Llywio drwy’r newyddion mewn byd ar-lein

13 Gorffennaf 2018

Mae Ofcom wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil ansoddol heddiw ynghylch beth mae pobl yn ei feddwl a’i deimlo am y newyddion a sut maen nhw’n cael gafael arno.

Gyda llawer iawn o straeon newyddion ar gael 24/7, drwy amrywiaeth eang o ddyfeisiau a llwyfannau ar-lein, mae’r ymchwil yn datgelu sut rydyn ni’n addasu ein harferion a’n hymddygiad er mwyn dal i fyny. Mae’r ymchwil hwn yn helpu Ofcom i gyflawni ei ddyletswydd i hyrwyddo a chynnal ymchwil mewn llythrennedd yn y cyfryngau.

Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi sylwebaeth ar y prif themâu o’r adroddiadau, gan gynnwys:

  • sialens ‘gormod o newyddion’;
  • defnyddio newyddion yn ‘oddefol’;
  • amgylchedd newyddion aneglur cyfryngau cymdeithasol;
  • meddwl yn feirniadol wrth lywio drwy newyddion ar-lein; ac
  • ymddiriedaeth mewn ffynonellau newyddion.

Mae Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom, wedi cyflwyno sylwadau ar y canfyddiadau yma.

Ymchwil

Saesneg yn unig.

Scrolling news: The changing face of online news consumption (PDF, 9.5 MB)

The changing world of news: Qualitative research (PDF, 1000.4 KB)

Sylwebaeth

Llywio drwy newyddion mewn byd ar-lein: Crynodeb o ymchwil ansoddol (PDF, 678.9 KB)

Cael gafael ar y newyddion… heb hyd yn oed sylweddoli: Sylwebaeth gan Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom