Adroddiadau ISD ar derfysgaeth, trais a chasineb ar-lein

19 Medi 2023

Bydd y Bil Diogelwch Ar-lein, pan gaiff ei ddeddfu, yn ceisio mynd i’r afael â chynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon ar wasanaethau wedi'u rheoleiddio, yn benodol, troseddau blaenoriaeth sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, troseddau casineb, aflonyddu, ac anogaeth i drais a bygythiadau o hynny. Niwed acíwt yw’r rhain ac maent yn peri risg ddifrifol i ddefnyddwyr ar-lein yn y DU, gan gynnwys plant. Bydd y Bil hefyd yn creu dyletswyddau ar gyfer gwasanaethau wedi'u rheoleiddio i amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol a dyletswyddau sy’n benodol i’r gwasanaethau mwyaf[1] sy’n grymuso defnyddwyr i optio allan o ddod i gyswllt â chynnwys niweidiol gan gynnwys anogaeth i gasineb yn erbyn pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol[2], a chamdriniaeth atgas ohonynt. Roedd y mathau o niwed yr ymchwiliwyd iddynt o fewn cwmpas yr adroddiadau hyn yn gyffredin i bob un o'r tair set o ddyletswyddau.

Fe wnaethom gomisiynu dau adroddiad gan Institute of Strategic Dialogue (ISD) i ddatblygu ein dealltwriaeth o brofiadau defnyddwyr o wasanaethau ar-lein wrth i ni baratoi i ymgymryd â dyletswyddau newydd o dan y Bil, gan ganolbwyntio’n benodol ar derfysgaeth, trais a chasineb ar-lein:

  1. Gwead Gwamal y We - Y dirwedd gydgysylltiedig ar-lein o iaith casineb, eithafiaeth, terfysgaeth a mudiadau cynllwyn niweidiol yn y Deyrnas Unedig (PDF, 329.4 KB).
  2. Casineb y Genedl - Mapio Tirwedd yr Iaith y Gellir Arsylwi ei bod yn Gredadwy o Atgas ar y Cyfryngau Cymdeithasol (PDF, 203.9 KB).

Mae’r gwasanaethau y byddwn yn eu rheoleiddio yn debygol o fod yn fyd-eang eu natur, ond ar gyfer yr adroddiadau hyn ein diddordeb oedd gweld a ellid casglu a dadansoddi cynnwys ar-lein o safbwynt defnyddwyr yn y DU. Roeddem hefyd am i’r ymchwil gael ei chynnal ar sail traws-lwyfan oherwydd i ni wybod mai anaml y caiff profiadau ar-lein defnyddwyr y DU eu cyfyngu i un gwasanaeth, ac fel arfer nid yw pobl sy’n ymwneud â lledaenu cynnwys terfysgol neu atgas ar-lein yn cyfyngu eu hunain i un gwasanaeth ychwaith. Mae yna lawer o ffactorau a all ddylanwadu ar ba wasanaethau y gellir eu defnyddio i ledaenu'r math hwn o gynnwys, gan gynnwys eu systemau ymddiriedaeth a diogelwch, sylfaen defnyddwyr a swyddogaethau.

Rydym yn gwerthfawrogol o ISD am ymgymryd â'r prosiectau uchelgeisiol hyn o ystyried y nifer o wasanaethau a'r meysydd o niwed dan sylw. Mae'r ymchwil wedi dangos bod yna heriau i astudiaeth wrthrychol a chynhwysfawr yn y maes hwn, ac mae angen cadw cyfyngiadau'r math hwn o ddadansoddi mewn cof. Yn benodol, er bod y defnydd o ddosbarthwyr awtomataidd i nodi iaith casineb yn fwyfwy cyffredin, mae'r astudiaethau hyn yn dangos bod y fath declynnau’n parhau i fod

yn agored i gyfraddau gwallau sylweddol, oherwydd pwysigrwydd cyd-destun a bwriad wrth bennu a yw postiad penodol yn wirioneddol atgas.

Roedd y prosiectau ymchwil yn uchelgeisiol o ran methodoleg - gan geisio mapio'r dirwedd casineb ar-lein a gweithredwyr sy'n postio cynnwys terfysgol a mathau eraill o gynnwys niweidiol ar draws nifer o wasanaethau, gan gynnwys casglu a dadansoddi sawl math o niwed gan ddefnyddio modelau dysgu peirianyddol a dosbarthwyr lluosog. Ar wahân i'r ffaith fod pob gwasanaeth yn unigryw o ran ei swyddogaethau a'i ddyluniad, yr agwedd fwyaf heriol ar yr ymchwil oedd y mynediad at ddata a fu'n bosibl trwy Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (APIs) cyhoeddus y gwasanaethau sydd o fewn cwmpas. Ar gyfer rhai gwasanaethau, roedd ISD yn gallu casglu meintiau mawr o ddata; ar gyfer rhai eraill roedd y samplau'n fach iawn gyda gwybodaeth fwy cyfyngedig am bob un o'r postiadau.

Y Bil Diogelwch Ar-lein, ar ôl ei ddeddfu, fydd un o’r fframweithiau rheoleiddio cyntaf yn y byd i roi pwerau casglu gwybodaeth ffurfiol yn ymwneud ag unrhyw wasanaeth o ddefnyddiwr i ddefnyddiwr a chwilio sydd ar gael yn y DU, i reoleiddiwr annibynnol. Bydd y pwerau hyn yn caniatáu i Ofcom wneud ceisiadau gorfodol am ddata a gwybodaeth gan wasanaethau wedi'u rheoleiddio, a byddant yn hanfodol i sefydlu metrigau cywir, manwl a chymaradwy er mwyn asesu effeithiolrwydd eu mesurau ymddiriedaeth a diogelwch.

Diben yr ymchwil hon fu deall yn well y risg y bydd defnyddwyr y DU yn dod i gysylltiad â chynnwys terfysgol, anogaeth i drais a chynnwys casineb ar-lein. Mae'r ymchwil wedi darparu mewnwelediad i sut mae'r fath gynnwys yn symud a sut mae'r risg i ddefnyddwyr yn dod i'r amlwg ar ystod o wasanaethau.

Fel ffordd o helpu gwasanaeth i leihau’r posibilrwydd bod cynnwys o’r fath yn cael ei rannu, bydd ein Codau Ymarfer yn argymell mesurau sydd wedi’u hanelu at liniaru cynnwys anghyfreithlon. Unwaith y bydd ein Codau wedi'u cwblhau, bydd hefyd yn ofynnol i wasanaethau gynnal eu hasesiadau risg eu hunain, a lliniaru risgiau a nodir gan gynnwys defnydd terfysgol o'u gwasanaethau, er mwyn ysgogi safonau a systemau gwell a darparu bywyd mwy diogel ar-ein i ddefnyddwyr yn y DU.


1 I wasanaethau Categori 1 yn unig mae’r dyletswyddau’n berthnasol.

2 Y rhain yw hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd ac ailbennu rhywedd.