Sut mae Ofcom yn helpu i wella darpariaeth symudol

09 Chwefror 2022

Mae gwella darpariaeth symudol yn flaenoriaeth i Ofcom.

Rydym yn arwain neu'n cefnogi wrth gyflwyno nifer o fentrau i wella darpariaeth symudol ar draws y DU.

Ymestyn darpariaeth symudol mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd

Cytunwyd ar brosiect y Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN) rhwng Llywodraeth y DU a'r gweithredwyr symudol ym mis Mawrth 2020, fel ffordd allweddol o wella darpariaeth symudol i gefnogi uchelgais Llywodraeth y DU o sicrhau darpariaeth o 95% o fàs tir y DU erbyn 2025.

O dan y cytundeb, mae pob gweithredwr wedi ymrwymo i gyrraedd 88% o fàs tir y DU erbyn 2024, a 90% o'r màs tir o fewn chwe blynedd o 2020 (yn destun amodau penodol), gyda disgwyliad y bydd hyn yn gweld yr ôl troed 'o leiaf un gweithredwr' yn cyrraedd 95% o fàs tir y DU erbyn 2025.

Mae Ofcom yn gyfrifol am asesu darpariaeth gweithredwyr yn erbyn y targedau 88% a 90% hyn (gan gynnwys targedau penodol ar gyfer pob gwlad o'r DU), yr ydym wedi'u hychwanegu at drwyddedau sbectrwm y gweithredwyr i'w gwneud yn rhwymol. Byddwn hefyd yn adrodd ar gynnydd yn ystod y cyfnod hwn yn ein hadroddiadau Cysylltu'r Gwledydd.

Gwella darpariaeth dan do

Mae gweithredwyr yn ymchwilio i amrywiaeth o ddatrysiadau i wasanaethu defnyddwyr mewn ardaloedd lle mae’r ddarpariaeth yn wan (ac yn benodol i wella darpariaeth dan do), megis technoleg sy'n caniatáu i alwadau gael eu gwneud dros fand eang a ffonio dros Wi-Fi (y gallu i anfon a derbyn galwadau a negeseuon testun/SMS dros rwydwaith Wi-Fi). Mae rhai gweithredwyr hefyd yn parhau i gynnig datrysiadau sy'n seiliedig ar ddefnyddio femtogelloedd i gyflenwi darpariaeth dan do.

Rydym wedi ehangu amrediad y troswyr symudol sefydlog dan do y gall pobl eu prynu a'u gosod eu hunain, heb orfod cael trwydded. Mae'r dyfeisiau hyn yn chwyddo'r signalau rhwng gorsaf drawsyrru'r gweithredwr symudol a ffôn symudol sy'n cael ei ddefnyddio dan do. Mae ein rheolau newydd yn caniatáu i droswyr 'penodol i ddarparwyr' ac 'aml-weithredwr' chwyddo signalau mwy nag un gweithredwr symudol ar y tro.

Rydym wedi cyhoeddi rhai awgrymiadau ar gyfer gwella eich darpariaeth dan do.

Gwella ansawdd y gwasanaeth drwy well gwybodaeth i ddefnyddwyr

Rydym eisiau helpu defnyddwyr i wneud y dewisiadau cywir drwy roi gwybodaeth ddibynadwy o ansawdd uchel iddynt am ddarpariaeth symudol sydd ar gael gan wahanol weithredwyr.

Rydym eisoes yn darparu mapiau darpariaeth yn seiliedig ar bob un o ragfynegiadau'r gweithredwyr symudol, gan eich galluogi i gymharu rhagfynegiadau darpariaeth ar draws y pedwar gweithredwr. Rydym yn parhau i weithio gyda'r gweithredwyr symudol i wella cywirdeb a chysondeb yr wybodaeth am ddarpariaeth 4G a 5G y mae Ofcom a'r diwydiant yn ei darparu. Rydym hefyd yn ymchwilio i sut y gall gwahanol ffynonellau data'r byd go iawn roi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr am y perfformiad symudol y gallant ddisgwyl ei gael.

Rydym wedi cyhoeddi rhywfaint o gyngor ar gyfer gwneud y mwyaf o'ch signal symudol.

Darpariaeth ar ffyrdd a rheilffyrdd

Rydym yn cyhoeddi data mesur cryfder signalau 4G a 5G rydym wedi'i gywain wrth yrru ar hyd ffyrdd y DU. Ein nod yw cefnogi gwaith ehangach y rhai sy'n llunio polisi i nodi datrysiadau posib ac ardaloedd i'w targedu gyda gwelliannau.

Ar wahân i hynny, rydym wedi rhoi cymorth technegol i'r Adran Drafnidiaeth a Network Rail i gefnogi eu gwaith o wella gwasanaethau symudol ar y rheilffyrdd.