Profiadau ac agweddau defnyddwyr llwyfannau rhannu fideos

28 Tachwedd 2023

Mae Ofcom wedi comisiynu ymchwil i ddeall profiadau pobl o ddefnyddio, ac agweddau tuag at, fesurau diogelwch ar lwyfannau rhannu fideos (VSP).

Bu i ni ymchwilio i ystod o safbwyntiau defnyddwyr, o rieni a gofalwyr i ddefnyddwyr llwyfannau sy'n lletya cynnwys pornograffig. Bydd y canfyddiadau'n cyfeirio sut rydym yn rheoleiddio VSPs, gan gynnwys ein rheolau ar ddiogelu plant a'n hymgysylltiad â darparwyr hysbysedig.

Rydym wedi cyhoeddi'r ymchwil hon ochr yn ochr â'n hadroddiad cyntaf ar lwyfannau rhannu fideos ers i ni ddechrau bod yn rheoleiddiwr statudol ar gyfer llwyfannau a sefydlir yn y DU.

Noder bod y pryderon a'r mesurau a drafodir yn yr adroddiadau hyn yn mynd y tu hwnt i gwmpas y niwed a'r mesurau mewn deddfwriaeth VSP. Mae'r ymchwil yn cynnwys llwyfannau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom ar hyn o bryd o dan y gyfundrefn VSP, ond maent yn dal i ddarparu cyd-destun pwysig ar gyfer deall y dirwedd VSP. Gan y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil ac nid gan Ofcom y mae'r holl safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiadau hyn.