Dyfodol gwasanaethau teleffon sefydlog

22 Chwefror 2019

Bydd rhwydweithiau telegyfathrebu'r DU yn mynd drwy newid sylweddol yn y blynyddoedd nesaf, wrth i'r cwmnïau sy'n eu rhedeg fynd ati i uwchraddio eu technoleg.  Mae rhai cwmnïau ffôn eisoes yn mynd ati’n raddol i symud eu cwsmeriaid llinell sefydlog o rwydwaith ffôn traddodiadol y wlad, sef y PSTN (rhwydwaith ffôn cyfnewidfa gyhoeddus), i dechnoleg ddigidol fwy newydd o'r enw ‘protocol Llais dros y Rhyngrwyd’ (VoIP), sy’n trosglwyddo galwadau dros gysylltiad band eang.

Bydd y newid yn cynnig manteision posibl i ddefnyddwyr, megis galwadau ffôn mwy clir, a bydd yn gymorth i sicrhau bod y gwasanaethau ffôn llinell sefydlog yn y DU yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y newid yn un syml i'r rhan fwyaf o gwsmeriaid ond mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai i’w helpu i uwchraddio eu gwasanaethau.

Mae rheolau Ofcom yn golygu bod yn rhaid i ddefnyddwyr ffôn gael eu diogelu boed pa bynnag ffordd maen nhw’n cael eu llinell dir. Yn y ddogfen hon, rydym wedi esbonio pa newidiadau sy’n digwydd, beth yw rolau a chyfrifoldebau sefydliadau gwahanol, a beth rydym ei ddisgwyl gan ddarparwyr telegyfathrebiadau wrth iddynt wneud y newidiadau hyn.

Mae’r mudo hefyd yn gyfle i ni feddwl am y ffordd rydym yn rheoleiddio gwasanaethau ffôn i fodloni disgwyliadau ac i ddiwallu anghenion cwsmeriaid wrth i’r disgwyliadau a’r newidiadau hynny newid. Rydyn ni’n esbonio yn y ddogfen hyd a lled ein gwaith cysylltiedig a sut byddwn ni’n cydweithio gyda sefydliadau eraill.

Datganiad (trosolwg)

Dyfodol gwasanaethau teleffon sefydlog
(PDF, 468.3 KB)