Cyngor i ddefnyddwyr
Cwynion
Er ein rol ni yw rheoleiddio'r diwydiant post, nid oes modd i ni archwilio cwynion unigol am weithredwyr post.
Mae'n rhaid bod gan bob gweithredwr post broses cwynion. Gwelwch isod am ragor o wybodaeth.
Y Post Brenhinol
Os oes gennych gwynion am y Post Brenhinol, cysylltwch â'r cwmni'n uniongyrchol:
Gallwch gysylltu â'r Post Brenhinol fel a ganlyn:
Llinell Gymorth Gwasanaethau Cwsmeriaid: 03457 740 740 (ffôn testun 0846000606)
Cyfeiriad ar gyfer cwynion:
Royal Mail Customer Services
FREEPOST PO Box 740
Plymouth
PL9 7YB
Gwasanaeth Cwsmeriaid y Post Brenhinol
Gallwch ddod o hyd i broses cwynion y Post Brenhinol ar wefan y Post Brenhinol
Os nad oes modd datrys eich cwyn, caiff y gweithredwr post gyhoeddi hysbysiad 'sefyllfa ddiddatrys'. Bydd hyn yn golygu y cewch ofyn i gynllun unioni annibynnol y post (POSTRS) ymchwilio i'ch achos. POSTRS yw'r corff ar gyfer datrys anghydfod amgen (ADR) ar gyfer materion post. Cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalen am ddatrys anghydfod amgen.
Dim ond cwynion ynghylch gwasanaethau post penodol y Post Brenhinol gall y cynllun hwn archwilio.
Os nad yw eich cwyn yn gallu cael ei ystyried fel cynllun ADR, ac rydych yn parhau'n anhapus gydag ymateb y Post Brenhinol, dylech chi gael cyngor cyfreithiol annibynnol.
I gael cyngor neu ganllawiau annibynnol, gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion defnyddwyr. Gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth dros y ffôn ar 03454 04 05 06 neu drwy ei wefan. Gall defnyddwyr yng Ngogledd yr Iwerddon gysylltu gyda'r Cyngor Defnyddwyr am gyngor di-duedd sy'n rhad ac am ddim. Ffoniwch 0800 1216022 neu ewch i wefan y Cyngor Defnyddwyr.
Gweithredwyr post eraill
Os yw eich cwynion ynghylch gweithredwyr ac eithrio'r Post Brenhinol, cysylltwch â'r rheolwr sy'n gyfrifol am gwynion o fewn y cwmni.
Os ydych yn parhau'n anhapus gyda'r ymateb wrth y gweithredwyr a rheoleiddiwyd i'ch cwyn, dylech chwilio am gyngor cyfreithiol annibynnol.
I gael cyngor neu ganllawiau annibynnol, gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion defnyddwyr. Gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth dros y ffôn ar 0808 223 1133 neu drwy ei wefan.
Swyddfa'r Post Cyf
Nid ydyn ni'n rheoleiddio'r Swyddfa'r Post Cyf. Os oes gennych gwyn am y Swyddfa'r Post Cyf, bydd angen i chi ffonio'r rheolwr sy'n gyfrifol am gwynion o fewn y cwmni.
Gwasanaethau Cwsmeriaid Swyddfa'r Post - 08457 22 33 44.
I gael cyngor neu ganllawiau annibynnol, gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion defnyddwyr. Gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth dros y ffôn ar 0808 223 1133 neu drwy ei wefan.
Problemau
Bydd angen ichi gysylltu ag adran Gwasanaethau Cwsmeriaid y Post Brenhinol, naill ai drwy ffonio, ysgrifennu neu ar wefan y Post Brenhinol.
Mae trefniadau iawndaliadau manwerthu'r Post Brenhinol yn rhoi'r hawl i gwsmeriaid gael rhywfaint o iawndal am bost manwerthu (e.e. post sydd wedi'i stampio neu'n defnyddio mesurydd, gan gynnwys Cludiant Arbennig, Gwarantedig a Llofnodedig) sy'n mynd ar goll, wedi'i ddifrodi neu'n cyrraedd yn hwyr, fel a ganlyn:
- Ar gyfer eitemau sy'n cael eu postio drwy’r Post Brenhinol ond sydd heb ddim gwerth cynhenid neu os na fydd hawlydd yn gallu darparu prawf o bostio, telir iawndal am golled, difrod ac oedi gwerth chwe stamp llythyr safonol Dosbarth Cyntaf fan leiaf.
- Ar gyfer eitemau sy'n cael eu postio drwy’r Post Brenhinol gan ddefnyddio gwasanaethau safonol Dosbarth Cyntaf neu Ail Ddosbarth, sydd wedi mynd ar goll neu wedi'u difrodi, ac sydd â gwerth cynhenid, ynghyd â phrawf o bostio a phrawf o'u gwerth (megis anfoneb neu dderbynneb), bydd gan gwsmeriaid yr hawl i ad-daliad am y postio a iawndal am y golled wirioneddol hyd at werth yr eitem, neu £20, pa un bynnag yw'r isaf.
- Ar gyfer eitemau sy'n cael eu postio drwy’r Post Brenhinol gan ddefnyddio gwasanaethau Llofnodedig, sydd wedi mynd ar goll neu wedi'u difrodi, ac sydd â gwerth cynhenid, ynghyd â phrawf o bostio a phrawf o'u gwerth (megis anfoneb neu dderbynneb), bydd gan gwsmeriaid yr hawl i ad-daliad am y postio a iawndal am y golled wirioneddol hyd at werth yr eitem, neu £50 pa un bynnag yw'r isaf.
- Ar gyfer eitemau sy'n cael eu postio drwy’r Post Brenhinol gan ddefnyddio gwasanaethau Cludiant Arbennig, sydd wedi mynd ar goll neu wedi'u difrodi, ac sydd â gwerth cynhenid, ynghyd a phrawf o bostio a phrawf o'u gwerth (megis anfoneb neu dderbynneb), bydd gan gwsmeriaid yr hawl i ad-daliad am y postio a iawndal am y golled wirioneddol hyd at werth yr eitem, neu'r gwerth sy'n gysylltiedig â'r cynnyrch Cludiant Arbennig a brynwyd, pa un bynnag yw'r isaf.
- Bydd iawndal am bost manwerthu sy'n hwyr yn daladwy 3 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y dylai fod wedi cyrraedd.
- Taliadau o £5 a £10 am oedi ac oedi sylweddol ar gyfer Cludiant Arbennig (heb ei bostio ar gyfrif).
- Bydd post manwerthu sy'n cael ei ailgyfeirio'n gymwys am iawndal ar gyfer oedi.
- Caiff defnyddwyr gwasanaeth Erthyglau i'r Deillion hawlio iawndal am golled, difrod ac oedi.
Ni thybir bod post wedi mynd ar goll nes bod 15 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ar ôl y dyddiad postio.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan y Post Brenhinol.
Gallwch gyflwyno hawliad am iawndal drwy gysylltu â gwasanaethau cwsmeriaid y Post Brenhinol:
Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y Post Brenhinol
FREEPOST
PO Box 740
Glasgow
G22 6WW
Canolfan Alwadau'r Post Brenhinol: 03457 740 740
Y Post Brenhinol sy'n pennu ei amserau casglu a danfon ei hun. Nid yw Ofcom yn rheoleiddio amserau casglu a danfon.
Serch hynny, bydd gofyn i'r Post Brenhinol roi gwybod i Ofcom am unrhyw newidiadau i'w amserau danfon diweddaraf a chyhoeddi'r newidiadau ar ei wefan.
Nod y Post Brenhinol yw sicrhau bod y post i gyd yn cyrraedd erbyn 3pm mewn ardaloedd trefol ac erbyn 4pm mewn ardaloedd gwledig.
Mae'r amserlen yn cael ei threfnu er mwyn i'r post gyrraedd erbyn yr amserau hyn a bydd y Post Brenhinol yn ymdrechu i gadw at hyn bob diwrnod gwaith, ond bydd amrywiadau dyddiol yn swmp y post, tarfu ar drefniadau cludiant a phroblemau gweithredol yn golygu y gall fod adegau pan na lwyddir i gadw at yr amserau hyn.
Os bydd eich post yn aml yn cyrraedd yn hwyrach na'r amserau penodedig, dylech gwyno wrth y Post Brenhinol:
Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y Post Brenhinol
FREEPOST
PO Box 740
Glasgow
G22 6WW
Canolfan Alwadau'r Post Brenhinol: 03457 740 740
Ebost: contactus@royalmail.com
Os bydd angen ichi gael post ar amser penodol yn ystod y dydd, bydd y Post Brenhinol yn cynnig rhywfaint o wasanaethau ychwanegol, Ceir manylion y rhain ar wefan allanol y Post Brenhinol
Mae cynlluniau ar gael i'ch helpu i sicrhau bod llai o bost niwsans yn eich cyrraedd, sef:
Post wedi'i gyfeirio atoch:
Os bydd y post wedi’i gyfeirio, bydd angen ichi gysylltu â’r Gwasanaeth Atal Post i ddileu’ch cyfeiriad oddi ar restrau postio:
* Cyfeiriad: Mailing Preference Service, DMA House, 70 Margaret Street, London, W1W 8SS.
* Ffôn: 020 7291 3310
* Ebost: mps@dma.org.uk
Cofiwch y gall fod angen hyd at bedwar mis i'ch cyfeiriad gael ei ddileu oddi ar rai rhestrau postio.
Post/Taflenni heb eu cyfeirio:
Os ydych am rwystro post neu daflenni sydd heb eu cyfeirio atoch rhag cyrraedd eich cartref drwy wasanaeth y Post Brenhinol, bydd angen ichi anfon eich enw a'ch cyfeiriad at:
Freepost RSTR-YCYS-TGLJ
Royal Mail Door-to-door opt-outs
Kingsmead House
Oxpens Road
OXFORD
OX1 1AA
Neu ebostiwch eich enw a'ch cyfeiriad i: optout@royalmail.com
Bydd y Post Brenhinol wedyn yn anfon ffurflen eithrio i'ch cyfeiriad a rhaid ichi lofnodi a dychwelyd hon i gadarnhau bod y bobl sy'n preswylio yn y cyfeiriad wedi gofyn am gael eu heithrio. Ar ôl ichi ddychwelyd y ffurflen hon, dylai'r Post Brenhinol atal danfon eitemau sydd heb eu cyfeirio atoch o fewn 6 wythnos.
Bydd y trefniant eithrio'n para am ddwy flynedd ar ôl i'r Post Brenhinol gael eich ffurflen eithrio. Os byddwch yn dymuno parhau i gael eich eithrio ar ôl y ddwy flynedd, gallwch wneud hynny drwy lenwi ffurflen eithrio newydd sydd ar gael drwy gysylltu â'r Post Brenhinol drwy anfon e-bost i optout@royalmail.com neu ffonio 01865 796964 neu gysylltu â'r cyfeiriad uchod.
Fel rhan o'i ddyletswydd gwasanaeth cyffredinol, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol ddosbarthu'r post i bob cyfeiriad yn y DU, bob dydd gwaith.
Fodd bynnag, ar gyfer rhai cyfeiriadau, nid yw hi'n bosibl i'r Post Brenhinol i ddod â'r post i'r drws. Mewn achosion fel hyn, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol roi rheswm da dros wneud "eithriad" i'w ddyletswydd gwasanaeth cyffredinol.
Os ydych chi wedi cael eich eithrio fel hyn ac yn anhapus gyda'r penderfyniad neu gyda'r trefniadau trosglwyddo'r post amgen a wnaed gan y Post Brenhinol, bydd angen i chi yn y le cyntaf i apelio yn ffurfiol yn erbyn y penderfyniad hwn drwy'r Rheolwr Sector Swyddfa Trosglwyddo'r Post Brenhinol.
Bydd yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyflwyno'r apel hwn at y Post Brenhinol o fewn 3 mis o'r penderfyniad i stopio eich gwasanaeth.
Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich apel, gallwch apelio unwaith yn rhagor a gofyn i'ch achos gael ei drosglwyddo i'r Rheolwr Maes Cyffredinol. Os ydych yn anhapus â chanlyniad yr ail benderfyniad, bydd angen i chi apelio eto o fewn un mis o'r penderfyniad diweddaraf ac wedyn bydd eich achos yn cael ei drosglwyddo i Ofcom i'w archwilio'n annibynnol.
Cewch ragor o wbyodaeth am sut i apelio ar wefan allanol y Post Brenhinol.
Dosbarthiadau a chostau
Cludiant Arbennig Gwarantedig yw cynnyrch brys yswiriedig y Post Brenhinol ac fe warentir y bydd yn cyrraedd naill ai erbyn 9am neu erbyn 1pm y diwrnod wedyn.
Mae'n cynnwys system olrhain arlein a phrawf electronig i’r post gyrraedd ynghyd â iawndal hyd at £500 neu werth yr eitem, pa un bynnag yw'r isaf. Os ydych am i rywbeth gyrraedd erbyn y diwrnod wedyn (gydag ambell eithriad daearyddol) dyma'r gwasanaeth i'w ddefnyddio.
Mae'r gwasanaeth 'Llofnodedig' yn darparu prawf o bostio, llofnod pan fydd yn cyrraedd y cyfeiriad (nid llofnod y sawl y'i cyfeiriwyd ato o reidrwydd) a chadarnhad arlein bod eich eitem wedi cyrraedd. Mae'n cynnwys uchafswm iawndal o £50. Os ydych chi am gael tawelwch meddwl o wybod bod eich eitem wedi cyrraedd y cyfeiriad, (ond nid y sawl y'i cyfeiriwyd ato), dyma'r gwasanaeth i'w ddefnyddio, ond cofiwch nad yw'r gwasanaeth hwn yn cynnwys amser cyrraedd gwarantedig. Ni ddylech ei ddefnyddio ar gyfer eitemau gwerthfawr.
Mae gwasanaeth Ailgyfeirio'r Post Brenhinol yn caniatáu i gwsmeriaid ailgyfeirio post o'u hen gyfeiriad preifat i gyfeiriad newydd. Mae gwasanaeth ailgyfeirio ar gael hefyd os byddwch yn symud i eiddo busnes arall.
Caiff cwsmeriaid wneud cais am ailgyfeirio yn eu swyddfa bost leol neu drwy gysylltu â Chanolfan Ailgyfeirio'r Post Brenhinol ar 03457 777 888. Neu ewch i www.royalmail.com/redirection
Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael i bob cwsmer ac nid yw'n cynnwys rhai mathau o bost ychwaith. Er enghraifft
- Post i bobl sydd heb eu cynnwys yn y cais.
- Cynhyrchion Parcelforce Worldwide.
- Post sydd wedi'i gyfeirio i dai llety, gwestai, colegau neu eiddo o fathau eraill lle mae llawer o breswylwyr yn byw.
- Post i bobl nad oeddent yn byw yn y cyfeiriad blaenorol. Mae ailgyfeirio heb awdurdod priodol yn drosedd.
- Post personol o gyfeiriad busnes i gyfeiriad preifat.
- Post o un Blwch Post i un arall yn yr un swyddfa ddanfon.
- Post o gyfeiriad tramor i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig
- Post o gyfeiriad un o Swyddfeydd Post y Lluoedd Arfog Prydeinig.
- Eitemau Cludiant Arbennig a Chofnodedig i gyfeiriad ailgyfeirio dramor. Byddwn yn dychwelyd yr eitemau hyn at yr anfonwr
- Post nawdd cymdeithasol a budd-daliadau. Dychwelir yr eitemau hyn at yr anfonwr fel rhan o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol (Twyll) 1997.
Os byddwch yn archebu nwyddau gwerth £15 neu ragor o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac nad ydych wedi talu'r TAW Fewnforio ymlaen llaw, bydd yn rhaid ichi dalu TAW Fewnforio ar y nwyddau hyn pan fyddant yn cyrraedd y Deyrnas Unedig.
Os bydd y nwyddau'n werth mwy na £105, bydd treth dollau hefyd yn daladwy.
Serch hynny, bydd pa weithredwr post bynnag yn y Deyrnas Unedig sy'n danfon eich nwyddau'n talu'r dreth dollau ac wedyn yn codi'r doll a thâl trin arnoch cyn ichi allu hawlio'ch nwyddau ganddynt.
Er enghraifft, bydd y Post Brenhinol yn codi £8 o dâl trin ar ben y doll sy'n ddyledus. Mae rhagor o wybodaeth am dollau ar eitemau a archebir o dramor ar wefan y Post Brenhinol.
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth Keepsafe, sef, lle bydd y Post Brenhinol yn cadw post cwsmeriaid am hyd at 2 fis yn ei swyddfa ddanfon leol, tra bydd cwsmeriaid oddi cartref neu pan na fyddant i ffwrdd o’u heiddo busnes.
Bydd y Post Brenhinol yn ei ddanfon pan fydd cyfnod y Keepsafe yn dod i ben. Mae rhagor o fanylion i'w gweld ar wefan y Post Brenhinol
Bydd rhai eitemau'n dal i gael eu danfon, er enghraifft:
- Ni wnaiff y Post Brenhinol gadw post i bobl nad ydynt wedi’u rhestru ar y ffurflen Keepsafe oni fydd y cwsmer wedi nodi bod angen gwneud hynny.
- Byddant yn cadw eitemau danfon cofnodedig am wythnos yn unig ac eitemau danfon arbennig am 3 wythnos; ar ôl hyn, bydd yr eitemau post hyn yn cael eu dychwelyd at yr anfonwr. Bydd cwsmeriaid yn cael eu hysbysu am yr eitemau hyn drwy roi cerdyn 'Pan oeddech chi allan' drwy eu blwch llythyrau
- Ni wnaiff y Post Brenhinol gadw eitemau sy'n pydru. Bydd eitemau o'r fath yn cael eu dychwelyd at yr anfonwr.
- Os bydd cwsmeriaid am ganslo'u Keepsafe yn gynnar, rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig; ni thelir ad-daliad os bydd y gwasanaeth yn cael ei ganslo'n gynnar. Ni all cwsmeriaid godi eu post o'r Swyddfa Danfon.
Llythyr yw eitem sydd:
*Hyd at 240mm o hyd
* Hyd at 165mm o led
* Hyd at 5mm o drwch
Llythyr 'mawr' yw eitem sydd:
*Hyd at 353 mm o hyd
* Hyd at 250 mm o led
* Hyd at 25mm o drwch
Os oes gennych lythyr mawr, rhaid ichi ddefnyddio stamp 'mawr'. Os nad ydych chi'n siŵr ai llythyr mawr yw eich llythyr, bydd eich swyddfa post yn gallu helpu.
Gwasanaeth sy'n gadael ichi gasglu eich post o swyddfa danfon leol y Post Brenhinol yw gwasanaeth y Blwch Post, yn hytrach na'i ddanfon at eich drws.
Mae rhagor o fanylion i'w gweld ar wefan y Post Brenhinol
Yn y gorffennol, mae'r Post Brenhinol wedi rhoi cynnig ar wahanol ddulliau o sicrhau'r tâl cywir ar lythyrau sydd wedi'u stampio'n anghywir, megis danfon gyda nodyn atgoffa wedi'i ffrancio, neu amgáu cerdyn i'r anfonwr ei ddychwelyd gyda rhagor o stampiau i wneud iawn am y gwahaniaeth.
Os bydd y cyfeiriad i'w weld ar eitem o bost sydd heb stamp digonol, polisi'r Post Brenhinol yw hysbysu'r derbynnydd bod eitem o bost ar gael i'w chasglu.
Bydd hyn yn rhoi'r dewis i'r cwsmer gasglu'r eitem o’r post a thalu'r gordal o £1, neu wrthod ei chasglu sy'n golygu y gellir dychwelyd yr eitem at yr anfonwr.
Mae'r Post Brenhinol yn dweud bod y tâl trin yn angenrheidiol i dalu am gost asesu'r eitem ar gyfer tâl postio cywir a'i chyfeirio oddi wrth lif arferol y post, er mwyn gallu gofyn am y tâl ychwanegol gan y derbynnydd. Nid yw'n golygu bod y Post Brenhinol yn gwneud elw ychwanegol.
Swyddfeydd post a blychau post
- Gallwch ddefnyddio rhestr Canfod Cangen arlein Swyddfa'r Post drwy roi eich cod post i ddod o hyd i'ch swyddfa bost agosaf.
- Gallwch hefyd ddefnyddio'r rhestr hon i ddod o hyd i'r swyddfa bost agosaf sy'n cynnig gwasanaethau penodol, megis prosesu trwyddedau gyrru neu Wasanaethau Parcelforce Express.
- Neu, gallwch ffonio llinell ymholiadau cyffredinol Swyddfa'r Post ar 0845 722 3344
Dylech gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid y Post Brenhinol ar 03457 740 740, gan nodi rhif y blwch post sydd i'w weld ar ochr chwith gwaelod y plât casglu (er enghraifft GU27 66).
Os gwelwch fod plât casglu ar goll ar flwch post, gwnewch nodyn o leoliad y blwch post hwnnw a rhowch wybod i'r Post Brenhinol fod y plât ar goll.
.