Plwraliaeth y cyfryngau a newyddion ar-lein

Cyhoeddwyd: 16 Tachwedd 2022
Diweddarwyd diwethaf: 27 Medi 2023

Mae bron i ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i fframwaith plwraliaeth y cyfryngau'r DU gael ei ddiweddaru ddiwethaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r ffordd yr ydym yn cael gafael ar newyddion wedi newid yn ddramatig. Ond gall graddfa fawr yr opsiynau sydd bellach ar gael fod mor llethol ag y maent yn addysgiadol, gyda chynnwys dibynadwy yn ymladd am ofod a sylw ochr yn ochr â deunydd mwy cyffrogarol ac annibynadwy.

Wrth i gyfryngwyr chwarae rôl porthmyn yn gynyddol, gan guradu neu argymell cynnwys newyddion i gynulleidfaoedd ar-lein, nid yw'n glir bod pobl yn ymwybodol o'r dewisiadau sy'n cael eu gwneud ar eu rhan, na'u heffaith.

Er mwyn deall goblygiadau'r newidiadau hyn yn well, y llynedd fe ddechreuon ni raglen waith ar ddyfodol plwraliaeth y cyfryngau. Yn benodol, aethon ni ati i archwilio effeithiau posib y twf mewn newyddion ar-lein, a rôl cyfryngwyr ar-lein yn benodol, ar blwraliaeth y cyfryngau, a pha newidiadau rheoleiddio, os o gwbl, y gallai fod eu hangen i'w chynnal a'i sicrhau.

Mae'r ddogfen drafod hon yn nodi ein dealltwriaeth o sut mae cyfryngwyr ar-lein yn gweithredu o fewn ecosystem newyddion y DU ar hyn o bryd. Rydyn ni'n esbonio'r rôl maen nhw'n ei chwarae yn y gadwyn gwerth newyddion; yn archwilio'r risgiau posib y gallent eu hachosi a thrafod rhai opsiynau posib ar gyfer diwygio'r fframwaith rheoleiddio i helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plwraliaeth y cyfryngau yn y DU.

Dros y misoedd i ddod, gan adeiladu ar y cwestiynau rydyn ni'n eu gofyn drwy'r ddogfen hon, byddwn ni'n ymgysylltu â diwydiant a phartïon â diddordeb. Wedyn, rydym yn bwriadu datblygu argymhellion ffurfiol i'w hystyried gan Lywodraeth y DU.

Discussion document: Media plurality and online news (PDF, 6.4 MB)

Dogfen drafod: Plwraliaeth y cyfryngau a newyddion ar-lein (PDF, 4.3 MB)

Mae ein hadolygiad wedi cael ei gyfeirio gan amrywiaeth o dystiolaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn yr atodiadau (Saesneg yn unig).

sources-of-evidence-cym

Atodiadau

Noder bod y rhain ar gael yn Saesneg yn unig.

Dogfen Dyddiad cyhoeddi
Annex 1: Media plurality regulatory framework (PDF, 169.7 KB) 16 Tachwedd 2022
Annex 2: Measuring media plurality (PDF, 328.6 KB)16 Tachwedd 2022
Annex 3: Survey analysis: news consumption habits and media plurality outcomes (PDF, 1.2 MB)16 Tachwedd 2022
Annex 4: News consumption and media plurality on Twitter in the UK (economics discussion paper) (PDF, 1018.7 KB)16 Tachwedd 2022
Annex 5: Ipsos Iris passive monitoring data analysis (PDF, 1.1 MB)16 Tachwedd 2022
Annex 6: Exporing attitudes towards online news - the role of online intermediaries in news consumption (qualitative research report) (PDF, 3.4 MB) 116 Tachwedd 2022
Annex 7: Media plurality quantitative report (PDF, 1.1 MB)16 Tachwedd 2022
Quantitative research technical report (PDF, 293.1 KB)16 Tachwedd 2022
Quantitative research questionnaire (PDF, 1.6 MB)16 Tachwedd 2022
Quantitative research respondent-level data (XLSX, 6.3 MB)16 Tachwedd 2022
Quantitative research data tables (XLSX, 5.5 MB)16 Tachwedd 2022
Annex 8: News ecosystem dependencies mapping (PDF, 1.6 MB)16 Tachwedd 2022
Annex 9: Media plurality and online intermediation of news consumption - an economic assessment of potential theories of harm and proposals for evidence gathering (PDF, 2.4 MB)16 Tachwedd 2022
Yn ôl i'r brig