Adroddiad: Cwynion am wasanaethau band eang, llinell dir, symudol a theledu-drwy-dalu

17 Ebrill 2024

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau cyfathrebu'r DU, mae Ofcom yn derbyn cwynion gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau llinell dir, band eang sefydlog, symudol talu'n fisol a theledu-drwy-dalu bob mis.

Er mwyn deall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid preswyl yn ein sectorau, rydym yn cydgrynhoi'r data hwnnw ac yn pennu nifer y cwynion a dderbynnir fesul darparwr a fesul gwasanaeth. Er mwyn cymharu perfformiad darparwyr, bob chwarter rydym yn cyhoeddi nifer y cwynion a gawsom amdanynt o gymharu â maint eu seiliau cwsmeriaid (h.y. fesul 100,000 o gwsmeriaid).

Tueddiadau cyffredinol

Yn y chwarter rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023 (Ch4 2023), cododd cwynion i Ofcom ychydig o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ch3 2023: Gorffennaf i Medi 2023). Gostyngodd cwynion am linell sefydlog, band eang sefydlog a theledu-drwy-dalu i gyd ers y chwarter blaenorol ac arhosodd cwynion am symudol talu'n fisol ar lefelau tebyg.

  • Virgin Media oedd y darparwr band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu y cwynwyd fwyaf amdano o hyd, er y bu ostyngiad yn yr holl feysydd hyn o gymharu â’r chwarter blaenorol. Roedd cwynion cwsmeriaid eto wedi'u hysgogi'n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â'u cwynion.
  • Sky unwaith eto a gynhyrchodd y lleiaf o gwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr ar gyfer band eang a llinell dir.
  • Sky a TalkTalk oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cwynwyd leiaf amdanynt y chwarter hwn, gan dderbyn y nifer lleiaf o gwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr.
  • O2 oedd y gweithredwr ffôn symudol y cwynwyd fwyaf amdano, gyda’u cwynion eto’n cael eu hysgogi’n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â chwynion cwsmeriaid. Sky Mobile, Tesco Mobile, EE a Vodafone a gynhyrchodd y lleiaf o gwynion yn y sector symudol.

Gweler isod am wybodaeth ynghylch cymaroldeb nifer y cwynion am ddarparwyr penodol. Mae ein dogfen gefndir a methodoleg (PDF, 223.7 KB) (Saesneg yn unig) yn mynd i fwy o fanylder.

Mae'r siart isod yn dangos maint cymharol y cwynion rydym wedi'u derbyn ar gyfer gwasanaethau band eang, llinell dir, symudol talu'n fisol a theledu-drwy-dalu. Gallwch ddefnyddio'r llithrydd i hidlo fesul blwyddyn.

Maint cymharol y cwynion fesul gwasanaeth i bob 100,000 o gwsmeriaid

Wrth gymharu o flwyddyn i flwyddyn, mae’r maint cymharol o gwynion am fand eang sefydlog, llinell dir sefydlog, symudol talu'n fisol a theledu-trwy-dalu i gyd wedi cynyddu (Saesneg yn unig).

Tablau cynghrair a chwynion allweddol

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu

Cymaroldeb cwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr

Pan fydd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag 1, rydym yn ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy. O fewn y sectorau canlynol, credwn fod modd cymharu'r darparwyr a restrir:

Band eang sefydlog:

  1. Plusnet ac EE;
  2. TalkTalk a Vodafone;
  3. Vodafone a Shell Energy

Llinell dir:

  1. Plusnet, Cyfartaledd y Diwydiant a BT.

Symudol talu'n fisol:

  1. Sky Mobile, Tesco Mobile, EE a Vodafone;
  2. Vodafone, BT Mobile ac iD Mobile;
  3. BT Mobile, iD Mobile, Cyfartaledd y Diwydiant a Three.

Teledu-drwy-dalu:

  1. Sky a TalkTalk.

Cwynion cyffredinol fesul sector

Mae'r siart isod yn dangos cwynion ar gyfer pob darparwr ym mhob un o'r pedwar sector.

Cymharu gwahanol ddarparwyr

I gymharu perfformiad dau neu fwy o ddarparwyr, dewiswch y gwasanaeth ac yna'r darparwyr rydych am eu cymharu o'r rhestrau ar y dde (Saesneg yn unig).

Cwynion fesul darparwr

Gallwch gymharu cwynion ar gyfer darparwr ar draws sectorau lluosog gan ddefnyddio'r opsiynau ar y dde (Saesneg yn unig).

Mwy o wybodaeth

Mae'r data sylfaenol ar gael mewn fformat CSV (CSV, 13.4 KB) (Saesneg yn unig). Rydym hefyd yn cynnwys data tueddiadau cyffredinol ar gyfer cwynion symudol talu-wrth-ddefnyddio.

Gallwch hefyd ddarllen cefndir a methodoleg yr adroddiad (PDF, 223.7 KB) (Saesneg yn unig).

Adroddiadau blaenorol

Noder bod y rhain ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae adroddiadau hŷn ar gael yn yr Archifau Cenedlaethol.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?