Agweddau tuag at gynnwys treisgar a rhywiol, a gwasanaethau llinol ac ar-alw

31 Hydref 2023

Mae cynnwys teledu a fideo yn chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl. Mae cynulleidfaoedd yn frwd dros y cynnwys maen nhw’n ei weld ar eu sgriniau, boed yn gynnwys sy’n cael ei ddarlledu’n fyw, neu ar-alw.  Er bod gan wylwyr fwy o ddewis nag erioed, mae ganddynt hawl i ddisgwyl i ddarlledwyr a darparwyr gwasanaethau ar-alw gynnal safonau ar gyfer eu cynnwys.

Un o’n prif ddyletswyddau yw diogelu cynulleidfaoedd rhag deunydd niweidiol a thramgwyddus ar y gwasanaethau teledu rydym yn eu rheoleiddio, a hynny gan roi sylw i’r angen i ddiogelu safonau mewn modd sy’n rhoi’r sicrwydd gorau bod y lefel briodol o ryddid mynegiant yn cael ei chynnal. Rydym yn gwybod bod agweddau cymdeithas tuag at niwed a thramgwydd yn newid dros amser, felly mae’n hanfodol bod ein dull rheoleiddio hefyd yn esblygu i adlewyrchu pryderon newidiol y cyhoedd.

Er mwyn ein helpu i ddeall disgwyliadau ac agweddau gwylwyr a gwrandawyr, ac er mwyn llywio ein gwaith rheoleiddio yn y dyfodol, rydym yn cynnal ymchwil cynulleidfaoedd yn rheolaidd ar amrywiaeth o faterion pwysig. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil a fydd yn ein helpu i ddeall disgwyliadau ac agweddau gwylwyr am y cynnwys maen nhw’n ei wylio, sut maen nhw’n ei wylio, a sut mae’n effeithio arnyn nhw.

Agweddau Cynulleidfaoedd at Drais a Chynnwys Rhywiol ar y Teledu

Ers i Ofcom gynnal ymchwil ar gynnwys Treisgar a Rhywiol ar y teledu, mae newid cymdeithasol a diwylliannol sylweddol wedi bod yn y DU. Fe wnaethom gomisiynu’r ymchwil hon er mwyn dysgu mwy am agweddau pobl tuag at y math hwn o gynnwys, o safbwynt gwylwyr sy’n oedolion, a’r hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei ystyried yn briodol i blant ei weld.  Mae’r ymchwil hon yn edrych ar y ffactorau sy’n siapio’r hyn y mae cynulleidfaoedd yn ei ystyried yn dderbyniol, gan gynnwys agweddau at y trothwy 9pm, pwysigrwydd rhybuddion, a genre’r rhaglen.

Agweddau Cynulleidfaoedd at Drais a Chynnwys Rhywiol ar y Teledu (PDF, 1012.0 KB)

Disgwyliadau Cynulleidfaoedd o Wasanaethau Llinol ac Ar-Alw

Ers cyhoeddi ein hymchwil yn 2020, a oedd yn edrych ar y newid yn nisgwyliadau cynulleidfaoedd y DU mewn byd digidol, mae’r dirwedd cyfryngau wedi newid ymhellach. Erbyn hyn, mae darlledwyr teledu yn defnyddio eu llwyfannau ar-alw nid yn unig i ddarparu gwasanaethau dal-i-fyny i wylwyr, ond hefyd i gynnig cynnwys cyn iddo gael ei ddangos ar deledu llinol, neu fel dewis ar wahân i’w sianeli darlledu. Mae’r cynnydd mewn gwasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifio hefyd yn golygu bod gwylwyr yn gallu cael gafael ar fwy o gynnwys cyfoes ac archifol gwahanol o bob cwr o’r byd. Mae’r newid cyflym hwn yn arferion y gwylwyr, ynghyd â thrafodaethau parhaus ynghylch sut y gallai fod angen i reoleiddio gwasanaethau fideo ar-alw ddatblygu i adlewyrchu’r newidiadau hyn, yn creu’r angen am ddealltwriaeth ddyfnach o’r ffyrdd y mae gwylwyr yn profi cynnwys clyweledol. Fe wnaethom gomisiynu’r ymchwil hon er mwyn deall yn well beth mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan wahanol gynnwys ar deledu llinol a gwasanaethau fideo ar-alw, a sut mae’r canfyddiadau hyn yn rhyngweithio â’i gilydd.

Disgwyliadau Cynulleidfaoedd o Wasanaethau Llinol ac Ar-Alw (PDF, 196.1 KB)