Cyfryngau'r Genedl 2023

03 Awst 2023

Dyma chweched adroddiad Cyfryngau'r Genedl blynyddol Ofcom, adroddiad ymchwil ar gyfer diwydiant, llunwyr polisi, academyddion a defnyddwyr.

Prif amcanion yr adroddiad yw adolygu tueddiadau allweddol yn sector y cyfryngau a nodi sut mae cynulleidfaoedd yn cael eu gwasanaethu yn y DU. Mae gennym bersbectif ar draws llwyfannau, gan gynnwys teledu a radio wedi'u ddarlledu, yn ogystal â darpariaeth ddigidol gan gynnwys ffrydio fideo a sain ar-lein.

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ymdrin â'r themâu a'r materion penodol sy'n berthnasol i'r gwledydd hynny.

Cyfryngau'r Genedl: yr adroddiadau

Media Nations 2023: UK (PDF, 2.3 MB) (yn Saesneg)

Pwyntiau allweddol

    • Parhaodd gwylio teledu a fideo i ostwng yn gyffredinol yn 2022, er i ddarlledwyr gynnal eu cyfran o ganlyniad yn rhannol i dwf mewn gwylio ar eu llwyfannau ar-alw
    • Gostyngodd cyrhaeddiad teledu wedi'i ddarlledu a'r niferoedd fu'n ei wylio o gryn dipyn yn 2022, a bu dirywiad sylweddol yn nifer y rhaglenni wedi'u darlledu sy'n denu cynulleidfaoedd torfol .
    • Gan ddilyn adlam gref yn 2021, gostyngodd refeniw darlledwyr masnachol ychydig yn 2022 mewn hinsawdd economaidd anodd.
    • Yn gyffredinol, dychwelodd darlledwyr i amserlenni cynhyrchu llawn yn 2022, gyda chynnydd mewn rhaglenni PSB a ddarlledwyd y tro cyntaf, er gwaethaf rhai effeithiau parhaus y pandemig.
    • Mae'r farchnad SVoD yn aeddfedu, gyda nifer yr aelwydydd sy'n ei defnyddio i'w weld yn sefydlogi a darparwyr yn ceisio cynnal twf yn eu refeniw trwy esblygu eu modelau busnes.
    • Mae twf parhaus mewn hysbysebu a nawdd lleol yn rhoi hwb i radio masnachol. Mae diffodd AM a newid i DAB yn arbed costau ychwanegol ac yn darparu gwell mynediad at gynulleidfaoedd
    • Yn gyffredinol, mae cyrhaeddiad radio byw yn uchel o hyd wrth i wrando barhau i symud i ar-lein. Mae mathau eraill o sain fel ffrydio cerddoriaeth a phodlediadau'n fwy poblogaidd gyda gwrandawyr ifainc

Adroddiadau'r gwledydd

Yn Saesneg y mae gweddill yr adroddiadau:

Dogfennau eraill

Yn Saesneg y mae'r dogfennau hyn: