Sut mae pobl yn cael eu niweidio ar-lein: profi model o safbwynt defnyddwyr

21 Medi 2022

Bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein, yn ôl y drafft presennol, yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom asesu, a chyhoeddi ei chanfyddiadau am y risgiau o niwed sy'n deillio o gynnwys y bydd defnyddwyr efallai'n dod ar ei draws ar wasanaethau sydd o fewn y cwmpas, a bydd yn mynnu bod y gwasanaethau sydd o fewn y cwmpas yn asesu'r risgiau o niwed i'w defnyddwyr o'r fath gynnwys, a chael systemau a phrosesau yn eu lle ar gyfer diogelu unigolion rhag niwed.

Gall defnyddwyr ar-lein wynebu ystod o risgiau ar-lein, ac mae'r niwed y byddant o bosib yn ei brofi'n eang, yn gymhleth ac yn cynnwys sawl arlliw. At hynny, gall effaith yr un niwed amrywio rhwng defnyddwyr. Yng ngoleuni'r cymhlethdod hwn, mae angen i ni ddeall drwy ba fecanweithiau y gall cynnwys ac ymddygiad ar-lein arwain at niwed, a defnyddio'r mewnwelediad hwnnw i gyfeirio ein gwaith, gan gynnwys ein harweiniad i wasanaethau a reoleiddir ynghylch sut y gallent gydymffurfio â'u dyletswyddau.

Mae'r adroddiad hwn yn nodi model generig ar gyfer deall sut mae niwed ar-lein yn dod i'r amlwg. Nod yr ymchwil hon oedd profi fframwaith, a ddatblygwyd gan Ofcom, gyda phrofiadau defnyddwyr o'r byd go iawn. Roeddem am archwilio a oedd risgiau a phrofiadau a rennir defnyddwyr a allai ddarparu un fframwaith y gellid dadansoddi gwahanol fathau o niwed drwyddo. Mae cwpl o ystyriaethau pwysig wrth ddarllen yr adroddiad hwn:

  • Mae'r ymchwil yn mynd y tu hwnt i systemau a phrosesau diogelwch llwyfannau fel y gall helpu i daflu goleuni ehangach ar yr hyn y mae pobl yn ei brofi ar-lein. Felly mae'n cyffwrdd ar faterion sydd y tu hwnt i gwmpas y gyfundrefn diogelwch ar-lein arfaethedig.
  • Mae'r ymchwil yn adlewyrchu barn a phrofiadau pobl o'u byd ar-lein: mae'n seiliedig ar bobl sy'n hunan-adnabod fel rhai sydd wedi profi 'niwed sylweddol', boed hynny wedi'i achosi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, neu 'gynnwys anghyfreithlon’. Gall diffiniadau cyfranogwyr o gynnwys niweidiol ac anghyfreithlon amrywio ac nid ydynt o reidrwydd yn cyd-fynd â sut fydd y Mesur Diogelwch Ar-lein, Ofcom neu eraill o bosib yn eu diffinio.

Mae'r ymchwil hon yn cynrychioli golwg manwl ar y ffactorau yn y model sy'n weladwy ac yn hysbys i ddefnyddwyr. Ar ôl dangos bod y model yn effeithiol wrth gofnodi'r rhain, mae angen i ni ddeall hefyd y ffactorau nad ydynt yn weladwy neu'n hysbys i ddefnyddiwr, y mae llawer ohonynt wedi'u nodi yn yr adroddiad hwn fel meysydd i ymchwilio ymhellach iddynt.

Sut mae pobl yn cael eu niweidio ar-lein - profi model o safbwynt defnyddwyr (PDF, 240.6 KB)