Hysbysiad tryloywder: Ymchwil i lwyfannau ar-lein i archwilio diogelwch ar-lein

09 Chwefror 2023

Rhan o waith Ofcom yw cynnal ymchwil yng nghyswllt ein dyletswyddau presennol sy’n ymwneud â llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU ac ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, a pharatoi ar gyfer ein dyletswyddau yn y dyfodol o dan y Mesur Diogelwch Ar-lein. Bydd hyn yn golygu bod Ofcom neu ein hasiantaethau ymchwil allanol yn creu cyfrifon ar lwyfannau rhannu fideos, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau eraill sy’n galluogi rhyngweithio rhwng defnyddwyr (gan gynnwys Discord, Facebook, Instagram, Roblox, Snapchat, TikTok, Twitch, Twitter ac YouTube).

Bydd hyn yn golygu, er enghraifft, cofrestru ar gyfer llwyfan a mynd ar hyd taith defnyddiwr i arsylwi proses gofrestru’r llwyfan neu greu cyfrifon gan ddefnyddio persona ffuglennol, sy’n dynwared ymddygiad defnyddiwr, er mwyn deall profiad y defnyddiwr. Rydym yn rhagweld y bydd hon yn ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol y gallwn ei chyfuno â data arall er mwyn deall profiadau pobl ar-lein.

Yn Chwefror/ Mawrth 2023, rydym yn bwriadu cynnal cynllun ymchwil peilot ar raddfa fach gan ddefnyddio cyfrifon a sefydlwyd gan ymchwilwyr ar wahanol lwyfannau, gyda chymorth asiantaeth ymchwil. Bydd y cyfrifon yn defnyddio personâu ffuglennol sy’n seiliedig ar blant ifanc (3 – 12 oed) i’n helpu ni i ddeall pa gynnwys mae’r cyfrifon hyn yn ei weld ar bob llwyfan ac, yn benodol, a ydynt yn gweld cynnwys a allai fod yn anghyfreithlon neu’n niweidiol.

Mewn rhai achosion, gall rhedeg y cyfrifon hyn gynnwys rhyngweithio sylfaenol (dilyn/cyfeillio ayb) â chyfrifon eraill ar y llwyfan lle bo angen. Ein bwriad yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ryngweithio â defnyddwyr eraill y llwyfan. Rydym wedi dylunio protocolau ymchwil i leihau i’r graddau y mae hynny’n ymarferol y tebygolrwydd y bydd ymchwilwyr yn ymgysylltu â chyfrifon preifat plant, ac i leihau ymgysylltiad ymchwilwyr â chyfrifon preifat oedolion ac eithrio cyfrifon sydd â nifer fawr o ddilynwyr / cysylltiadau (h.y. cyfrifon sydd â mwy na nifer penodol o ddilynwyr/cysylltiadau). Yn dibynnu ar ganlyniad y peilot hwn, efallai y byddwn yn cynnal rhagor o ymchwil tebyg yn y dyfodol hefyd.

Rydym wedi diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.