Perfformiad band eang cartref y DU, cyfnod mesur Mawrth 2022

Mae ymchwil gan Ofcom a gyhoeddwyd yn ein Hadroddiad ar y Farchnad Gyfathrebiadau 2022 yn dangos bod bron i naw o bob deg (87%) o aelwydydd y DU yn cymryd gwasanaeth band eang cartref sefydlog. Mae'r defnydd helaeth o ffrydio fideo a gweithgareddau eraill sy'n llyncu lled band, yn ogystal â thwf mewn gweithio o bell yn sgil y pandemig Covid-19, yn golygu bod pobl yn disgwyl mwy nag erioed o'u cysylltiadau band eang.

Felly, mae cysylltedd band eang dibynadwy o ansawdd da yn rhan hanfodol o fywyd i'r rhan fwyaf o bobl yn y DU; mae'r adroddiad hwn yn crynhoi ein hymchwil er mwyn deall sut mae'r gwasanaethau hyn yn perfformio. mae'r ymchwil yn seiliedig ar ddwy brif set ddata: data a gasglwyd gan SamKnows Limited o'i banel o wirfoddolwyr sy'n cysylltu uned monitro caledwedd i'w llwybrydd band eang; a data a ddarparwyd i Ofcom gan ddarparwyr band eang.

Dogfennau cefnogol

Perfformiad Band Eang Cartref y DU – Trosolwg (PDF, 1.0 MB)

Perfformiad Band Eang Cartref – Atodiadau (cyhoeddwyd Hydref 2022) (PDF, 336.0 KB) (Saesneg yn unig)

Perfformiad Band Eang Cartref – Data mewn siartiau (cyhoeddwyd Hydref 2022) (Saesneg yn unig)

Data gan banelwyr band eang cartref (data Mawrth 2022) (CSV, 1.9 MB) (Saesneg yn unig)

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrîn lawn (cliciwch y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod). I lywio'n gyflym i dudalennau gwahanol, cliciwch y rhifau tudalennau ar waelod y teclyn i ddatgelu'r rhestr dudalennau. (Saesneg yn unig)