Cyfryngau'r Genedl 2021

05 Awst 2021

Dyma bedwerydd adroddiad blynyddol Cyfryngau'r Genedl gan Ofcom, cyhoeddiad cyfeiriadol i’r diwydiant, gwneuthurwyr polisi, academyddion a defnyddwyr.

Prif amcanion yr adroddiad yw adolygu tueddiadau allweddol yn sector y cyfryngau a nodi sut y caiff cynulleidfaoedd eu gwasanaethu yn y DU. Rydym yn mabwysiadu safbwynt traws-lwyfan, gan gynnwys darlledu teledu a radio, yn ogystal â darpariaeth ddigidol gan gynnwys fideo ar-lein a ffrydio sain.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae adroddiad rhyngweithiol yn cyd-fynd â'r adroddiad hwn sy'n cynnwys ystod eang o ddata. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n ymdrin â themâu a materion penodol sy'n berthnasol i'r gwledydd hynny.

Cyfryngau'r Genedl: adroddiadau

Adroddiad rhyngweithiol

Mae'r adroddiad data yma, sydd ar gael yn Saesneg yn unig, yn darparu mynediad rhyngweithiol i amrywiaeth eang o ddata.

Media Nations: Interactive report 2021