Rhoi hwb i ddiogelwch defnyddwyr ar-lein: Microdiwtorialau

07 Gorffennaf 2023

Mae hwn yn bapur trafod gan dîm Mewnwelediad Ymddygiadol Ofcom sy'n canolbwyntio ar yr hyn a ddysgom o hap-dreial gyda rheolydd ar-lein yn profi effaith microdiwtorialau ar ymddygiad defnyddwyr wrth roi gwybod am gynnwys.

Cynhaliodd y tîm dreial i archwilio effaith "rhoi hwb" ar ymddygiad defnyddwyr. Fe wnaethant hyn trwy ddylunio a phrofi tri math o "Microdiwtorial" ar lwyfan rhannu fideos ffug gyda chyfranogwyr ymchwil. Roedd y microdiwtorialau hyn yn cynnwys un goddefol, statig gyda delweddau wedi'u hanodi, fideo â throslais fu'n cerdded defnyddwyr trwy'r llwyfan, a chanllaw rhyngweithiol lle bu'n rhaid i ddefnyddwyr gyflawni tasgau sy'n gysylltiedig â phob nodwedd.

Cynyddodd yr holl ficrodiwtorialau roi gwybod am gynnwys a allai fod yn niweidiol. Heb unrhyw ficrodiwtorial, roedd y gyfradd rhoi gwybod yn 4%. Cynyddodd y microdiwtorial statig y gyfradd rhoi gwybod i 9%. Cynyddodd y microdiwtorial fideo y gyfradd rhoi gwybod i 16% ac roedd gan y microdiwtorial rhyngweithiol yr effaith fwyaf gan gynyddu rhoi gwybod i 23%. Pan ofynnwyd yn benodol i ddefnyddwyr roi gwybod am fideo a allai fod yn niweidiol, roedd pawb a aeth trwy ficrodiwtorial yn fwy tebygol o roi gwybod, yn bennaf oll o'r microtiwtorial rhyngweithiol. Bu hefyd iddynt gynyddu ymgysylltiad cyffredinol â nodweddion y llwyfan. Yn bwysig hefyd, ni fu i effeithiau'r tiwtorial gynyddu rhoi gwybod am gynnwys niwtral, dim ond yr hyn a allai fod yn niweidiol.

Darllen yr adroddiad

Mae'r adroddiad hwn yn Saesneg

Boosting user safety online: microtutorials (PDF, 614.0 KB)

Technical Annex (PDF, 1.5 MB)