Galwadau ymosodol a bygythiol


Mae galwadau maleisus, sarhaus neu fygythiol, boed gan bobl rydych chi'n eu hadnabod neu gan ddieithriaid, yn drosedd.

Os byddwch yn derbyn galwad o'r fath dylech ffonio eich cwmni ffôn ar unwaith a gofyn am ei dîm niwsans neu alwadau maleisus.

Does dim ots a ydych chi'n gwybod pwy yw'r galwr ai peidio.

Dywedwch wrthynt beth ddywedodd y galwr. Mewn rhai achosion, yn enwedig os yw'r galwr yn bygwth, bydd eich cwmni ffôn yn eich cynghori i alw'r heddlu.

Efallai y cewch gynnig gwasanaeth 'gwrthod galwadau dienw' gan eich darparwr a allai atal y mathau hyn o alwadau yn y dyfodol (gofynnwch i'ch darparwr a oes tâl am y gwasanaeth hwn).

Er y gallai hyn atal galwadau sarhaus neu fygythiol, dylech fod yn ymwybodol y gallai gwasanaethau o'r fath hefyd rwystro rhai galwadau y gallech fod am barhau i'w derbyn, megis rhai galwadau o dramor.

Bygythiadau uniongyrchol

Os yw'r galwr yn gwneud bygythiadau uniongyrchol i chi neu i'ch teulu a'ch bod yn credu bod y bygythiadau hynny'n real ac yn fater o argyfwng, rhaid i chi ffonio 999 ar unwaith.

Os credwch nad yw'r bygythiadau yn debygol o’u gwireddu yn syth, yna dylech ffonio eich gorsaf heddlu leol (101 o unrhyw linell dir neu ffôn symudol).

Llwythwch i lawr PDF o'r canllaw hwn 

Llwythwch i lawr PDF o'n canllaw galwadau a negeseuon niwsans

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?