Cymedroli cynnwys mewn gwasanaethau o ddefnyddiwr i ddefnyddiwr ar-lein

14 Medi 2023

Mae pryderon am niwed sy’n gysylltiedig â chyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau ar-lein eraill sy’n lletya cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr (gwasanaethau o ddefnyddiwr i ddefnyddiwr) wedi mynd yn ganolbwynt i drafodaeth gyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf, yn y DU ac yn fyd-eang. Mae llawer o’r pryderon hyn yn dod o dan gylch gwaith Ofcom fel rhan o’n dyletswyddau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a’n pwerau o dan y drefn llwyfannau rhannu fideos, neu maent yn debygol o fod yn rhan o’n dyletswyddau o dan y Bil Diogelwch Ar-lein.

Rhan bwysig o ymdrechion darparwyr gwasanaeth i gyfyngu ar niwed i ddefnyddwyr yw cymedroli cynnwys – hynny yw, gweithgareddau sydd â’r nod o ddileu, neu leihau gweladwyedd cynnwys a allai fod yn niweidiol. Mae cymedroli cynnwys yn ganolog i drafodaethau cyhoeddus cyfredol am reoleiddio ar-lein, yn rhannol am ei fod yn codi goblygiadau ynghylch sut y gall defnyddwyr fynegi eu hunain yn rhydd ar-lein. Bydd hefyd yn berthnasol i waith Ofcom yn y dyfodol ar systemau a phrosesau diogelwch gwasanaethau ar-lein. Fodd bynnag, mae gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ynghylch cymedroli cynnwys yn gymharol wasgarog ac anghyflawn, ac mae’n bosib y bydd yn anodd i bobl nad ydynt yn arbenigwyr lunio barn gyfannol am arferion a heriau cyffredin

Er mwyn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o gymedroli cynnwys, dros y ddwy flynedd diwethaf buom yn gweithio gyda chwe darparwr gwasanaeth o wahanol faint a math, gan gynnwys Facebook (Meta), YouTube (Google), Reddit a Bumble gan ganolbwyntio’n arbennig ar sut gall darparwyr adnabod niwed, ac ymdrin ag ef a’i olrhain. Roedd ymgysylltiad darparwyr gwasanaeth yn wirfoddol ac rydym yn ddiolchgar iddynt am yr amser a’r ymdrech a roesant i’r gwaith hwn. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o’n canfyddiadau yn sgil y profiadau hyn, yn ogystal â’n myfyrdodau ein hunain ar rai o’r penderfyniadau a’r cyfaddawdau y gallai gwasanaethau eu hwynebu wrth ddylunio a gweithredu eu systemau a’u prosesau cymedroli.

Trosolwg

Cymedroli cynnwys mewn gwasanaethau ar-lein o ddefnyddiwr i ddefnyddiwr - Trosolwg o brosesau a heriau (PDF, 222.1 KB)