hen ddarparwr i egluro goblygiadau newid. Efallai na fyddwch chi’n cael iawndal pan fydd pethau’n mynd o chwith, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu eich hen ddarparwr am gyfnodau rhybudd ar ôl y dyddiad canslo.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig