Agweddau cyhoeddus at iaith dramgwyddus ar deledu a radio

22 Medi 2021

Rhybudd: mae'r adroddiad hwn yn cynnwys ystod eang o eiriau a allai beri tramgwydd.

Comisiynodd Ofcom Ipsos MORI i gynnal ymchwil i'w helpu i ddeall agweddau'r cyhoedd tuag at iaith dramgwyddus ar deledu a radio. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar ddefnyddio iaith a allai fod yn dramgwyddus ar deledu neu radio darlledu wedi'u hamserlennu yn hytrach na rhaglenni ar-alw gan fod y rheolau ar gyfer gwasanaethau darlledu ac ar-alw yn wahanol. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun wedi'i ddiweddaru o agweddau at iaith dramgwyddus, gan adeiladu ar ymchwil blaenorol a gomisiynwyd gan Ofcom yn 2016. Mae hefyd yn archwilio agweddau at fathau eraill o gynnwys a allai fod yn dramgwyddus, sef ffugio wynebau duon, dynwared acenion, pennu'r rhywedd anghywir a  chamenwi.

Roedd yr ymchwil yn ymagwedd dulliau cymysg. Cofnododd arolwg meintiol ymatebion digymell ar dderbynioldeb 186 o eiriau. Fe'i rhedwyd dros bum niwrnod, rhwng 22 a 26 Chwefror 2021, gyda 368 o ymatebwyr yn cael eu holi am bob un o'r 186 o eiriau. Asesodd ymatebwyr dderbynioldeb pob gair cyn ac ar ôl y trothwy yn unigol, gan adolygu tua 37 o eiriau a allai fod yn dramgwyddus bob dydd. Dim ond ar y teledu y mae'r trothwy yn berthnasol, am 9pm. Ni ddylai deunydd sy'n anaddas i blant, yn gyffredinol, gael ei ddangos cyn 9pm neu ar ôl 5.30am. Ar y radio, mae Ofcom yn defnyddio cysyniad cymharol gymaradwy o adegau "pan fydd plant yn arbennig o debygol o fod yn gwrando".

Bu i'r edefyn ansoddol gynnwys 37 o grwpiau trafod ar-lein a 25 o gyfweliadau manwl fu'n cynnwys cyfranogwyr o amrywiaeth o leoliadau a chefndiroedd. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 15 Chwefror a 6 Mai 2021.

Agweddau cyhoeddus at iaith dramgwyddus ar deledu a radio - Rhagair (PDF, 225.9 KB)