Galwadau a negeseuon sgam

Weithiau rydym yn derbyn galwadau ffôn, negeseuon ac e-byst gan sgamwyr. Gweithredoedd troseddol yw'r rhain, sydd fel arfer wedi'u hanelu at eich annog i roi eich arian, neu eich gwybodaeth bersonol neu ariannol, iddynt.

Mae'n gallu bod yn anodd dweud a yw neges destun, e-bost neu alwad sbam yn dod gan gwmni dilys neu gan sgamiwr. Er enghraifft, mae'n bosib iddynt honni eu bod yn ffonio o'ch banc neu gymdeithas adeiladu, neu o'ch cwmni ffôn neu fand eang.

Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys troseddwyr sy'n honni eu bod yn cynrychioli Cyllid a Thollau EM, y GIG, cwmnïau parseli, neu hyd yn oed Ofcom.

Yn yr adran hon o'r wefan rydym yn cynnwys gwybodaeth am wahanol fathau o sgamiau sy'n digwydd ar hyn o bryd, a chanllaw i roi gwybod am negeseuon neu alwadau symudol sgam i 7726.

Mae gennym hefyd arweiniad pellach ar sut i osgoi galwadau a negeseuon dieisiau.

Os byddwch yn derbyn neges destun sgam

  1. Pwyllwch! Gallai'r neges fod yn sgam. Darllenwch yn ofalus a chadwch lygad allan am fanylion sydd i'w gweld yn amheus.
  2. Peidiwch glicio unrhyw ddolenni neu roi manylion personol neu fanc.
  3. Rhowch wybod am unrhyw neges amheus i 7726 a rhowch wybod i ffrindiau a theulu hefyd.

Os byddwch yn derbyn galwad sgam

  1. Pwyllwch! Peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol neu fanc.
  2. Datgysylltwch a ffoniwch y cwmni maen nhw'n honni ei gynrychioli i wirio a yw'n sgam.
  3. Rhowch wybod am alwadau sgam i Action Fraud a rhowch wybod i'ch ffrindiau a theulu hefyd.

Sgamiau i gadw llygad allan amdanynt

Featured content

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?