Sector cynhyrchu teledu’r DU

22 Awst 2023

Mae sector cynhyrchu'r DU yn rhan amrywiol, gystadleuol a llwyddiannus yn rhyngwladol o'n heconomi greadigol, gan gyfleu argraff gadarnhaol o’r Deyrnas Unedig ar draws y byd.

Nid ar hap y mae’r llwyddiant yma wedi digwydd.  Mae wedi tyfu allan o berthynas agos gyda'r gwasanaeth cyhoeddus a'r darlledwyr masnachol a chefnogaeth ganddynt, ac o gyfres o ymyriadau rheoleiddio dros yr ugain mlynedd diwethaf.  Mae'r ymagwedd hon wedi sicrhau bod amrywiaeth eang o raglenni yn parhau i fod ar gael ar gyfer pob cynulleidfa ym mhob cwr o'r DU.

Mae Ofcom yn ymgysylltu'n rheolaidd â chynhyrchwyr a phartïon â diddordeb ar draws sector cynhyrchu'r DU, wrth i ni barhau i gefnogi cyfryngau o ansawdd uchel yn y DU y mae cynulleidfaoedd yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi.

Fe wnaethom gomisiynu Oliver & Ohlbaum Associates (O&O) yn gynharach eleni i roi barn gyfoes i ni am y diwydiant a rhai o'r cyfleoedd a'r heriau y bydd yn eu hwynebu dros y deng mlynedd nesaf. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau y bydd Ofcom yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i gefnogi economi greadigol ffyniannus yn y DU a deall effaith ein penderfyniadau yn y dyfodol.