Rheolau Ofcom ar amlygiad i EMF


Mae'r rhan fwyaf o drwyddedau sbectrwm a roddir gan Ofcom yn cynnwys amod (amod trwydded EMF) sy'n mynnu bod trwyddedeion yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r terfynau yng Nghanllawiau ICNIRP ar amlygiad i EMF er mwyn diogelu'r cyhoedd. Rydym yn cyfeirio at y terfynau hyn fel ‘terfynau EMF cyhoeddus cyffredinol”. Mae'r amod yn berthnasol i drwyddedau y mae eu hoffer radio wedi'i awdurdodi ar hyn o bryd i drawsyrru pwerau sy'n uwch na 10 Wat EIRP neu 6.1 Wat ERP.

Nid yw'r amod yn cynnwys:

  • amlygiad y trwyddedai ac felly nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i drwyddedau amddiffyn eu hunain rhag EMF; neu
  • amlygiad gweithwyr ac felly nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i drwyddedau amddiffyn gweithwyr rhag EMF. Ceir rhagor o wybodaeth am amlygiad gweithwyr yn y ddolen ar waelod y dudalen hon.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein Harweiniad ar Gydymffurfiaeth a Gorfodi EMF a'n gwybodaeth gyffredinol am EMF.

Cefndir

Mae ein rheolau ar amlygiad i EMF wedi bod yn destun dau ymgynghoriad cyhoeddus (sydd ar gael ar ein gwefan), yn ogystal â'r weithdrefn ymgynghori ffurfiol ar amrywio trwyddedau.

Mae gweddill yr wybodaeth ar y dudalen hon yn Saesneg yn unig.

You can read all our policy documents, along with other supporting documents and stakeholders' responses to our consultation proposals.